Rhannu arferion da: Gwella llif cleifion gydag Iain Roberts, Pennaeth Rhaglenni
Yn fuan ar ôl dechrau’r cyfyngiadau symud yn y DU ym mis Mawrth, dechreuais deimlo’n ddi-hwyl. Roeddwn yn flinedig, yn bigog, ac yn dioddef o bennau tost ofnadwy. Aeth rhai dyddiau heibio cyn i mi sylweddoli fy mod i’n gweld eisiau fy Starbucks dyddiol. Ni chymerodd ormod o amser i mi ddygymod â chael llai o gaffein ac roeddwn yn gallu cael gafael ar duniau bach o Starbucks Espresso i ddod drwyddi.
Ni allwn fod wedi bod yn hapusach pan ddaeth y cyfyngiadau symud i ben ac agorodd y Starbucks archebu o gar. Fodd bynnag, rwyf wedi sylwi fy mod yn hynod anoddefgar o’m cyd-yfwyr coffi yn y ciw.
Yr hyn sy’n fy ngwylltio gyntaf yw’r ceir sy’n cymryd oesoedd i archebu. Yr ail yw, pan fyddan nhw’n symud ymlaen i gasglu, dydyn nhw ddim yn symud ymlaen ddigon, fel na alla i fynd yn ddigon agos i archebu. Y peth olaf sy’n fy ngwylltio yw bod pobl yn cymryd hydoedd i osod y coffi yn eu ceir ac maen nhw’n ffidlan am yr hyn sy’n teimlo fel oesoedd cyn gyrru i ffwrdd.
Mae gan fy merch a mi system dwt, sy’n fwy ystyriol i’r gyrrwr y tu ôl i ni, yn ein barn ni. Pan gawn ein diodydd, rwy’n symud fy nghar ymlaen yn awtomatig, fel y gall y car nesaf gyrraedd y ffenestr i dalu a derbyn eu diodydd. Mae symud y car ymlaen yn caniatáu i ni roi ein diodydd yn ddiogel yn y dalwyr cwpanau, ac rydym yn credu ei fod yn cyflymu’r ciw – ryw ychydig.
Ar y pwynt hwn, mae’n rhaid eich bod chi’n meddwl fy mod yn berson anniddorol, ond mae gen i ddiddordeb mewn llif ciw! Beth sy’n ei arafu, ac a yw pobl yn sylweddoli bod eu hymddygiad yn gallu peri oedi i eraill. Mae llif ciw wedi bod yn rhan fawr o’m gyrfa i. Cefais fy atgoffa o’m hamser yn Ysbyty Brenhinol Swydd Gaerloyw yn y 1990au cynnar, lle roeddwn yn rheolwr gwelyau. Roedd fy nghydweithwyr yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys bob amser yn awyddus i wybod a oedd gwely’n rhydd ar gyfer claf a oedd yn aros. Dyna oedd y darn hawdd, fodd bynnag, yr hyn yr oeddent bob amser eisiau ei wybod oedd, a yw’r gwely’n rhydd nawr? Yn aml, byddent yn ffonio ward i ddweud eu bod yn dod â chlaf i fyny y funud honno ac i baratoi’r gwely.
Yr hyn oedd yn amlwg oedd bod yr ychydig funudau hynny ar y ward i ryddhau’n iawn yr un mor bwysig i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Roedd gwneud lle yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn hanfodol i’w gallu i ymateb i’r ambiwlans nesaf a oedd yn cyrraedd y drysau blaen.
Ar 23 Medi, cynhaliodd Gwelliant Cymru sesiwn ar-lein gyda chydweithwyr o’r Iseldiroedd i siarad am lif cleifion mewn ysbyty. Os nad oeddech yn gallu ymuno â’r cyfarfod, mae recordiad o’r sesiwn i gyd-fynd â’r blog hwn.
