Llongyfarchiadau ar eich Gwobr GIG Cymru 2020 gan Dominique Bird, Pennaeth Capasiti a Gallu

Rwy’n siŵr nad fi yw’r unig un sy’n meddwl bod pawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn haeddu Gwobr GIG Cymru eleni. 2020 oedd y flwyddyn gyntaf mewn deuddeng mlynedd i ni orfod canslo’r seremoni wobrwyo – ac am flwyddyn!

Mae cymaint ohonoch wedi bod yn gweithio’n ddiflino ar draws y system, boed hynny ar COVID-19 yn uniongyrchol neu yn y gwasanaeth ehangach. Bu’n rhaid i ni i gyd feddwl yn chwim, addasu a defnyddio ein sgiliau gwelliant greddfol i wynebu’r heriau y mae delio â phandemig wedi’u taflu atom. Cafwyd llawer o enghreifftiau rhagorol o welliant cyflym. Un peth positif y mae’n rhaid i ni ei gofio o eleni yw’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu a chymryd amser i fyfyrio a phrosesu’r hyn sydd wedi digwydd (gall ein ‘pecyn cymorth Dysgu o COVID-19’ eich helpu chi a’ch tîm i wneud hyn).

Yn 2021, byddwn yn gweithio gyda chi i gyd i allu rhannu eich profiadau a’r hyn rydych wedi’i ddysgu – yr hynt a’r helynt. Trwy rannu enghreifftiau o welliant, gall pob un ohonom ddarparu gwell gofal.

Ni allwn wybod beth ddaw yn ystod y flwyddyn nesaf, ond afraid dweud y bydd y mwyafrif o amser staff y GIG yn cael ei dreulio ar yr ymateb i COVID-19. Felly, rydyn ni wedi penderfynu newid y gwobrau y flwyddyn nesaf i fod yn ddathliad arbennig o welliant ac arferion da sydd wedi dod i’r fei yn ystod y pandemig. Mae hyn yn golygu y gallwn ni i gyd ddysgu o’r arloesi sy’n digwydd ac ystyried yr hyn sydd wedi digwydd. Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi yn fuan.

Felly, rydw i eisiau dweud diolch ar ran pob un ohonom. Rydyn ni’n rhoi Gwobr ‘Cyfraniad Eithriadol i Drawsnewid Iechyd a Gofal’ eleni i bob un ohonoch. Llongyfarchiadau ar eich holl waith caled a diolch am eich ymroddiad i iechyd a gofal yng Nghymru.

I ddarllen rhagor am y gwobrau a’r prosiectau buddugol o’r blynyddoedd blaenorol, ewch i’n tudalen we newydd.