Dathlu blwyddyn gyntaf Academi Gwelliant Cymru ac edrych tua’r dyfodol gan Dominique Bird Pennaeth Capasiti a Gallu
Flwyddyn yn ôl i’r wythnos hon, roeddem yn dathlu lansio Gwelliant Cymru ac Academi Gwelliant Cymru.
![](https://www.improvementcymru.net/wp-content/uploads/2020/11/Dom-Lisa-break-1-300x200.jpg)
Fe wnaethon ni dreulio dau ddiwrnod gyda dros 650 ohonoch chi’n rhannu arferion da, gwelliannau rhwydweithio a dulliau dysgu i wella ar y lefelau micro a system a bu partneriaid o Ogledd Iwerddon a’r Alban yn archwilio dull system rheoli ansawdd.
Lansiodd y gynhadledd hefyd y bartneriaeth rhwng Gwelliant Cymru a’r Sefydliad Iechyd er mwyn sefydlu’r Q Lab Cymru arloesol – y labordy cyntaf o’i fath y tu allan i Lundain.
Am flwyddyn rydyn ni i gyd wedi’i chael ers hynny. Mae timau bellach yn wynebau mewn blychau ar sgriniau gyda cheginau, soffas neu ystafelloedd teganau sydd wedi’u troi’n swyddfeydd ad-hoc ar frys yn gefndir iddynt. Mae’r gwasanaeth cyfan wedi dysgu sgiliau newydd, mae wedi adeiladu systemau newydd ac wedi diwallu anghenion ymateb i bandemig digynsail.
Ac mae gwelliant wedi dangos ei allu ar gyflymder, yn lleol ac yn genedlaethol.
Nododd tystiolaeth o Welliant Cymru a’r hyn mae’r Sefydliad Iechyd wedi’i ddysgu gan y system Covid themâu galluogi allweddol o gydweithredu trawsffiniol; dysgu ar y cyd a ffocws ar arbrofi. Mae hyn oll wedi’i gefnogi gan gymysgedd effeithiol o arweinyddiaeth ganolog a gwasgaredig. Buom yn siarad yn lansiad Academi Gwelliant Cymru am yr angen i greu’r amodau i welliant allu ffynnu, i gefnogi cysylltiadau ac i feithrin ein gallu i wella – sut rydyn ni’n adeiladu ymddiriedaeth gydag arweinwyr ar bob lefel, sut rydyn ni’n adeiladu’r sgiliau a sut rydyn ni’n cysylltu’r elfennau hyn. Mae’r agweddau hyn yn bwysicach nawr nag erioed er mwyn i ni gadw’r gwelliannau a’r newidiadau anhygoel yr ydym wedi’u gweld yn y system, ac i sicrhau ein bod yn rhoi’r gorau i’r agweddau hynny a rwystrodd arwain gwelliant ar bob lefel yn y gorffennol.
Mae’r Academi wedi trosglwyddo ei gynnig hyfforddiant gwelliant i weddu i’r amgylchedd rhithwir, ac mae’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr ym maes Addysg a Gwella Iechyd Cymru i lansio Gwelliant Ymarferol ar-lein. Rydym hefyd wedi parhau i weithio gyda’n partneriaid yn NHS Education for Scotland i dreialu ein cwrs Cynghorydd Gwelliant rhithwir (Scottish Improvement Leader Programme). Rydym newydd bennu dyddiadau ar gyfer ein grŵp nesaf, fydd yn dechrau ddiwedd haf 2021 (cysylltwch ag emma.rowe@wales.nhs.uk i ddatgan eich diddordeb).
Byddwn hefyd yn croesawu tîm newydd Q Lab Cymru dros y misoedd nesaf. Bydd Q Lab Cymru yn darparu gofod a sgiliau i’r rhai sydd am wella i roi mewnwelediadau i rôl gwelliant yn y dyfodol i gefnogi adferiad a chynnal y pethau cadarnhaol a luniwyd gan y ffordd y mae timau wedi bod yn gweithio dros yr 8 mis diwethaf – yn gysylltiedig, wedi’u galluogi, yn greadigol ac yn gydweithredol.
Er ein bod yn dal i wynebu ansicrwydd gaeaf gyda Covid, bydd gwelliant yn chwarae ei ran, a bydd Gwelliant Cymru yno, heb amheuaeth, i’ch cefnogi yn y dyfodol.
#GydanGilyddFeAllwn