Myfyrio ar ein profiad COVID i wella gofal gan Paul Gimson, Arweinydd Rhaglen, Gwelliant Cymru

Mae COVID wedi bod yn brofiad trawmatig i lawer o bobl sy’n gweithio yn y GIG. Golygfeydd sy’n edrych fel maes y gad, adleoli staff a gall ymddangos nad oes pen draw i hyn. Fodd bynnag, bu agweddau cadarnhaol. Gwell gwaith tîm, ffyrdd newydd o ddarparu gofal a defnyddio technoleg yn well.

Sut allwn ni roi’r dysgu hwn ar waith? Sut allwn ni sicrhau ein bod ni’n cadw’r pethau da, a sicrhau nad ydyn ni’n dychwelyd i’n hen arferion? Cynigia erthygl gan Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau How to create real, lasting change after Covid-19rywfaint o help i ni, efallai. Mae’n sôn am 4 math gwahanol o weithgarwch sydd wedi digwydd yn ystod yr ymateb i COVID a sut y gallem ymateb iddynt;

  • Gweithgarwch Darfodedig; Nid oedd y pethau hyn eisoes yn addas at y diben, ond cyn yr argyfwng, buon ni’n dal i’w gwneud beth bynnag. Mae ein hymateb i COVID wedi rhoi cyfle inni roi’r gorau i wneud y rhain am byth.
  • Gweithgarwch sydd wedi’i Atal Dros Dro; Dyma’r pethau y gwnaethon ni roi’r gorau iddynt er mwyn ymdopi â COVID, ond bydd yn rhaid i ni eu hailgychwyn rywbryd.
  • Mesurau Dros Dro; Dyma’r pethau y bu’n rhaid i ni eu gwneud mewn ymateb i’r gofynion uniongyrchol, ond maen nhw’n benodol i’r argyfwng ac ar ryw adeg, mae angen i ni roi’r gorau iddynt
  • Mesurau Arloesol; Dyma’r pethau newydd rydyn ni wedi gallu rhoi cynnig arnyn nhw.  Bellach, mae angen i ni ymhelaethu ar y rhain a rhannu’r hyn a ddysgwyd ar draws y gwasanaeth.

Yn seiliedig ar hyn, rydym wedi datblygu Pecyn Cymorth Dysgu o COVID’. Mae’n seiliedig ar y syniad bod dod â thimau ynghyd i ystyried y cwestiynau hyn mewn trafodaeth wedi’i hwyluso nid yn unig yn ddefnyddiol yn ymarferol wrth gefnogi’r gwasanaeth i ddatblygu – mae’n bwysig wrth helpu’r unigolion hynny a fu wrthi i fyfyrio ar yr hyn y maent wedi’i brofi ac i’w helpu i ddod i delerau ag ef.

Mae’r pecyn cymorth yn archwilio’r tri cham, sef sut rydym fel arfer yn ymateb i argyfwng;

  1. Argyfwng – ar ddechrau argyfwng, mae lefelau uchel o egni. Mae ymdeimlad o anghenraid a nod cyffredin yn dod â thimau at ei gilydd, sy’n sicrhau bod pethau’n cael eu cyflawni.
  2. Atchweliad – mae ein hymdeimlad o bwrpas yn mynd yn llai eglur, mae lefelau egni’n gostwng, mae pobl yn teimlo’n rhwystredig ac yn llai cynhyrchiol.
  3. Adfer – daw nodau newydd i’r amlwg, a dechreuwn ganolbwyntio ar ailadeiladu, yn hytrach na goroesi yn unig. Mae diwedd, neu o leiaf ymdeimlad newydd o normalrwydd, ar y gorwel.

Sut ydych chi’n teimlo nawr? Fe allech chi ddadlau bod y mwyafrif o bobl sy’n gweithio i’r GIG ar hyn o bryd yn profi’r cyfnod Atchweliad. Nod y fframwaith hwn yw helpu pobl i ddechrau meddwl sut y gallent symud i’r cam Adfer.

Mae’r gweithdy’n cynnwys sesiwn 90 munud y gellir ei chyflwyno ar-lein neu’n bersonol.  Nid yw’n ateb cyflym o bell ffordd a dim ond y dechrau ydyw – dylid ei wneud fel rhan o ymrwymiad hirach i symud tuag at y cyfnod adfer. Gall fod yn emosiynol.  Gall gofyn i bobl fyfyrio ar eu profiadau COVID ddod â llawer o deimladau i’r wyneb. Dim ond hwyluswyr profiadol ddylai geisio ei gyflawni, a rhaid i unrhyw un sy’n rhoi cynnig arno sicrhau ei fod yn barod i gefnogi lles ei dîm.

Ond mae’n werth chweil. Mae’r rhai sydd wedi bod yn rhan o’n gweithdy wedi cael y cyfle i fyfyrio ar eu profiad COVID ac fe fu’n brofiad cadarnhaol iddynt. Mae wedi eu helpu i ddechrau symud ymlaen. Bu dagrau, ond bu ymdeimlad o gyffro hefyd ynghylch y posibiliadau sy’n dod i’r amlwg ohono.

Mae’r pecyn cymorth, ynghyd â chanllawiau ar sut i’w redeg, ar gael yma;

Dysgu o Weithdy COVID-19: 1 – Fframwaith ar gyfer dysgu o Covid-19 – Canllaw ‘Sut’ a phecyn hwyluso

Dysgu o Weithdy COVID-19: 2 – Dysgu o COVID – y cynnig

Dysgu o Weithdy COVID-19: 3 – Fframwaith ar gyfer dysgu-Covid19 fersiwn fer )

Dysgu o Weithdy COVID-19: 4 – Cynllun gwersi drafft ar gyfer gweithdy ar ôl Covid

Dysgu o Weithdy COVID-19: 5 – Cyflwyniad Gweithdy

Dysgu o Weithdy COVID-19: 6 – Cynllun Gweithredu – Symud Ymlaen

Am ragor o wybodaeth neu gymorth ar ddefnyddio’r pecyn cymorth, cysylltwch â paul.gimson@wales.nhs.uk