Ymateb i COVID-19 a gwneud gwelliannau gan John Boulton Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru

Mae’n anodd credu nad oedden ni wedi clywed y gair COVID-19 yr adeg hon y llynedd. Ac nid oedd y rhan fwyaf ohonom wedi clywed am Zoom neu Teams. Roedd tîm Gwelliant Cymru yn gweithio’n galed ar lansiad ein brand newydd ac yn gyffrous am y flwyddyn i ddod. Yna tarodd y pandemig.

O ganlyniad, symudodd Gwelliant Cymru allan o’u swyddfa ar fyr rybudd i wneud lle ar gyfer y ganolfan gyswllt lle y byddai staff yn ateb miloedd o alwadau gan y cyhoedd. Ac ers hynny rydym wedi bod yn rhan o ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r tîm wedi bod yn ardderchog wrth gefnogi ac ymgymryd â rolau newydd, o fod yn rhan o’r ganolfan gyswllt i ddatblygu hyfforddiant a chefnogi sefydlu canolfannau profi’r boblogaeth. Mae wedi bod yn anhygoel bod yn rhan o hwn. Allwn i ddim bod yn fwy balch o weithio mewn tîm mor wych.

Er ei bod wedi bod yn flwyddyn drawmatig i ni yn GIG Cymru, mae ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn ymateb yn arwrol ag egni, ymrwymiad ac arloesedd. Rydym wedi gweld chwyldro cyflym yn y ffordd y darperir gwasanaethau mewn llawer o feysydd er mwyn ymateb i’r her ac rwy’n edmygu cydweithwyr ar y rheng flaen ar hyd yr amser.

Rydym hefyd wedi gorfod newid y ffordd rydym yn gweithio ac addasu i’r amgylchiadau. Ers mis Mawrth, mae’r tîm wedi darparu cymorth mewn ystod o feysydd i gefnogi’r ymateb i’r pandemig ac wedi dysgu sgiliau newydd ar hyd y ffordd. Yn cynnwys:

  • Profi yng Nghymru – o ddatblygu a chyflwyno’r system, gweithredu’r ganolfan profi drwy ffenest y car, gweithio gyda’r fyddin i sefydlu safleoedd newydd a pharhau i ddatblygu a gwella prosesau sy’n dal i fodoli heddiw. 
  • Cartrefi gofal – darparu cefnogaeth i staff a helpu gyda’r heriau y maent wedi’u hwynebu.
  • Iechyd meddwl ac anableddau dysgu – cyhoeddi cwrs ar-lein newydd a helpu i ddatblygu adnoddau COVID-19 “hawdd eu darllen”.
  • Pecyn Cymorth Dysgu o Covid – a ddyluniwyd yn arbennig i gynorthwyo staff i fyfyrio ac adeiladu ar y dysgu y maent wedi’i wneud yn ystod y cyfnod heriol hwn, i ddatblygu gwasanaethau o’r argyfwng hwn.

Dyma gipolwg yn unig o’r gwaith parhaus – nid yw’r gwaith ar ben eto.

Er bod COVID-19 bron yn sicr o fod yn rhan o’r dyfodol, rydym yn gyffrous i gymryd ein dysgu o’r ychydig fisoedd diwethaf a’i ddefnyddio yn ein gwaith gwella. Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd yr amser i fyfyrio a dysgu, ystyried yr hyn sy’n gweithio’n dda, yn ogystal â’r hyn nad yw cystal, fel ein bod yn sicrhau ein bod ni’n cynnal ac yn gwreiddio gwelliannau a fydd o fudd i bobl Cymru am flynyddoedd i ddod. Dyma beth fydd Gwelliant Cymru yn gweithio arno mewn partneriaeth â thimau ledled Cymru yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, i helpu i sicrhau bod daioni yn dod o’r cyfnod hwn am genedlaethau i ddod.

Os oes rhywbeth yr ydych chi a’ch tîm yn cael anhawster ag ef yn benodol yn ystod y galw cynyddol cyfredol a phwysau’r gaeaf, cysylltwch â ni. Rydym yma i’ch cefnogi chi’r gorau y gallwn ni gwelliantcymru@wales.nhs.uk.