Adeiladu dyfodol disglair gyda Chymorth Ymddygiad Cadarnhaol yng Nghymru
Gan David O’Brien, Uwch Reolwr Gwella

Treuliais wythnos mewn Ysgol Haf yn ddiweddar. Nid un lle rydyn ni’n bwyta malws melys wrth dân agored mewn gwersyll, ond un y llwyddais i ei fwynhau gyda chyd-arweinwyr ar draws gwasanaethau cyhoeddus i archwilio ein pwrpas cyffredin i gyflawni ansawdd bywyd gwell i bob un ohonom.
Roedd cymryd rhan yn 20fed Ysgol Haf Academi Wales yn brofiad y gallwn ymgolli’n llwyr ynddo. Roedd fy amser yn ardal brydferth Llanbedr Pont Steffan yn gyfle i gael sgyrsiau gwych gyda fy nghydweithwyr. Fe wnaeth fy herio, cyflwyno gwahanol safbwyntiau, a rhoi’r cyfle i mi feddwl am yr hyn rydw i wedi’i wneud a’r hyn y byddai i’n ei wneud wrth symud ymlaen.
Mae’r rhai sy’n gweithio ym maes iechyd a llesiant i bobl ag anabledd dysgu yn teimlo cyfrifoldeb ychwanegol i wneud yn siŵr nad yw rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu heithrio na’u cyfyngu. Rwy’n gwybod nad fi yw’r unig un yn hynny o beth. Maen nhw’n haeddu teimlo’r un ymdeimlad o gysylltiad a chymuned a’m bywiogodd i, ond nid yw hynny’n wir i lawer.
Mae wedi fy ysgogi i feddwl eto am ddylanwad Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol (PBS), yn enwedig yr adnodd a gyhoeddwyd gennym y llynedd i uwchsgilio a grymuso teuluoedd ynghyd â Sefydliad Anableddau Dysgu Prydain (BILD) a Fforwm Cymru Gyfan.
Pam mae Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn bwysig?
Yng Nghymru, credwn fod pawb yn haeddu’r cyfle i ffynnu, teimlo’n ddiogel, a chael eu cefnogi mewn ffyrdd sy’n parchu eu hunigolrwydd. Mae Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn ddull allweddol o gefnogi pobl ag anabledd dysgu ledled Cymru oherwydd ei fod yn darparu fframwaith sy’n eu galluogi i fyw bywyd sy’n ystyrlon ac o werth iddynt.

Mae Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn arbennig o ddefnyddiol pan gaiff ei ddefnyddio i gefnogi pobl ag anableddau dysgu sydd mewn perygl o gael eu heithrio neu eu cyfyngu. Wrth wraidd Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol mae’r ddealltwriaeth bod gan bob ymddygiad ystyr. Pan fydd rhywun yn ymddwyn mewn ffordd sy’n peri pryder, maen nhw’n cyfathrebu yn y ffordd fwyaf effeithiol sydd ganddyn nhw nad yw rhywbeth yn iawn iddyn nhw.
Felly, mae Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn fwy na strategaeth neu ymyrraeth yn unig. Mae’n ffordd dosturiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, o ddeall ymddygiad a gwella ansawdd bywyd. Drwy ganolbwyntio ar yr hyn y mae person ei angen, yn ei werthfawrogi, ac yn ei fwynhau, mae Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn helpu i leihau ymddygiadau sy’n peri pryder drwy hyrwyddo dewisiadau amgen cadarnhaol ac ymgysylltiad ystyrlon.
Beth sy’n gwneud Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol mor effeithiol?
Mae yna lawer o resymau dros weithredu Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol, ond dyma rai o fy mhrif resymau dros hyrwyddo y defnydd ohono:
- Mae’n defnyddio asesiad ymarferol i ddeall ymddygiad.
- Mae’n canolbwyntio ar y person ac yn rhagweithiol.
- Mae urddas, parch a chynhwysiant yn ganolog iddo.
