Adnoddau i gefnogi pobl ag anableddau dysgu yn ystod brigiad o achosion COVID-19 gan Dr Ruth Wyn Williams, Uwch Reolwr Gwella, Gwelliant Cymru.

Fel nyrs anabledd dysgu, mae pobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd wedi fy syfrdanu gyda’u gwydnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i ymdrechu dros hawliau unigolion.  Yn ystod pandemig COVID-19 mae pobl wedi darllen, dawnsio, ymuno â sesiynau cerddoriaeth, canu, cymryd rhan mewn cwisiau ar-lein, pobi, ymarfer corff  yn rai o’r enghreifftiau o sut mae unigolion a theuluoedd wedi bod yn greadigol wrth aros gartref.  Er enghraifft, cynhyrchodd aelodau o Mencap Môn fideo gwych i ddangos beth maen nhw wedi bod yn ei wneud i ofalu am eu lles wrth fyw gyda’r cyfyngiadau COVID-19.

Fodd bynnag, nid stori pawb yw hyn ac mae llawer o deuluoedd wedi siarad am yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth geisio cynnal eu lles yn ystod y pandemig. Gall methu ag ymgysylltu â’n gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd, gweld ffrindiau a theulu a theimladau o unigedd a diflastod gael effaith sylweddol ar fywydau pawb.  Fel Tîm Gwella Iechyd Anabledd Dysgu, Gwelliant Cymru, mae COVID-19 wedi rhoi cyfle i ni weithio ar draws rhaglenni i gefnogi amryw o fentrau.  Serch hynny, mae’r flaenoriaeth allweddol o weithio tuag at leihau’r anghydraddoldebau iechyd yn parhau ar draws pob agenda.  Mae gan bawb yr hawl i gael mynediad at ofal iechyd ac o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mae gan bob person anabl yr hawl i addasiadau rhesymol wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus.  Yn ogystal, mae gan bobl ag anabledd dysgu yr hawl i gael gwybodaeth a allai eu helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi â chyfyngiadau COVID-19. 

Bwriad y gyfres Llyfryn Hunangymorth yw helpu unigolion i weithio mewn partneriaeth â phobl ag anabledd dysgu, a’u cefnogi i siarad am eu teimladau a gwneud cynlluniau ar gyfer aros yn iach ar yr adeg anodd yma. Mae’r gyfres wedi ei gyhoeddi gan Brifysgol Glasgow, gyda chymorth cydweithwyr ym Mhrifysgol Caerhirfryn, Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Warwick.  Gyda chaniatâd Prifysgol Glasgow mae Gwelliant Cymru wedi sicrhau bod yr adnoddau ar gael yn y Gymraeg.

Gellir defnyddio’r llyfrynnau gyda chymorth aelodau o’r teulu, ffrindiau, gwirfoddolwyr a gofalwyr ac maent hefyd yn addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gwaith cymdeithasol ac iechyd.  Bwriad y llyfrynnau yw rhoi cyfle i bobl ag anabledd dysgu i siarad am eu teimladau gyda phobl sydd yn eu cefnogi.  Mae canllaw i gyd-fynd â phob llyfryn, sy’n esbonio sut y gellir cyflwyno’r cynnwys.  Ceir llyfrynnau am ddeall ac ymdopi â theimlo’n isel a theimlo’n bryderus. Mae’r llyfrynnau eraill yn ymwneud â ffyrdd blaenllaw o aros yn iach.  Maen nhw’n trafod noson dda o gwsg, bod yn egnïol a theimlo’n well ac am ddatrys problemau.  Hefyd, gellir gwylio ffilm o ymarfer ymlacio a allai fod yn ddefnyddiol i rhai.

Mae’r adnoddau am ddim i’w lawr lwytho a gobeithiwn y byddent yn ddefnyddiol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: ruth.wyn-williams@wales.nhs.uk