Cyfranogi, egwyddorion, a diben | Hwyluso Cymuned Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer Ymddygiadau Sy’n Peri Gofid

Gan David O’Brien, Uwch Reolwr Gwella


Fe ges i fwynhau un o uchafbwyntiau fy nghalendr y mis diwethaf, sef cyfarfod â dros 60 o aelodau Cymuned Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer Ymddygiadau Sy’n peri Gofid yn Llandrindod.

David O’Brien (chwith), Cymuned Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer Ymddygiadau Sy’n peri Gofid

Mae’n fraint i ni yn rhaglen Anableddau Dysgu Gwelliant Cymru hwyluso’r digwyddiad a dod â gweithwyr proffesiynol ynghyd o bob rhan o iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, y trydydd sector, a phobl â phrofiad bywyd.

Fel Uwch Reolwr Gwella, rwyf bob amser yn falch o weld cymaint o bobl o wahanol feysydd yn dod at ei gilydd ac yn ymdrechu i wella bywydau pobl sy’n dangos ymddygiadau sy’n peri gofid, trwy ddarparu cymorth tosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Bob tro mae ein Cymuned Ymarfer yn cyfarfod, mae’n ein hatgoffa pa mor effeithiol y gall rhwydwaith o bobl fedrus, wybodus ac angerddol fod. Mae’r gymuned wedi bod yn dod ynghyd ers dros 10 mlynedd bellach. Mae’r cyfarfodydd fel arfer yn rhithiwr, gyda chyfarfod wyneb yn wyneb unwaith y flwyddyn yng Nghanolbarth Cymru. Mae’r aelodau’n canolbwyntio ar wella bywydau pobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd.

Pam rydyn ni’n dod at ein gilydd?

Gall Cymunedau Ymarfer ddarparu fframwaith ar gyfer sefydlu consensws ar wahanol bynciau, gan ddod ag ystod o bobl ynghyd sydd â safbwyntiau lleol a chenedlaethol. Mae’n aml yn ffordd wych o feithrin trafodaeth anffurfiol wrth weithio tuag at nod cyffredin. Gallant hefyd ein cysylltu â rhwydweithiau ehangach. Yn hollbwysig, maent yn llywio ymagwedd gyfunol at ymarfer, yn nodi heriau, yn archwilio datrysiadau, ac yn rhannu arferion da i ddysgu oddi wrth ei gilydd.

Bydd aelodau ein Cymuned Ymarfer yn treulio’r 12 mis nesaf yn gwella sut rydym yn casglu profiadau bywyd y rhai y mae eu hymddygiad yn peri gofid, gan hwyluso diwylliannau dysgu cadarnhaol, datblygu arferion i gefnogi pobl mewn argyfwng, a rheoli risg. Fe wnaethom ganolbwyntio ar y themâu hyn oherwydd bod y gymuned wedi eu dewis fel blaenoriaethau mewn ymarfer ymgysylltu diweddar.

Mae popeth y mae ein cymuned yn ei wneud yn cael ei ffurfio gan y gred bod hawliau dynol unigolyn yn sail i bob penderfyniad mewn gwasanaethau gofal i bobl ag anabledd dysgu. Sefydlwyd yr egwyddor hon dros 40 mlynedd yn ôl yn y Strategaeth Cymru Gyfan.

Mae ein cymuned yn gweithio i greu diwylliant o gynhwysiant a diogelwch, lle gall arloesi ffynnu, a lle caiff syniadau eu profi a’u herio. Mae’r Gymuned Ymarfer yn fan diogel i aelodau deimlo’n hyderus na fyddant yn wynebu rhagfarn, beirniadaeth, gwahaniaethu na niwed.

Er bod y dirwedd yn fawr a’r heriau’n amrywio, mae’r Gymuned Ymarfer yn darparu lle i ddod ynghyd i gysylltu ag eraill. Gyda’n gilydd, rydym yn elwa o ddoethineb cyfunol ein haelodau. Effaith gadarnhaol ein hymdrechion yw ein bod wedi’n harfogi’n well, o ran gwybodaeth a sgiliau, i wneud gwelliannau ar sail tystiolaeth yn ein meysydd gofal.

Sut rydyn ni’n gwneud y gorau o’n hamser gyda’n gilydd?

Aelodau Cymuned Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer Ymddygiadau Sy’n peri Gofid.

Mae cyfranogiad yn ei hun yn gam cadarnhaol. Mae’n bwysig i aelodau’r gymuned dreulio amser gyda phobl o’r un anian, oherwydd gall gofynion dyddiol darparu gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu ddominyddu sylw uniongyrchol ein haelodau a phennu eu blaenoriaethau. Rydym yn annog aelodau’r gymuned i ystyried cyfranogiad yn ffurf o hyfforddiant.

Fel ffan pêl-droed brwd a chefnogwr CPD Wrecsam, efallai y byddai’n ddefnyddiol meddwl am y byd chwaraeon. (Cyn i chi neidio i gasgliadau, roeddwn i’n ymweld â’r Cae Ras yn rheolaidd cyn i’r sêr Hollywood gyrraedd!) Mae’r chwaraewyr yn cael eu recriwtio ar sail addewid eu sgiliau a’u perfformiadau. Maent yn hyfforddi gyda’i gilydd bron bob dydd ac maent yn cael eu cefnogi gan dîm o hyfforddwyr a staff perfformio. Y nod, wrth gwrs, yw cyrraedd uchafbwynt am 90 munud ar ddiwrnod gêm unwaith neu ddwywaith yr wythnos, ond mae llawer mwy o amser yn cael ei roi i baratoi a chyflyru nag sydd ei angen ar adeg cyflwyno.

Mae’r realiti sy’n wynebu aelodau o’n cymuned yn aml i’r gwrthwyneb gyda chyfleoedd cyfyngedig i feithrin sgiliau a gwybodaeth, yn enwedig ar bynciau arbenigol fel ymddygiad, wrth gyflawni ein rolau’n barhaus. Mae’r Gymuned Ymarfer yn rhoi lle i eistedd ar y fainc ac arsylwi, gwrando a dysgu, tra’n darparu cefnogaeth werthfawr i’n gilydd i fynd i’r afael â heriau allweddol gyda’n gilydd.

Ble rydyn ni’n dysgu gyda’n gilydd?

Yn nigwyddiad yr wythnos ddiwethaf yn Llandrindod, bu ein siaradwyr yn rhoi syniad go iawn o’r heriau y maent yn eu hwynebu a rhai o’u datrysiadau.

Roedd y pynciau’n cynnwys:

Gerraint Jones-Griffiths, Cymuned Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer Ymddygiadau Sy’n peri Gofid.

Rydym wedi ystyried fformat ein digwyddiadau yn ofalus er mwyn eu gwneud mor gynhyrchiol â phosibl. Dechreuodd ein digwyddiad diweddaraf gyda chyflwyniadau gan y Cyd-gadeiryddion Paula Thomas a Gerraint Jones-Griffiths. Yna rhoddodd pob un o’n siaradwyr arbenigol gyflwyniadau 20 munud i gyflwyno eu pynciau.

Unwaith i ni egluro’r syniadau ar gyfer pob pwnc, fe wnaethon ni rannu’n weithdai lle bu’r aelodau’n cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a thasgau. Hwyluswyd y sesiynau gan ein siaradwyr arbenigol a gwnaethant herio’r aelodau i fynd i’r afael â’r manylion bychan. Bydd yr allbwn terfynol yn cael ei anfon at Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anabledd Dysgu, sy’n cynghori Llywodraeth Cymru.

Gan fod ein haelodau’n dod o leoliadau gofal mor amrywiol, fe wnaethom eu hannog i rannu eu profiadau eu hunain er mwyn helpu’r gymuned i ddeall eu safbwyntiau unigryw. Ni allwn gyflawni partneriaethau gwirioneddol gydweithredol os nad yw llais pawb yn cael ei glywed. Mae’r dull hwn yn aml yn gwneud ein gweithdai yn weithgareddau difyr sy’n ysgogi’r meddwl. Yna mae ein haelodau, sy’n rhydd i fynd â dysg newydd gyda nhw, yn fwy gwybodus i weithredu fel eiriolwyr a hyrwyddo ymyriadau effeithiol ar ôl pob digwyddiad a gynhelir gennym.

Mae cadw momentwm rhwng cyfarfodydd yn bwysig iawn ac mae aelodau yn weithgar wrth rannu gwybodaeth rhwng ein digwyddiadau, megis adnoddau, astudiaethau achos, a chanfyddiadau ymchwil.

Ymuno â’r gymuned

Mae gan ein Cymuned Ymarfer gyfrifoldeb i ddysgu a thyfu’n barhaus. A gallwch chi ein helpu ni i wneud hynny.

Rydym yn croesawu aelodau newydd i’r gymuned sy’n rhannu’r diddordeb cyffredin o wella ansawdd bywyd pobl ag anableddau dysgu sydd mewn perygl o ymgymryd ag ymddygiadau sy’n peri gofid. Gallwch ddysgu mwy yn ein Cylch Gorchwyl.

Peidiwch â bod yn swil! Os hoffech ymuno â’r gymuned neu ofyn unrhyw gwestiynau am aelodaeth, anfonwch neges i: david.o’brien2@wales.nhs.uk