- Mae’n lleihau’r defnydd o arferion cyfyngol drwy leihau ymddygiad niweidiol.
Wedi’i ategu gan dystiolaeth
Mae Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn ddull holistaidd o wella ansawdd bywyd cyffredinol unigolion ag anabledd dysgu a’r rhai sy’n eu cefnogi. Mae yna lawer o dystiolaeth anecdotaidd, ond gallwn fod yn dawel ein meddwl o wybod bod Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol hefyd wedi’i ategu gan dystiolaeth gadarn.
Mae corff sy’n tyfu o hyd o dystiolaeth i gefnogi defnydd effeithiol ohono. Mae Positive Behavioural Support in the UK: A State of the Nation Report 1 yn myfyrio ar ddatblygiadau yng Nghymorth Ymddygiad Cadarnhaol ledled y DU ers 2013. Y rhesymau pam mae gen i feddwl mawr o’r adroddiad yw oherwydd ei fod wedi’i gyd-gynhyrchu, yn ystyriol o drawma, ac yn ceisio pontio’r bwlch rhwng bod yn seiliedig ar dystiolaeth a bod yn ymarferol berthnasol.
Mae’r adroddiad yn drosolwg o ymchwil gyfredol ac arwyddocaol. Mae’n rhoi naratif clir am y sail dystiolaeth o blaid Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol, gan gynnwys yr hyn y mae’r ymchwil yn ei ddweud wrthym am sut i “beidio â gwneud” Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol ac mae’n rhoi canllaw ar gyfer ymchwil ac ymarfer yn y dyfodol.
Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) hefyd yn cefnogi’r defnydd o Gymorth Ymddygiad Cadarnhaol fel ymyrraeth allweddol i bobl ag anabledd dysgu sydd ag ymddygiadau sy’n peri pryder.2
Cael yr wybodaeth ddiweddaraf
Wrth i Gymorth Ymddygiad Cadarnhaol ddod yn fwy adnabyddus, mae’n bwysig cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y meddwl, y dystiolaeth a’r ddadl. Gwyddom fod rhai yn credu bod Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn debyg i Ddadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (ABA). Rydym o’r un farn â llawer o sefydliadau ac academyddion nad yw Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol yr un peth. Nid yw Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn ceisio newid pobl; mae’n helpu i wella amgylcheddau ac ansawdd bywyd drwy ddeall swyddogaeth ymddygiadau, gan ddefnyddio’r wybodaeth hon i lunio gofal a chymorth personol.
Rhaid inni hefyd gydnabod nad yw pob cyngor na chynnwys sydd wedi’i labelu’n Gymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn adlewyrchu’r gwir werthoedd na’r arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth sydd y tu ôl iddo. Mae nodi beth yw Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol da yn allweddol i gomisiynu a darparu gofal a chymorth yn dda.3
Dyna pam rydym yn annog pawb, gan gynnwys teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a chymunedau, i chwilio am ffynonellau dibynadwy, gofyn cwestiynau ac aros mewn cysylltiad. Os hoffech rannu gwybodaeth, datblygu arfer da a hyd yn oed ddylanwadu ar bolisi, gallwch ymuno â Chymuned Ymarfer Ymddygiadau Sy’n Peri Gofid Cymru Gyfan. Dewch draw! Rwyf bob amser wrth fy modd yn croesawu aelodau newydd.
Gyda’n gilydd, rwy’n credu’n gryf y gallwn ddefnyddio Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol (CYC) i wella Cymru fel lle mae pobl ag anabledd dysgu yn mwynhau’r un manteision o gysylltiad a chymuned ag y gallwn ni i gyd eu mwynhau.
References
- Gore etal ( 2022) Positive Behavioural Support in the UK: A State of the Nation Report ↩︎
- Legg, Gill & Thomson, Megan 2017 Positive behaviour support with children and families ↩︎
- PBS Alliance What does good PBS look like now? ↩︎