Dal i fyny ag enillwyr Gwobrau GIG Cymru: Gwasanaeth Llwybr Cwmtawe
Bron i flwyddyn ar ôl iddynt ennill y wobr am Ddarparu Gwasanaethau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yng Ngwobrau GIG Cymru 2023, rydym yn sgwrsio â Thîm Clwstwr Cwmtawe yn Abertawe i fyfyrio ar eu prosiect sy’n darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gleifion ag anghenion cymhleth.
Beth sbardunodd y gwaith?
Dangosodd data mapio clwstwr Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot fod trais domestig yn broblem oedd angen mynd i’r afael ag ef ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Cynhaliwyd cyfarfod gyda’r Hwb Cam-drin Domestig, y Clwstwr a chynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd. Roedd y rhanddeiliaid yn teimlo bod creu swydd i fynd i’r afael â’r ‘3 mater allweddol’ (Trais Domestig, Camddefnyddio Sylweddau ac Iechyd Meddwl) yn hanfodol. Teimlwyd hefyd y byddai gweithiwr ym maes gofal sylfaenol yn galluogi gweithio mewn partneriaeth cadarn rhwng sectorau. Dywedodd Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (CGGA), yr elusen cymorth ymbarél ar gyfer Abertawe, y gallent gefnogi’r gwasanaeth a sicrhau bod gan gleifion gwell gwybodaeth am y ddarpariaeth leol gyda’u cyfranogiad nhw. Cafodd Gwasanaeth Llwybr Cwm Tawe gymeradwyaeth i fwrw ati ym mis Gorffennaf 2021 er mwyn mynd i’r afael â’r problemau a wynebir gan unigolion. Mae hefyd yn darparu cymorth systemig i aelodau o’r teulu yn ôl yr angen.
Dywedwch wrthym am y prosiect.
Mae’r gwasanaeth yn darparu ‘gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn’, gan ganiatáu amser, lle a hyblygrwydd i gyd-gynhyrchu ymyraethau ystyrlon sy’n mynd i’r afael â’r anghenion lluosog nad ydynt yn cael eu diwallu a/neu’r problemau a wynebir. Rhai o nodau’r gwasanaeth yw: lleihau’r galw ar feddygon teulu, darparu gwell cymorth i gleifion gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain, gwella mynediad at ffynonellau cymorth eraill a nodi ‘achosion cudd’ problemau iechyd corfforol a meddyliol gwael.
Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu?
- Mae diogelu yn ystyriaeth fawr o ran gwaith yn ymwneud ag anghenion cymhleth. Yn ogystal â sicrhau bod rolau traws-glwstwr yn plethu’n effeithiol â gweithdrefnau ymarfer ar draws ôl troed y clwstwr daearyddol. Er mwyn sicrhau bod prosesau’n gadarn, sefydlwyd prosiect peilot diogelu i sicrhau bod materion yn cael eu trafod, bod systemau wedi’u halinio a bod unrhyw rwystrau i gynnydd yn cael eu nodi a’u herio’n briodol.
- Daeth yn amlwg bod angen adnoddau ychwanegol. Roedd cleifion â lefelau uchel o risg/anghenion lluosog heb eu diwallu a oedd angen dull Tîm o Amgylch y Teulu/Tîm Amlddisgyblaethol (TAF/MDT) yn cymryd llawer iawn o amser. Cynyddwyd y capasiti trwy gyflogi gweithiwr cymorth anghenion cymhleth.
- Mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn defnyddio systemau gwahanol. Mae gwella partneriaethau a chyfathrebu wedi arwain at dynnu sylw at y gwasanaeth mewn cyfarfodydd strategol allweddol a gwell gweithdrefnau rhannu data o fewn y clwstwr ei hun, gan gynnwys datblygu Ward Iechyd Meddwl Rithwir aml-asiantaeth sy’n cyfarfod bob pythefnos.
Pa effaith mae’r gwaith wedi’i chael?
