Golwg yn ôl ac edrych ymlaen gyda Dr John Boulton

Ar 25 a 26 Tachwedd daeth dros 650 o bobl o bob cwr o Gymru ynghyd yng Nghaerdydd ar gyfer lansiad Gwelliant Cymru. Rydym yn cael gair â Dr John Boulton, Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru a Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG i ddarganfod beth oedd ei fyfyrdodau allweddol o’r digwyddiad.

Diolch i bawb a ymunodd â ni yn bersonol ac ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer lansio Gwelliant Cymru, rydym yn ei werthfawrogi’n fawr iawn. Mae’r gefnogaeth a’r positifrwydd tuag at yr ail-lansiad o bob rhan o’r wlad wedi bod yn braf iawn ac yn ysbrydoledig.

Gyda’n gilydd rydym ni wedi dod yn Gwelliant Cymru; a drwy ddweud ‘ni’ rwy’n golygu pob un ohonom sy’n cydweithio i wella’r system ar gyfer pobl Cymru.

Ers yr Adolygiad Seneddol a chyhoeddi Cymru Iachach rydym wedi bod yn gweithio ar ail-frandio’r gwasanaeth Gwella 1000 o Fywydau. Yn ystod yr amser hwn gwnaethom sylweddoli bod angen i ni wneud mwy na hyn – roedd angen i ni ail-frandio’r ffordd rydyn ni’n meddwl am Welliant yng Nghymru. Er mwyn codi proffil Gwelliant, er mwyn galluogi mwy o bobl i weld sut y gall Gwelliant fod yn gyfrwng pwerus i alluogi trawsnewid.

Bydd y buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn galluogi Gwelliant Cymru i fynd gam ymhellach, gan weithio mewn partneriaeth ag arweinwyr a gwellhawyr ar draws y sectorau iechyd a gofal. Gyda’n gilydd gallwn wella, gallwn gyflawni a gallwn wneud pethau’n well i bobl Cymru – er mwyn helpu i greu Cymru iachach.

Wrth i mi sefyll ar y llwyfan ac edrych allan, gwelais ystafell llawn pobl sydd ag angerdd gwirioneddol am welliant. Fel tad, gwr a mab, rydw i eisiau’r gofal gorau i fy nheulu. Ac fel meddyg, roeddwn bob amser eisiau darparu gofal gwych i’r cleifion yr oeddwn i’n eu gwasanaethu.

Roedd yn gyffrous iawn dod â phobl ynghyd i drafod sut y gallwn gyflawni hyn. Hoffwch ddiolch i’r 96 unigolyn o bob cwr o Gymru sy’n cyflwyno ac yn rhannu eich arbenigedd a’ch profiad o Welliant. Clywsom gan ystod eang o siaradwyr, gan gynnwys trafodaeth banel a wnaeth i ni feddwl ar ddyfodol Gwelliant.

Cefais hefyd sgyrsiau gwych gyda phobl a chefais fy ysbrydoli gan yr uchelgais ar y cyd a’r wefr ynghylch Gwelliant.

Un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous yw ein partneriaeth gyda Menter Q yn y Sefydliad Iechyd i ddatblygu a lansio’r Q Lab Cymru yn y gwanwyn.  Bydd Q Lab Cymru yn dîm ac yn ofod o fewn Gwelliant Cymru, gan gefnogi’r rhai sy’n gweithio ar flaenoriaethau allweddol i ddysgu, arbrofi ac addasu rhaglenni fel y gallant gysylltu cystal ag y bo modd â realiti newid ar lawr gwlad a chael mwy fyth o effaith. Bydd Q Lab Cymru yn cael ei ddatblygu a’i ysbrydoli gan Q Improvement Lab. Mae Q Improvement Lab wedi datblygu ffyrdd i adeiladu momentwm a gwneud cynnydd ar rai o’r materion mwyaf cymhleth sy’n wynebu iechyd a gofal.

Mae’n debyg y bydd 2020 yn flwyddyn fawr i Welliant Cymru. Edrychaf ymlaen at gael sgyrsiau gyda chi a chydweithio i fwrw ymlaen â hyn. Hoffwch ddiolch i chi unwaith eto am eich holl waith caled ac edrychaf ymlaen at symud ymlaen ar ein taith Gwelliant ar gyfer Cymru gyfan gyda chi.

Ni fydd bob amser yn hawdd ond gyda’n gilydd gallwn sicrhau Cymru iachach.

Gwyliwch fideo uchafbwyntiau’r gynhadledd ar YouTube > Ewch i’n gwefan newydd  Dilynwch ni ar Twitter