Rhaid inni wneud yn well i’n cleifion: Mynd i’r afael â’r pryder sy’n gysylltiedig â Chanser
Gan Dominique Bird, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro dros Ansawdd, Diogelwch a Gwella, Perfformiad a Gwella GIG Cymru a Chadeirydd Aelodau’r Gyfadran ar gyfer Cydweithrediad Patholeg gellog Canser Cymru Gyfan.

Mae dau fis ers i Raglen Gydweithredol Patholeg Gellog Canser Cymru Gyfan ddechrau’n swyddogol ac mae’r gwaith wedi mynd rhagddo ers i ni gael y sesiwn ddysgu gyntaf.
I’r rhai nad ydyn nhw’n gyfarwydd â’r maes hwn, patholeg gellog yw astudio celloedd, meinweoedd ac organau i wneud diagnosis o afiechydon. Mae’n cynnwys archwilio samplau meinwe a samplau celloedd i nodi annormaleddau a phennu achos ac effeithiau clefydau, yn enwedig canser.
Dim ond un rhan o lwybr canser yw patholeg gellog, sef y daith y mae claf yn ei chymryd o’r amheuaeth gychwynnol o ganser i’r diagnosis a’r driniaeth.
Yn ddiweddar, cawsom ein sesiwn ddysgu ar y cyd gyntaf lle cyfarfu timau mewn labordai patholeg gellog o chwe bwrdd iechyd ledled Cymru i rannu diweddariadau. Roedd y drafodaeth yn un ffrwythlon ac afraid dweud bod timau wedi dangos diogelwch seicolegol, gan fod yn onest gyda’u cynnydd. Fe wnaeth y teimlad hwn o fod yn agored feithrin amgylchedd cydweithredol; i’r fath raddau nes i rai timau byrddau iechyd ymuno i weithio ar y cyd ar eu ‘Takt time’, term a ddefnyddir ar gyfer nodi’r amser prosesu sydd ei angen i gyd-fynd â’r galw.
“Cyfoeth helaeth o wybodaeth mewn timau Patholeg Gellog”
Mae sesiynau dysgu ar y cyd yn nodweddiadol o fodel Cyfres Breakthrough (BTS) y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI), sef yr hyn rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer y Cydweithrediad Patholeg Gellog.
Mae model Cydweithredol yn seiliedig ar gyfres o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a rhithwir gyda chyfnodau gweithredu rhyngddynt, pan fo timau’n edrych i roi cynnig ar y gwelliannau ac yn adrodd yn ôl ynghylch a ydynt wedi bod yn llwyddiannus. Yna gellir lledaenu ac ehangu gwelliannau effeithiol i dimau, lleoliadau, sefydliadau eraill neu hyd yn oed yn rhyngwladol, fel y gellir gwneud gwelliannau ar raddfa fwy.
Mae’r dull sydd wedi’i brofi yn galluogi sefydliadau i rannu a dysgu oddi wrth ei gilydd ac arbenigwyr eraill yn y maes. Ar ôl gweithio gyda thimau patholeg gellog mewn byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ers 2022, fe wnaethom gydnabod eu cyfoeth helaeth o wybodaeth ac arbenigedd yn y maes a gweld yn uniongyrchol y gwelliannau maen nhw wedi’u gwneud wrth ddefnyddio methodoleg ddarbodus yn eu meysydd. Gallwch ddarllen mwy am y gwaith hwn ar ein gwefan.
Llais i’r llu
Dim ond un elfen yw’r cydweithrediad o’r gwaith cyffredinol sy’n cael ei wneud i wella gwasanaethau patholeg ledled Cymru. Er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig ar draws y gwahanol raglenni, mae gennym arbenigwyr ym meysydd patholeg a chanser wedi’u sefydlu yn y cydweithrediad fel aelodau’r gyfadran.
Mae aelodau’r gyfadran yn amrywio o arweinwyr clinigol yn eu meysydd gan gynnwys o’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal a Gynlluniwyd, y Rhaglen Patholeg Genedlaethol a’r Llwybr Lle’r Amheuir Canser i Batholegwyr Ymgynghorol a Seicolegwyr Clinigol. Fel Cadeirydd aelodau’r gyfadran, rwy’n falch o weld yr ehangder o hyfedredd sydd gennym yn bwydo’n uniongyrchol i’r cydweithrediad ac yn helpu i lunio’r blaenoriaethau.
Y tro cyntaf i dimau gyfarfod oedd yn ein sesiwn ddysgu wyneb yn wyneb ym mis Ebrill. Yn ystod y sesiwn, clywodd timau gan aelodau ein cyfadran ar bwrpas y cydweithrediad, defnyddio deallusrwydd artiffisial yn y gwaith a chreu’r diwylliant i waith gwella ffynnu, ymhlith pynciau eraill. Cafodd ein gofod cyfarfod ei droi’n efelychiad labordy hefyd lle roedd rhaid i dimau gynyddu nifer y samplau ‘papur’ a oedd yn mynd trwy gamau’r labordy yn effeithiol (gweler y lluniau isod).