Arweiniodd y prosiect peilot at y canlynol i’r 83 o unigolion a atgyfeiriwyd a’r 19 o fuddiolwyr ychwanegol (aelodau teulu):
- Gostyngiad o 60% yn y galw ar feddygon teulu gan gleifion a atgyfeiriwyd at y prosiect,
- 98% o’r cleifion a gefnogwyd yn cymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a’u llesiant eu hunain,
- 98% o’r cleifion a atgyfeiriwyd gyda gwell mynediad at ffynonellau cymorth eraill,
- nodwyd ‘achosion cudd’ iechyd corfforol a meddyliol gwael mewn 100% o’r achosion,
- ym mhob achos, nodwyd materion diogelu ac aethpwyd i’r afael â nhw fel y bo’n briodol,
- gwnaeth bron i 70% o’r unigolion a atgyfeiriwyd gymryd rhan mewn cymorth dros gyfnod o 12 wythnos (ar gyfartaledd) – sy’n ganlyniad ardderchog o ystyried bod y garfan hon yn ‘anodd i ymgysylltu â hi’,
- nododd asesiad o’r adenillion economaidd o fuddsoddi gan Brifysgol Abertawe fod arbedion posibl, ar gyfer sampl o 12 unigolyn, yn amrywio rhwng £400,000 (ystod is) ac £860,000 (ystod uchaf) y flwyddyn.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Nid yw’n ddigon i ddweud bod y clwstwr wrth ei fodd ac yn teimlo’n anrhydeddus i ennill Gwobr GIG Cymru am Ddarparu Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn. Rhoddodd ymweliad y beirniaid yn ystod haf 2023 gyfle i’r tîm arddangos eu gwaith ac yn bwysicach fyth rhoddodd ‘lais’ i’n defnyddwyr gwasanaeth a chaniatáu iddynt siarad am y gwasanaeth a’r effaith y mae’r cymorth wedi’i gael ar eu bywydau.
“Diolch… Nid oes unrhyw un arall wedi rhoi dewis i mi nac wedi dweud wrthyf fod dewis arall…”
Mae’r tystebau hyn yn dangos bod y prosiect hwn wedi gweddnewid bywydau. Mae’r prosiect wedi cyflawni cymaint mewn cyfnod cymharol fyr ac mae’n enghraifft wych o’r hyn y gall partneriaeth a dyfalbarhad go iawn ei gyflawni.
Dywedodd Amanda Carr, Cyfarwyddwr SCVS: ‘Mae’r prosiect yn enghraifft wych o sut y gall gweithio mewn partneriaeth wirioneddol ddod â buddion i bawb sy’n gysylltiedig. Mae’n lleihau’r galw ar amser gwerthfawr meddygon teulu ac yn darparu cymorth i unigolion pan fydd ei angen arnynt. Mae ein partneriaeth â Chlwstwr Cwmtawe wedi’i hen sefydlu ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu dulliau mwy arloesol o ddarparu cymorth i bartneriaid a’r rhai mewn angen yn y dyfodol’
Mae trafodaethau’n digwydd ar hyn o bryd yn y Grŵp Cynllunio Clwstwr Cyfan i ystyried sut y gellir cyflwyno’r fenter hon ymhellach ar draws y rhanbarth.Y gobaith yw y bydd ennill cydnabyddiaeth genedlaethol yn helpu gyda hyn.
Mae Gwasanaeth Llwybr Cwmtawe o fewn Clwstwr Cwmtawe yn rhan o Fodel Gwasanaeth ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant sy’n rhoi cleifion wrth wraidd y ddarpariaeth, ac yn sicrhau eu bod yn cael cymorth priodol ar gyfer eu hanghenion. Mae’r Bwrdd Iechyd yn edrych ar y model hwn ar hyn o bryd fel enghraifft o arfer rhagorol ac mae’n hyrwyddo’r model hwn gan weithio ar y cyd â’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.
Os hoffech gysylltu neu ddysgu mwy am y gwaith hwn, anfonwch neges i: Debra.morgan8@wales.nhs.uk.
Bydd enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2024 yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau 24 Hydref. I gael gwybod mwy ewch i: gwobraugig.cymru.