Academi Gwelliant Cymru: beth nesaf gan yr Arweinydd Rhaglen, Lisa Henry: Academi Gwelliant Cymru

Pan lansiwyd Academi Gwelliant Cymru ym mis Tachwedd 2019, ein nod oedd darparu offer, cefnogaeth a hyder i staff y GIG i wella ansawdd gyda’n gilydd gan wybod #Gallwngyda’ngilydd.  Gan symud ymlaen trwy bandemig byd-eang lle mae staff GIG Cymru wedi gweithio’n ddiflino i newid gwasanaethau a phrosesau yn gyflym i ateb gofynion cynyddol mewn tirwedd sy’n esblygu’n barhaus gan ddangos ein bod ni wir wedi gwneud hyn Gyda’n Gilydd.

Gyda’r galw am wasanaethau GIG Cymru ar ei anterth, mae sgiliau gwella yn hanfodol i helpu i arfogi ein cydweithwyr â’r offer a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i wella eu systemau a’u gwasanaethau i ddarparu gofal o’r ansawdd gorau yng Nghymru mewn modd amserol a diogel a dibynadwy.

Ein Gweledigaeth:

Gweledigaeth Academi Gwelliant Cymru yw bod pawb yn GIG Cymru yn cael mynediad at sgiliau gwella, adnoddau o safon uchel a fframwaith gallu ategol.

Ein dull yw gweithio ochr yn ochr â sefydliadau i greu’r amodau, gwneud y cysylltiadau a meithrin y gallu i wella fel sgil graidd ar draws y system gyfan.

Dull newydd o ddarparu hyfforddiant

Er mwyn diwallu anghenion ein dysgwyr yn ystod y pandemig, rydym wedi trawsnewid ein darpariaeth i dirwedd rithwir, gan gyfuno sesiynau rhithwir a gweminarau gyda dysgu anghydamserol trwy Borth Dysgu’r Academi, a thrwy hynny gefnogi ystod ehangach o arddulliau dysgu. 

Ein nod yw mynd â hyn ymhellach, gyda chyfres o adnoddau ar gael i weddu i ddysgu cynhwysfawr, hyfforddi mewn union bryd, a phecynnau cymorth hygyrch, gan gynnwys platfform mesur gwelliant, y gall yr holl staff a sefydliadau ei ddefnyddio, heb orfod ymrwymo i gwrs dysgu llawn.

Cyrsiau Gwella Newydd

Ein nod yw adeiladu ar lwyddiant Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd a symud o feysydd gwasgaredig o sgiliau gwella i ddarparu ac adeiladu amgylchedd cysylltiedig cefnogol ar gyfer gwella i ledaenu ledled y system. 

Mae ein cyrsiau Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd efydd, arian ac aur yn cael eu disodli gan gyfres newydd o gyrsiau Gwella o’r enw cyfres Gwella:

Dyma Gwtsh yr Academi:

Bydd timau sy’n ymgymryd â’u gwelliannau yn cael eu cefnogi gan hyfforddwyr gwella lleol sydd â sgiliau i gefnogi a meithrin y timau hyn ar eu taith dysgu gwella.

Mae agweddau ehangach ar hyfforddiant Gwella hefyd yn cael eu datblygu, o dan faner Hanfodion Gofal Mwy Diogel.

Er mwyn gwreiddio sgiliau gwella yn ddwfn ledled GIG Cymru, mae angen i’r gallu i gyflawni, hyfforddi a mentora gwella gael ei ymgorffori yn gynaliadwy mewn sefydliadau.  Er mwyn cyflawni hyn, bydd yr Academi yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau, gan adeiladu rhwydwaith o hyfforddwyr gwella, hyfforddwyr a mentoriaid gyda sicrwydd ansawdd a all ddarparu a chefnogi hyfforddiant gwella yn lleol.  Mae pob bwrdd iechyd wedi enwebu Arweinydd Cyfadran i ymuno â’r Gyfadran Gwelliant Ymarferol (a elwir yn Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd Arian yn flaenorol). Gweler isod am yr arweinydd yn eich sefydliad.

Elizabeth HanlonFelindreElizabeth.Hanlon@wales.nhs.uk
Vince BagloleWASTVince.Baglole@wales.nhs.uk
Melissa BakerBIPBCMelissa.Baker@wales.nhs.uk
Rebecca ThomasBIPCTMRebecca.L.Thomas@wales.nhs.uk
Laura KeighanBIPBALaura.Keighan@wales.nhs.uk
Howard CooperBIA PowysHoward.Cooper@wales.nhs.uk
Hannah GraingerGwaed CymruHannah.Grainger@wales.nhs.uk
Nick TysonCaerdydd a’r Fronick.tyson@wales.nhs.uk
Gethin PughAaGICgethinpugh@doctors.org.uk
Caroline WhittakerICCCaroline.Whittaker@wales.nhs.uk
Claire HeireneDHCWClaire.Heirene@wales.nhs.uk
Geraint WattsBIPABGeraint.Watts@wales.nhs.uk
Nigel HughesPCGCNigel.Hughes2@wales.nhs.uk
Rachel TraskBIPABrachel.trask@wales.nhs.uk

Yn dod yn fuan

Bydd ein cyrsiau newydd yn lansio’n fuan.  Rydym yn edrych ymlaen at rannu ein cyrsiau â chi a’ch helpu i wella GIG Cymru.  Os hoffech drafod ein cynlluniau a/neu gyrsiau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.  Cysylltwch â:

Dominique Bird:  dominique.bird2@wales.nhs.uk  Pennaeth Capasiti a Gallu

Lisa Henry: lisa.henry@wales.nhs.uk Arweinydd Rhaglen Cyfres Gwelliant

Margaret Rennocks: margarte.rennocks@wales.nhs.uk Arweinydd Rhaglen Hanfodion Gofal Mwy Diogel