Ond gellid dadlau mai uchafbwynt y diwrnod oedd clywed gan David Edwards, ein cyfrannwr o’r cyhoedd, a roddodd lais i’r nifer o bobl sy’n cael profion am ganser a amheuir.
Rhannodd David ei stori am sut yr aeth at ei feddyg teulu ynglŷn â hernia a soniodd am lwmp yr oedd wedi dod o hyd iddo ar hap, heb amau ei fod yn ganser. Dim ond pan gafodd ei atgyfeirio at Ymddiriedolaeth GIG Felindre a sylweddolodd bod yn bosibl bod canser arno, y newidiodd ei feddylfryd.
“Atgyfeiriodd fy meddyg teulu fi at yr adran Clust, Trwyn, Gwddf (ENT) yng Nghaerdydd am y lwmp felly doeddwn i ddim yn meddwl dim amdano. Roeddwn i’n dal i fynd i’r gwaith, ac nid oedd yn effeithio arna i mewn gwirionedd. Pan ddywedon nhw wedyn fy mod i’n mynd i gael fy atgyfeirio i Felindre dyna pryd meddyliais y gwaethaf – gallai hyn fod yn ganser.”
Rhwng ei apwyntiad cyntaf gyda’i feddyg teulu a’i apwyntiad olaf, aeth misoedd heibio, ac, ar rai achlysuron, aeth i apwyntiadau lle nad oedd gan dimau ei ganlyniadau i’w rhannu, gan gynyddu pryder David ymhellach.
“Os ydych chi’n meddwl am bobl yn aros am eu canlyniadau, hyd yn oed i gael gwybod nad yw’n ganser, nid yw’n effeithio ar yr unigolyn hwnnw yn unig – gall effeithio ar hyd at 20-30 o bobl. Er enghraifft, mae anwyliaid, aelodau o’r teulu, ffrindiau, cydweithwyr, cymdogion i gyd yn aros i glywed gennych chi. Mae’n achosi effeithiau ehangach a lefelau amrywiol o bryder. A chymerwch fy ngair, nid yw’r pryder hwnnw byth yn gadael rhywun sy’n meddwl y gallai fod ganddyn nhw ganser.”

Yn ystod y sesiwn, diolchodd David yn bersonol i’r timau patholeg gellog am wneud eu rhan a chwarae rhan enfawr yn ei daith canser. Fel arfer, dim ond staff meddygol a nyrsio y mae cleifion fel David yn cwrdd â nhw, ac nid ydyn nhw’n cael y cyfle i gwrdd â staff o ran ddiagnostig y llwybr canser. Yn aml, gellir gweld diagnosteg fel rhan anhysbys o lwybr canser, ond mae’n chwarae rhan hanfodol; dyma’r staff mewn labordai sy’n archwilio samplau biopsi i helpu i benderfynu a oes gan gleifion ganser.
Roedd clywed gan David wedi ein hatgoffa am y rheswm pam rydyn ni’n gwneud y gwaith yn y lle cyntaf – i roi diagnosis prydlon i’n cleifion a lleihau’r pryder hwn i ddefnyddwyr ein gwasanaeth. Rhaid i ni wneud yn well ar eu cyfer nhw.
Defnyddio dull cyd-ddylunio
Yr unig ffordd i greu amodau i’r gwelliannau hyn ledaenu yw i dimau ymgysylltu o’r cychwyn cyntaf. Dyma pam rydyn ni’n mabwysiadu dull cyd-ddylunio ar gyfer y cydweithrediad. Diolch i adborth uniongyrchol gan dimau, mae hyd yn oed nod cyffredinol y gwaith wedi cael ei ddiwygio’n ddiweddar.
Drwy weithio gyda staff ar sut y gallwn oresgyn rhwystrau, gwneud gwelliannau, a lledaenu ac ehangu’r newidiadau hyn i feysydd a thimau eraill, rydym yn gwneud cynnydd cadarnhaol yn ein hymdrechion i gyflawni targed y Llwybr Lle’r Amheuir Canser a gwneud yr aros ychydig yn llai pryderus i’n cleifion.