Lansio ein strategaeth newydd: pam mai diogelwch yw ein blaenoriaeth gan yr Athro John Boulton, Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru / Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG

Mae pob un ohonom yn Gwelliant Cymru yn gyffrous i lansio ein strategaeth newydd ‘Cyflawni Gwella Ansawdd a Diogelwch’. Mae’n amlinellu sut y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd gyda’r system iechyd a gofal yng Nghymru i sicrhau bod gan bawb fynediad at ofal diogel, effeithiol ac effeithlon – yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn.

Mae llawer wedi newid ers ein hail-lansiad fel Gwelliant Cymru ym mis Tachwedd 2019.   Mae COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar y system iechyd a gofal. Yn ystod yr 20 mis diwethaf, daethom i gyd at ein gilydd i wynebu un broblem, sef lleihau niwed yn sgil COVID-19.  Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r GIG wedi dangos ei allu i newid yn gyflym. 

Er nad yw’r pandemig drosodd, mae ffocws cynyddol ar sut rydym yn parhau i ddarparu iechyd a gofal mewn modd diogel, effeithiol ac effeithlon.  Mae hyn yn amlwg yn heriol. Mae angen i ni ystyried niwed mewn cyd-destun ehangach, megis dirywiad acíwt, cwympiadau, briwiau pwyso a diogelwch meddyginiaethau.   Rhaid hefyd ystyried y niwed ar draws y llwybr cyfan, o gartrefi pobl i ofal eilaidd a thu hwnt. 

Gan gadw hyn mewn cof, rydym wedi cymryd peth amser i adolygu ein dull o gefnogi gofal mwy diogel. Mae darpariaeth gofal iechyd yn gymhleth.  Ni wnaiff un dull gweithredu y tro. Mae angen i ni weithio gydag arweinwyr i ddarparu dull wedi’i deilwra fwy i gefnogi diogelwch mewn sefydliadau.  I gyflawni hyn, rydym yn lansio ein rhaglen holistaidd ym maes iechyd a gofal yng Nghymru.  Enw’r rhaglen hon yw ‘Gofal Diogel Gyda’n Gilydd’.

Bydd Gofal Diogel Gyda’n Gilydd yn cefnogi sefydliadau i wella ansawdd a diogelwch gofal ar draws eu systemau i ymgorffori’r Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2020).  Byddwn yn darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar sefydliadau trwy gyd-ddylunio ein gwaith gyda nhw.  Dyma ein rhaglen waith sy’n cael ei chydlynu’n genedlaethol a’i darparu’n lleol ac mae’n agored i bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth ymuno â hi.

Byddwn yn gweithio ar y cyd â sefydliadau i adeiladu ar eu gwaith presennol a darparu arbenigedd, cefnogaeth leol a rhwydweithio. Rydym yn cynnig cymorth gan ein tîm gwella Cymru gyfan er mwyn helpu i ddeall, rheoli a goresgyn heriau gwella. Tîm y gallwch ddibynnu arnynt i ddatblygu, hyfforddi ac arwain, gan weithio mewn partneriaeth i ddarparu gwell gofal i bobl Cymru.

Bydd hyn yn cynnwys cymorth hyfforddi wedi’i deilwra ar gyfer uwch arweinwyr, rheolwyr a staff rheng flaen i fynd i’r afael â’u heriau ansawdd a diogelwch. Er mwyn sicrhau bod gwelliannau’n cael eu cynnal, byddwn yn gweithio ar draws pob lefel mewn sefydliadau i ganolbwyntio ar y cylch ansawdd cyfan – o gynllunio i wella a rheoli.

Bydd ein ffordd newydd o weithio hefyd yn galluogi sefydliadau i wella ansawdd a diogelwch, fel y’u diffinnir gan eu defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, gofalwyr a’r gweithlu, ac ymgysylltu’n agos â hwy. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau canlyniadau gwell mewn meysydd diogelwch allweddol.

Rwy’n falch o’n tîm a’r gwaith a wnawn. Mae gennym sawl swyddogaeth sy’n gweithio gyda’i gilydd i gyflawni ein strategaeth, gan gynnwys yr academi, Labordy Q Cymru, a’n rhaglenni a gomisiynwyd yn genedlaethol.

Fel y gwelwch, mae yna lawer rydym am ei gyflawni yn ystod y pum mlynedd nesaf ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â sefydliadau ledled Cymru i lunio rhan o Gymuned Gwelliant ehangach er mwyn creu’r system iechyd a gofal o’r ansawdd gorau i bawb.

Cymerwch y cyfle i ddarllen ein strategaeth neu grynode a rhannu eich barn am ein rhaglen newydd gyda ni trwy anfon e-bost at improvementcymru@wales.nhs.uk