Llwybr Safonau Gofal Dementia ar gyfer Cymru Gyfan – sy’n galluogi gwelliannau wrth ddarparu gofal dementia i unigolion a’u gofalwyr, gan Michaela Morris, Rheolwr Gwella Gwasanaeth ar gyfer Iechyd Meddwl

Dros y ddwy flynedd diwethaf yn Gwelliant Cymru, rydym wedi bod yn gweithio gyda dros 1,800 o bobl i greu Llwybr Safonau Gofal Dementia ar gyfer Cymru Gyfan. Rydym yn falch iawn o’i gyhoeddi heddiw. 

Nod y safonau yw gwella gofal dementia i unigolion a’u gofalwyr, trwy ddarparu llwybr clir tuag at weithredu safonau effeithiol yng ngofal dementia yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Arweiniwyd y gwaith hwn gan Gwelliant Cymru fel rhan o’r Rhaglen Gofal Dementia ac fe’i cyfarwyddwyd gan ofynion Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia, dan oruchwyliaeth Grŵp Goruchwylio Gweithrediad ac Effaith ym maes Dementia Llywodraeth Cymru (DOIIG).

Hoffem ddiolch i’r unigolion a’r sefydliadau sydd wedi rhannu eu gwybodaeth a’u profiadau o ofal dementia i helpu i sicrhau bod y safonau’n briodol ac yn effeithiol. Maent wedi cynnwys pobl sydd â phrofiad byw o ddementia, eu gofalwyr, timau’r GIG, gofal cymdeithasol, ymchwilwyr, Alzheimer’s Society Cymru, Age Cymru a llawer o sefydliadau trydydd sector a sefydliadau partner eraill. Mae pobl wir wedi ymrwymo i ddatblygu’r safonau ac i’r gwaith wrth symud ymlaen a fydd, gobeithio, yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.

Mae wedi bod yn fraint clywed straeon pobl am ofal da a lle gall dulliau fod yn well. Mae’r straeon hyn wedi bod yn allweddol wrth lunio’r 20 safon. Bydd yn rhaglen heriol, ond byddwn yn cyflawni’r nodau hyn gyda chefnogaeth a chymorth ein partneriaid.

Lluniwyd yr 20 safon hyn i fod yn rhai deinamig ac maent yn ymateb i werthuso a thystiolaeth gefnogol. Maent yn rhan o bedair thema: Hygyrch, Ymatebol, Taith, Partneriaethau a Pherthnasoedd, ac mae’r rhain wedi’u hategu gan Garedigrwydd a Dealltwriaeth.

Datblygwyd y safonau gan ddefnyddio Fframwaith Cyflawni Gwelliant Cymru a rhagwelir y bydd gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu Canllaw Fframwaith Cyflawni dwy flynedd ar gyfer y rhanbarthau ledled Cymru.  Bydd y Fframwaith Cyflawni yn cynnig amser, cefnogaeth a chymorth i’r rhanbarthau allu ymgysylltu, cydgynhyrchu, cwmpasu, asesu parodrwydd a hunanasesu a fydd yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i roi’r safonau ar waith.

Dywedodd pobl wrthym yn ystod y cyfnod cwmpasu ei bod yn bwysig i bob rhanbarth gael cyfle i alinio gwaith presennol, adolygu systemau, adolygu adnoddau ac ymgysylltu â chymunedau a phartneriaid i ddatblygu dull integredig rhanbarthol o roi’r safonau dementia ar waith. 

Trwy beidio â chyflwyno’r safonau ar unwaith a chynnig lle a chyfnod o amser ar gyfer asesu parodrwydd a chynllunio, byddwn yn darparu gofal dementia mwy cadarn a fydd yn gwireddu nod y safonau.

Mae tîm gofal dementia Gwelliant Cymru a’i bartneriaid yn edrych ymlaen at ymgysylltu â fforwm dementia pob rhanbarth yng Nghymru i wneud trefniadau i gwrdd â nhw ac i ddarparu cyflwyniad manwl a sesiwn holi ac ateb ar y weledigaeth, y safonau a’r fframwaith cyflawni.

Gellir gweld a lawrlwytho dogfen Llwybr Safonau Gofal Dementia ar gyfer Cymru Gyfan yma