Partneriaethau, Perthnasoedd, Cyd-gynhyrchu a Charedigrwydd

Gan Ceri Higgins, un o sylfaenwyr Lleisiau Dementia


I nodi Wythnos Gweithredu Dementia (19-25 Mai), rydym yn rhannu cyfres o flogiau a ysgrifennwyd gan aelodau o’n tîm dementia a chydweithwyr y GIG sy’n arwain ar waith i wella gofal dementia mewn rhanbarthau ar draws Cymru.

Edrychwch ar ein tudalennau dementia i weld sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd i wneud Cymru’n wlad sy’n ystyriol o ddementia.  


Mae Wythnos Gweithredu ar Ddementia yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o ddementia ac ymrwymo i weithredu. Mae’r blog hwn yn cofio Nigel Hullah a’i ymrwymiad, angerdd ac ymroddiad i welliant, dylanwadu ar ddeddfwriaeth, cynnal hawliau dynol a’i benderfyniad i weld cyd-gynhyrchu wedi’i wreiddio ym mhob arfer yng Nghymru.

Roedd Nigel, a oedd yn byw gyda dementia, yn gyd-sylfaenydd Lleisiau Dementia, rhwydwaith annibynnol o leisiau yng Nghymru. Rhannodd ei angerdd drwy gyd-gynhyrchu’r Llwybr Safonau Dementia a Siarter Ysbytai Cymru. Rhannodd ei weledigaeth ar gyfer camau nesaf Cynllun Gweithredu Dementia Cymru a’r Grŵp Trosolwg a Gweithredu Dementia a’i lywodraethu.

Mae pwysigrwydd cysylltiad, partneriaethau, perthnasoedd, cyd-gynhyrchu, ac ymgysylltu â charedigrwydd a dealltwriaeth yn neges bwerus yr ydym yn parhau i’w hyrwyddo. Mae’n tynnu sylw at gyfeiriad Llwybr Safonau Dementia. Mae Lleisiau Dementia yn cefnogi’r neges hon gan weithio gyda ac ar draws llawer o rwydweithiau dementia. Mae’n cefnogi prifysgolion, byrddau iechyd, partneriaethau rhanbarthol, byrddau dementia a gwasanaethau lleol a rhanbarthol i ymgorffori cyd-gynhyrchu a gwella eu gwasanaethau i bobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd ledled Cymru.

Mae gwybodaeth am ymchwil, a chefnogi sefydliadau i ddatblygu gweithluoedd gwybodus, a thosturiol ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, nyrsio a chymwysterau proffesiynol eraill yn allweddol i’n gwaith. Mae Lleisiau Dementia yn eirioli dros gefnogi unigolion eraill sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd i gael eu lleisiau wedi’u clywed a’u hawliau wedi’u cynnal. Mae’n dilyn esiampl Nigel i fentora a grymuso eraill i gyfrannu at y gwaith ar draws eu rhanbarthau.

Mae ein dull ni yng Nghymru wedi cael ei hyrwyddo ar blatfform rhyngwladol gan Nigel ac eraill sydd â phrofiad bywyd. Mae’n cludo eu neges a’u hangerdd dros Lwybr Safonau Dementia, Lleisiau Dementia ac ymroddiad y gweithlu dementia yng Nghymru. Mae cyflwyno mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol yn ein helpu i ledaenu’r negeseuon hyn, ac yn chwifio baner Cymru yn falch gyda phenderfyniad y dylid clywed lleisiau’r rhai sydd â phrofiad bywyd fel partneriaid cyfartal mewn cyd-gynhyrchu.

Roedd canlyniadau cadarnhaol mewn mannau dementia (PODS), arloesedd Lleisiau Dementia a hwyluswyd ar y cyd ag eraill sydd â phrofiad bywyd sy’n darparu lle diogel i bawb sy’n ymwneud â gweithredu Llwybr Safonau Dementia, yn destun balchder mawr i Nigel ac i ni i gyd, fel yr oedd cyflwyno PODs i Brif Swyddogion Gweithredol byrddau iechyd ledled Cymru.

Ar ôl cyrraedd miloedd o bobl ledled y byd, bydd ffrwyth parhaol gwaith Nigel yn sicr o gael effaith am flynyddoedd i ddod. Gyda lansiad Llwybr Safonau Dementia Cymru yn 2021, y neges a roddwyd gan Nigel oedd “mae angen i ni wneud yn well”. Drwy hyrwyddo neges a phwysigrwydd partneriaethau, perthnasoedd, cydgynhyrchu, caredigrwydd a dealltwriaeth, a chyfranogiad pobl sydd â phrofiad bywyd, mae Lleisiau Dementia yn dechrau gweld bod Cymru yn gwneud yn well!