Sut ydyn ni’n mesur y niwed sy’n digwydd i’n cleifion yn yr ysbyty?
Gan Rachel Taylor, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Chwe Nod ar gyfer Rhaglen Genedlaethol Gofal Brys ac Achosion Brys
“Gwaith sy’n arwain y byd”

Nid fy ngeiriau i er, alla i ddim peidio â chytuno â nhw. Geiriau’r Athro Brian Dolan yw’r rhain. Dyma a ddywedodd wrth i ni ddod â’n cyflwyniad i ben yn Uwchgynhadledd End PJ Paralysis y mis diwethaf.
Mae #EndPJparalysis yn fudiad byd-eang a gychwynnwyd gan yr Athro Dolan mewn ymgais i leihau ansymudedd, datgyflyru yn y cyhyrau a dibyniaeth cleifion yn yr ysbyty. Yn ei hanfod, ei ffocws yw cael cleifion i godi, gwisgo a symud mewn wardiau ysbytai mewn ymgais i atal effeithiau niweidiol hirdymor ar allu gweithredol person (h.y. datgyflyru).
Cynhelir uwchgynhadledd fyd-eang #EndPJParalysis bob mis Gorffennaf a chafodd ei chynnal eleni am y seithfed tro. Mae’r siaradwyr a’r rhai sy’n bresennol yno’n cynrychioli byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ledled y byd.
Yn yr Uwchgynhadledd, cyflwynwyd y gwaith a wnaeth y rhaglen Chwe Nod dros y ddwy flynedd ddiwethaf i atal datgyflyru yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty. Roedd yn cynnwys ein gwaith diweddaraf gyda’n tîm Ansawdd, Diogelwch a Gwella fel rhan o’r Bartneriaeth Gofal Diogel.
Roedd yn bleser derbyn cymaint o adborth cadarnhaol gan y rhai a oedd yn bresennol. Ymunodd rhai â ni o ben draw’r byd, a dywedodd y rhain y byddan nhw’n aros i weld canlyniadau ein gwaith. Fodd bynnag, y rhan a ysgogodd y cyffro mwyaf oedd yr offeryn mesur newydd yr ydym yn ei ddatblygu i fesur datgyflyru mewn ysbytai.
“Nid oedd dull o fesur y ‘syndrom’ cyffredinol o ddatgyflyru”
Yn y Fframwaith Optimeiddio Llif Cleifion mewn Ysbytai a grëwyd gan y rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng, canolbwyntir ar atal datgyflyru yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty. Gellir disgrifio datgyflyru fel y ‘niwed cudd’ anfwriadol sy’n digwydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd.
Wrth i ni sefydlu’r fframwaith, daeth yn amlwg yn gyflym nad oedd dull o fesur ‘syndrom’ cyffredinol datgyflyru, dim ond cydrannau unigol fel symudedd, deliriwm, ymataliaeth ac ati. Un o’r prif ffocysau yw mesur cwympiadau a cheisio atal y rhain yn yr ysbyty. Fodd bynnag, dangosodd adborth gan weithwyr proffesiynol a staff fod canolbwyntio ar gwympiadau fel dull o fesur yn arwain at y canlyniad anfwriadol o gynyddu datgyflyru, gan nad oedd cleifion o reidrwydd wedi cael eu hannog i godi o’r gwely a bod yn fwy symudol am eu bod yn ofni y byddent yn cwympo.
Y cwestiwn y gwnaethom ofyn i ni’n hunain wedyn oedd sut y gallwn atal datgyflyru os nad oes modd i ni ei fesur yn y lle cyntaf?
Pe gallen ni fesur datgyflyru drwy ddefnyddio offeryn dilys, roedden ni’n gwybod fel tîm bod gennym ffordd gadarn o ddangos tystiolaeth o atal. Gwnaethon ofyn am gyngor gan Gwerth mewn Iechyd Cymru a oedd wedi darparu cyllid, ynghyd â Chwe Nod, i gomisiynu CEDAR – Canolfan ar gyfer Gwerthuso, Asesu Dyfeisiau ac Ymchwil Gofal Iechyd i weithio ar ddylunio offeryn.
Ar ôl bron i 18 mis yn yr arfaeth, gofyn am farn staff a chleifion, mae’r offeryn yn mesur 11 parth gwahanol, yn amrywio o symudedd, ymataliaeth a gwybyddiaeth, hyd at ymgysylltu cymdeithasol a’r gallu i reoli gweithgareddau dyddiol, a all i gyd arwain at ddatgyflyru. Mae cael offeryn sy’n galluogi staff i asesu person ar draws y parthau yn golygu bod modd monitro’n uniongyrchol, a gellir gweld yr arwyddion cyntaf o ddatgyflyru yn gynnar. Mae hyn yn golygu bod staff, cleifion a’u teuluoedd yn gallu rhoi ymyriadau ar waith yn gyflym ac mae’n rhoi’r cyfle gorau i’n defnyddwyr gwasanaethau atal y cylch o ddatgyflyru yn fuan.
Cafodd yr offeryn ei dreialu ar wardiau dethol mewn byrddau iechyd ledled Cymru, ac rydym bellach yn cynnal ail gam profi’r offeryn, ac yn ymgorffori adborth o’r cynllun peilot.
Adborth cychwynnol cadarnhaol
Mae’r adborth cychwynnol o’r cynllun peilot yn atgyfnerthu’r angen am yr offeryn hwn, ac mae’r staff yn nodi ei fod yn hawdd ei ddefnyddio. Mae gwerthusiad cynnar hefyd yn dangos y gall yr offeryn dynnu sylw at gleifion sy’n datgyflyru, ac ym mha faes.
Rydym yn anelu at gwblhau’r offeryn a’i gyflwyno yn ein huwchgynhadledd genedlaethol i atal datgyflyru (National Preventing Deconditioning Summit), ddydd Mawrth 4 Tachwedd. Rydym hefyd mewn trafodaethau ynghylch digideiddio’r offeryn, fel ei fod yn ein galluogi i adrodd yn lleol ac yn genedlaethol ar ddatgyflyru yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty.
Yn dilyn yr Uwchgynhadledd, rydym yn gobeithio y bydd yr offeryn ar gael yn rhwydd fel y gall pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth ar draws y GIG ei ddefnyddio. Y gobaith yw y gall yr offeryn fesur datgyflyru yn hyderus, ac atal datgyflyru ymhlith ein defnyddwyr gwasanaethau.
