Diwrnod Sepsis y Byd, yr Athro John Boulton, Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru / Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG
Fel y gŵyr llawer ohonoch, mae’n Ddiwrnod Sepsis y Byd heddiw. Mae’n rhyfedd meddwl bod cymaint wedi newid ym maes iechyd a gofal ers y Diwrnod Sepsis y Byd diwethaf. Mae llawer ohonom wedi bod yn flaenllaw yn ymateb yn uniongyrchol i’r pandemig. Nid yw’r pandemig wedi dod i ben, a bydd gan ei effaith oblygiadau am flynyddoedd i ddod.
Er bod llawer ym maes gofal iechyd wedi newid, nid yw rhai pethau wedi newid. Mae diogelwch cleifion yn parhau i fod yn faich sylweddol ar systemau gofal iechyd ledled y byd, a hynny i gleifion a staff. Efallai mai sepsis yw’r pryder diogelwch mwyaf sylweddol. Fel cyflwr mae’n deillio o ymateb imiwn annormal i haint, a gall arwain at gamweithrediad organau sy’n peryglu bywyd. Yn fyd-eang, mae’n parhau i fod yn un o achosion mwyaf marwolaethau, gan gyfrif am oddeutu 11 miliwn o fywydau. Yng Nghymru, mae hyn yn cyfateb i oddeutu 2,200 o bobl ac mae’n cynrychioli tua 13% o’r holl farwolaethau mewn ysbytai. Ar ben hynny, bydd 40% o’r rhain sy’n goroesi yn dioddef o effeithiau sy’n newid bywyd o ganlyniad i’r cyflwr [1,2]. Nid yw effaith y ffigurau hynny’n cynnwys ffigurau pandemig. Efallai eu bod hyd yn oed yn uwch dros y 2 flynedd ddiwethaf.
Mae cryn dystiolaeth ac arweiniad ynghylch adnabod a rheoli sepsis. Yn ogystal, mae timau amlddisgyblaethol ledled Cymru wedi gwneud llawer i weithredu ac ymgorffori’r dystiolaeth a’r arweiniad hwn dros y degawd diwethaf.
Ar ryw adeg, bydd y pandemig yn dod i ben, a bydd COVID19 yn cael ei ystyried fel salwch tymhorol yn union fel y ffliw ac annwyd. Ond bydd dirywiad acíwt a sepsis, a llawer o faterion diogelwch eraill, yn parhau i fod yn her sylweddol. Bydd COVID19 yn gadael effaith hirhoedlog ar ein systemau iechyd. Mae’n ddigon posib bod adnabod a rheoli’r claf sy’n dirywio’n ddifrifol yn un gwaddol o’r fath.
Mae gwaith tîm, cyfathrebu, cydgysylltu, diogelwch seicolegol a diwylliant wedi bod yn ganolog i gyflawni’r ymateb gofal iechyd anhygoel a welsom dros y 18 mis diwethaf. Ond nid yw’r rhain yn ymyriadau clinigol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, y rhain yw’r galluogwyr sylfaenol i ofal diogel i gleifion ac amgylcheddau diogel i staff. Mae gweithio ar y galluogwyr hyn yn hanfodol ar gyfer hyrwyddo’r agenda sepsis. Yn ogystal, mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i barhau i atgyfnerthu’r galluogwyr hyn
Ar 17 Medi, bydd Gwelliant Cymru yn lansio ei strategaeth newydd: Cyflawni Gwella Ansawdd a Diogelwch. Rydym yn newid y ffordd yr ydym yn cefnogi sefydliadau wrth yrru eu blaenoriaethau lleol ar gyfer ansawdd a diogelwch cleifion. Wrth wneud hynny, byddwn yn gweithio’n ddiwyd ochr yn ochr â’r gwasanaeth ar y galluogwyr sylfaenol ar gyfer gofal diogel ac effeithiol. Trwy ganolbwyntio ar y galluogwyr hyn, gallwn barhau i gefnogi creu amodau sy’n helpu i fynd i’r afael â materion diogelwch fel sepsis a’u rheoli’n brydlon.
Bydd ein strategaeth newydd yn cael ei lansio ar 17 Medi, Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd. Dilynwch ein sianeli i gael y diweddariadau diweddaraf.
- Szakmany T, Lundin RM, Sharif B, et al. Sepsis prevalence and outcome on the general wards and emergency departments in Wales: Results of a multi-centre, observational, point prevalence study. PLoS One 2016;11.
- UK Sepsis Trust. 2019.https://sepsistrust.org/about/about-sepsis/