Disgrifiodd y sesiwn dri pheth. Yn gyntaf, pwysigrwydd gwella llif mewn oriau – felly pryd bydd gwely ar gael a pha mor gyflym y gallwn ni ei lenwi. Yn ail, lleihau hyd arhosiad mewn dyddiau ac yn drydydd, gweithio i gadw mwy o gleifion yn ddiogel gartref.
Yn ystod y digwyddiad hwn, lle ymunodd 70 o bobl â’r sgwrs, dysgom ni am fethodoleg ‘Capasiti Galw Amser Real’ (RTDC), y mae cydweithwyr yn yr Iseldiroedd wedi’u cyflwyno. Mae Gwelliant Cymru yn awyddus i gefnogi’r gwasanaeth ar lif cleifion. Mae yna wyddoniaeth yn perthyn i lif ac rydym yn awyddus i helpu i’w hegluro a’i dysgu.
Ein nod yn 2021 yw helpu i wella dealltwriaeth o wyddoniaeth llif gan ddefnyddio gwelliant darbodus a chefnogi gweithredu’r egwyddorion hyn yn ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar y broblem hon yn ein barn ni.
Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o waith Gwelliant Cymru yn canolbwyntio ar gefnogi Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda’i hymateb i COVID-19 – a nawr, yn fwy nag erioed, gyda’r ystyriaeth ychwanegol o orfod cadw pellter cymdeithasol rhwng cleifion, rydym yn awyddus i helpu gyda’r gallu i gefnogi a chynnal gwaith gwella ar lif. Mae gwaith cychwynnol ar y gweill i weld a ellir profi’r gwaith o’r Iseldiroedd yng Nghymru.
Felly beth yw cynnig cefnogaeth ar lif Gwelliant Cymru ar hyn o bryd?
Yn gyntaf, gwrandewch ar y sesiwn. Os oes diddordeb gennych yn y drafodaeth, rhannwch hi gyda’ch cydweithwyr yn eich system iechyd. Rydym yn hapus i’ch cyflwyno chi i’n cydweithwyr yn yr Iseldiroedd.
Yn ail, os hoffech ddysgu mwy am lif neu RTDC i’ch helpu i baratoi ar gyfer y gaeaf hwn, cysylltwch â Gwelliant Cymru i weld sut y gellir defnyddio hyn yn eich cynllunio lleol eich hun. Fodd bynnag, mae RTDC yn canolbwyntio ar yr ysbyty, mae ein cynnig hefyd yn cynnwys cefnogi cyflwyno egwyddorion darbodus ar draws y llwybrau iechyd a gofal cymdeithasol ac felly mae‘n cynnwys gwasanaethau cymunedol hefyd.
Po fwyaf y byddwch chi’n dod yn gyfarwydd â gwyddoniaeth llif, y mwyaf o gwestiynau fydd i’w gofyn. Rwy’n siŵr y gallech chi ailgynllunio a gwella’r llif lle rydych yn gweithio. Pe byddech chi’n gwybod heddiw pwy oedd yn debygol o fynd adref yfory, beth fyddai angen i’r ysbyty ei wneud i allu gwneud i hynny ddigwydd? Byddem yn dwlu dysgu am hyn gyda chi a helpu.
Felly beth yw fy theori ynghylch yr oedi yn y ciw yn y Starbucks archebu o gar? I mi, dyma sy’n gyfrifol:
- Y bobl sydd eisiau brechdanau wedi’u coginio sy’n cymryd yr hiraf
- Frappucinos ffansi a’r nifer a archebir sy’n dod nesaf
- Y sawl sy’n methu gwneud penderfyniad neu gwsmer newydd nad yw’n gwybod beth i’w wneud
- Dim digon o faristas neu rywun sy’n dysgu’r swydd
- Neb yn y ciw yn poeni am unrhyw un arall – a oes lle i’r car y tu ôl i mi archebu?
Ar ôl ysgrifennu hwn, efallai y dylwn i ailystyried fy mherthynas â choffi…
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Iain Roberts, Pennaeth Rhaglenni
Rebecca Hanmer, Uwch Reolwr Gwelliant
Adam Didcott, Uwch Reolwr Gwelliant