Tynnu sylw at bŵer cydweithio a phrofiad byw: Myfyrio ar Gynhadledd Alzheimer Europe 2024

Gan Nigel Hullah, Cadeirydd Gweithgor Dementia y Tair Gwlad ac Eiriolwr Dementia.


Ym mis Hydref, aeth Nigel Hullah, Cadeirydd Dementia y Tair Gwlad ac eiriolwr dementia, Gynhadledd Flynyddol Alzheimer Europe yng Ngenefa. Yng ngeiriau Nigel ei hun, mae’n trafod pwysigrwydd cydweithio rhwng sefydliadau a gwrando ar y rhai sydd â phrofiad bywyd. Mae Nigel hefyd yn tynnu sylw at yr ymateb cadarnhaol a gafodd wrth arddangos y gwaith sy’n digwydd yng Nghymru ym maes dementia.

Llwyddodd Cynhadledd Flynyddol Alzheimer Europe 2024 i ddwyn ynghyd amrywiaeth eang o randdeiliaid i drafod materion dybryd ym maes gofal dementia. Eleni roedd cydbwysedd iach rhwng ymchwil ac ymarfer. Amlygodd y digwyddiad yr angen am ymchwil, cydweithredu ac eiriolaeth barhaus i wella bywydau’r rhai y mae dementia yn effeithio arnynt.

Roedd gan y gynhadledd hon ymagwedd gynnes, ddifyr a theimlai’r holl gynadleddwyr eu bod yn cael eu cefnogi. Cafwyd llawer o gyflwyniadau a oedd yn peri i rywun feddwl ac a oedd yn cynnig realiti a chyfeiriad i’r dyfodol. Fel unigolyn sydd â phrofiad bywyd o ddementia, roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi a’m gwerthfawrogi  gan Gwelliant Cymru a bod fy marn a’m profiadau yn gyfartal ac yn cael eu hyrwyddo.


Trosolwg o fy nghyfraniad i’r gynhadledd:

Rhoddais ddau gyflwyniad poster ar gyfer Lleisiau Dementia yn hyrwyddo ein gwaith gyda Gwelliant Cymru yng Nghynhadledd Alzheimer Europe, a oedd yn arddangos yn effeithiol yr ymdrechion cydweithredol i wella gofal a chymorth dementia ledled Cymru. Amlygodd y cyflwyniadau bwysigrwydd integreiddio profiad bywyd i wasanaethau dementia a phwysleisiwyd effaith mentrau cymunedol ac ysbytai.

Teimlais fod y posteri wedi’u strwythuro’n dda, yn darparu gwybodaeth glir a chryno ar bynciau allweddol, gan gynnwys:

  • Ffocws ar wella ansawdd bywyd unigolion sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.
  • Tynnwyd sylw at y rhaglen Gofal Dementia Cymru sy’n canolbwyntio ar y fframwaith cenedlaethol a rhanbarthol sydd ar waith i wella gofal dementia fel cenedl sy’n cydweithio.
  • Amlinella’r dulliau a ddefnyddir i gasglu data, gan gynnwys arolygon, cyfweliadau ac ymgysylltu. Helpodd hyn i ddangos pa mor drylwyr yw’r rhaglen ddementia.
  • Arddangos sut mae profiadau bywyd pobl â dementia wedi llywio datblygiad a darpariaeth gwasanaeth. Amlygodd hyn werth cydgynhyrchu wrth greu systemau cymorth perthnasol ac effeithiol.
  • Argymhellion y gellir eu gweithredu ar gyfer llunwyr polisi ac ymarferwyr, gan bwysleisio’r angen am gydweithio parhaus a phwysigrwydd blaenoriaethu lleisiau’r rhai y mae dementia yn effeithio arnynt.

Sicrhawyd bod y posteri wedi’u dylunio i fod yn ddeniadol yn weledol, gyda chynllun clir a llif rhesymegol i’w gwneud hi’n hawdd i’r rhai a oedd yn bresennol yn y cynadleddau, gan gynnwys y rhai â dementia, ddilyn yr wybodaeth a gyflwynwyd. Galwodd llawer heibio i drafod y pynciau a oedd yn amlygu faint o wledydd sydd hefyd yn gweithio i hyrwyddo themâu tebyg a gwell gofal dementia.

Yn ystod y gynhadledd, buom yn ymgysylltu â’r cynadleddwyr, gan ddod â’n hiwmor Cymraeg cyfeillgar a sgwrs a oedd yn annog cwestiynau a thrafodaeth. Teimlai pobl ein bod yn gallu trafod arwyddocâd ein gwaith mewn ffordd gyfeillgar y gellir ymdeimlo â hi. Roedd y rhyngweithio hwn yn meithrin awyrgylch cadarnhaol ac yn caniatáu cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr.

Roedd y cyflwyniadau poster yn tanlinellu’r angen hanfodol am ddulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ym maes gofal dementia. Drwy rannu mewnwelediadau gan Gwelliant Cymru a Lleisiau Dementia, roedd y cyflwyniad yn atseinio gyda’r gynulleidfa eang, gan amlygu pwysigrwydd cynnwys y gymuned wrth fynd i’r afael â’r heriau a wynebir gan unigolion sy’n byw gyda dementia.

Ar y cyfan, roedd ein cyflwyniadau yng Nghynhadledd Alzheimer Europe yn ymdrech glodwiw a oedd yn cyfleu’n effeithiol arwyddocâd cydgynhyrchu, cymorth cymunedol ac ysbyty mewn gofal dementia. Teimlais fod ein gwaith yng Nghymru a’r dulliau a ddefnyddiwn wedi ysbrydoli’r cynadleddwyr i ystyried sut y gallant ymgorffori profiadau bywyd yn eu gwaith eu hunain. Mae’r cydweithio rhwng y ddau sefydliad yn enghraifft o fodel ar gyfer mentrau yn y dyfodol sydd â’r nod o wella bywydau’r rhai yr effeithir arnynt gan ddementia.


Roedd gan gynhadledd Alzheimer Ewrop dri argymhelliad allweddol:

  1. Parhau i eiriol dros newid polisi: Cryfhau ymdrechion i ddylanwadu ar lunwyr polisi i flaenoriaethu dementia mewn agendâu iechyd cenedlaethol.
  2. Meithrin cydweithio rhyngwladol: Annog partneriaethau rhwng gwledydd i rannu arferion gorau a chanfyddiadau ymchwil.
  3. Buddsoddi mewn ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd: Gweithredu ymgyrchoedd sy’n anelu at leihau stigma a chynyddu dealltwriaeth o ddementia o fewn cymunedau.

Wrth symud ymlaen, bydd Alzheimer Europe yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Gweithredu argymhellion y gynhadledd.
  • Trefnu gweithdai rhanbarthol i fynd i’r afael â heriau penodol a wynebir gan wahanol wledydd.
  • Datblygu adroddiad cynhwysfawr yn crynhoi canfyddiadau a mewnwelediadau’r gynhadledd.

Weld y posteri