Digwyddiad Dathlu Arwain ar gyfer Diogelwch Cleifion

Gan Martine Price, Nyrs Arweiniol Clinigol, Gwelliant Cymru.

Ar 9 Mehefin, aeth ein Harweinwyr Diogelwch i ddigwyddiad dathlu wrth iddynt gwblhau Arwain ar gyfer Diogelwch Cleifion. Cyflwynwyd y rhaglen mewn partneriaeth â Gwelliant Cymru a’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI).  Dechreuodd ym mis Mawrth ac roedd 38 o gyfranogwyr, pob un yn uwch arweinydd o bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth yng Nghymru. Mae rolau pobl yn y grŵp yn cynnwys Cyfarwyddwyr Nyrsio Cynorthwyol, Dirprwy Gyfarwyddwyr Nyrsio, Therapïau a Meddygaeth, Ymgynghorwyr, Arweinwyr Ansawdd a Diogelwch. Mae’n grŵp anhygoel ac mae gan bob un ohonynt rolau allweddol ar gyfer ansawdd a diogelwch yn eu sefydliadau. 

Gwelliant Cymru yw’r gwasanaeth gwella ar gyfer GIG Cymru. Ein nod yw cefnogi creu system iechyd a gofal o’r ansawdd gorau i Gymru fel bod gan bawb fynediad at ofal diogel, effeithiol ac effeithlon yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn ar draws y system ofal gyfan. Ar ran GIG Cymru, rydym wedi creu partneriaeth â’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI) i greu’r Bartneriaeth Gofal Diogel gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ledled Cymru.  

Nod y Bartneriaeth Gofal Diogel yw darparu cymorth wedi’i gydgysylltu’n genedlaethol ac wedi’i ddarparu’n lleol ar gyfer gofal diogel dibynadwy ac effeithiol. Bydd yn cefnogi cydweithredu cenedlaethol a dysgu trawsffiniol. Bydd arweinwyr a thimau pob bwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth yn adeiladu ar y gwaith presennol ac yn cryfhau’r gallu i wella er mwyn sefydlu eu systemau ar gyfer gofal dibynadwy a diogel iawn.     

Mae’r Bartneriaeth Gofal Diogel yn cynnwys pedwar gweithgaredd: Arwain ar gyfer Diogelwch Cleifion, Ymweliadau Safle Sylfaenol â phob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth dros yr haf hwn, Hyfforddi ar gyfer Diogelwch Cleifion a’r Grŵp Cydweithredol Gofal Diogel. Arwain ar gyfer Diogelwch Cleifion oedd y cam cyntaf tuag at y Grŵp Cydweithredol Gofal Diogel. Fe’i cynlluniwyd i ddatblygu rhwydwaith o arweinwyr clinigol ym maes diogelwch cleifion ar gyfer GIG Cymru. Bydd yr arweinwyr hyn yn gweithredu fel noddwyr ar gyfer diogelwch cleifion ar draws y Bartneriaeth ac yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau ansawdd a diogelwch o fewn eu bwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth. 

Dros gyfres o weithdai dan arweiniad cyfadran arbenigol, mae’r cyfranogwyr wedi dysgu sylfeini creu systemau ar gyfer diogelwch. Defnyddio’r Fframwaith ymarferol ar gyfer Gofal Diogel, Dibynadwy ac Effeithiol i wella diogelwch cleifion yn barhaus ac yn ddibynadwy. Mae’r grŵp wedi rhannu a dysgu gyda’i gilydd ac maent bellach wedi’u harfogi i arwain a dylanwadu ar waith gwella a chreu’r diwylliant a’r amodau sydd eu hangen i wella allu ffynnu.

Nid yw ymdrechion i wella diogelwch, dibynadwyedd ac effeithiolrwydd gofal iechyd yn newydd; mae sefydliadau wedi bod yn gweithio tuag at y nodau hyn ers blynyddoedd. Fodd bynnag, yn aml caiff strategaethau amrywiol eu datblygu mewn gwagle, heb werthfawrogi’n llawn sut mae gwahanol ddulliau a mentrau yn effeithio ar ei gilydd. Y Fframwaith ar gyfer Gofal Diogel, Dibynadwy ac Effeithiol yw sail y rhaglen a’n partneriaeth ag IHI.  Mae’r fframwaith yn cynnwys dau barth sylfaenol, sef diwylliant, a’r system ddysgu, ynghyd â naw cydran gydgysylltiedig, y mae cleifion a theuluoedd yn greiddiol iddynt. Yn gryno ac mewn un lle, mae’n dwyn ynghyd yr holl gysyniadau strategol, clinigol a gweithredol sy’n hanfodol i sicrhau gofal diogel, dibynadwy ac effeithiol.

Clywed “Profiad Barbara o ofal”

Rydym wrth ein bodd bod ein cynrychiolwyr wedi graddio o’r rhaglen Arwain ar gyfer Diogelwch Cleifion ac mae eu gwybodaeth, eu sgiliau, eu hegni a’u cymhelliant i rannu a dysgu gyda’i gilydd wedi gwneud cymaint o argraff arnom. