Sut y bydd dull integredig newydd Gwelliant Cymru yn cefnogi gwella gwasanaethau canser yng Nghymru, gan yr Athro Tom Crosby OBE, Oncolegydd Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru, Arweinydd Clinigol ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau Canser, Canolfan Ganser Felindre
Roeddwn yn falch iawn o weld lansiad strategaeth a rhaglen newydd Gwelliant Cymru, sef ‘Gofal Diogel Gyda’n Gilydd’. Mae hon yn nodi pennod newydd yn y modd y mae Gwelliant Cymru yn gweithio gyda thimau gwella ac arloesi sefydliadol, ynghyd ag asiantaethau cenedlaethol fel Rhwydwaith Canser Cymru i wella canlyniadau cleifion, diogelwch cleifion a lleihau’r amrywiad yn ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu ledled Cymru.
Rydym wedi bod yn gweithio’n adeiladol gyda thîm Gwelliant Cymru (a chyn hynny gyda 1000 o Fywydau) ers cryn amser. Maent wedi bod yn ganolog wrth gefnogi’r rhaglen genedlaethol gwella canser, y Llwybr Canser Sengl. Rwy’n falch iawn eu bod yn cefnogi ffocws parhaus y gwaith hwn ar lai o lwybrau, ac yn gweithio gyda thimau lleol, yn ogystal â’r rhaglen genedlaethol i leihau amrywiad a rhannu arferion gorau rhwng timau amlddisgyblaethol (MDTs). Maent yn awyddus i alluogi’r timau amlddisgyblaethol (MDTs) lleol i gefnogi eu gwaith gwella eu hunain a helpu i ddod â nhw ynghyd i ddatblygu cymuned ymarfer gynaliadwy (lle bo hynny’n briodol) gan weithio’n lleol ac yn genedlaethol ar wella ansawdd gwasanaeth yn barhaus.
Rydym yn croesawu eu hawydd i wreiddio’r dysgu hwn nid yn unig mewn meysydd afiechydon penodol ond mewn dull mwy integredig, er enghraifft mewn diagnosteg a chefnogaeth cleifion trwy driniaeth a thu hwnt.
Ni fu’r angen i gynnal ansawdd a diogelwch yn y gofal a ddarparwn i gleifion yng Nghymru erioed yn bwysicach. Rydym yn ymwybodol bod y gweithlu canser yng Nghymru eisoes yn fregus, a bod anghydraddoldebau sylweddol i’r cyhoedd a chleifion mewn rhai rhannau o Gymru o ran mynediad at ofal a chanlyniadau. Nid yw’r pandemig ond wedi ychwanegu at faint y galw ac mae sefydliadau’n ei chael hi’n anodd datblygu’r capasiti a llwybrau gofal diogel i ateb y galw hwn.
Mae’r Llwybr Canser Sengl yn ymwneud â bod yn glir ynglŷn â sut mae llwybr da yn edrych i glaf, yna mesur y gweithgarwch a’r perfformiad yn erbyn y safon hon, deall achosion amrywiad a gweithio gyda gwasanaethau clinigol i leihau’r amrywiad hwn. Hynny yw, sicrhau bod gan bawb fynediad at ofal diogel, effeithiol ac effeithlon yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn a ddarperir gan y tîm cywir.
Mae’r Rhwydwaith Canser a Chydweithrediad y GIG ehangach yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Gwelliant Cymru yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Rydyn ni’n gweithio mewn cyfnod heriol, ond mae cyfnodau o’r fath bob amser yn darparu cyfleoedd i wella ac arloesi, ac weithiau hyd yn oed drawsnewid y system rydyn ni’n gweithio ynddi, fel y mae’r cyhoedd a chleifion Cymru yn ei haeddu.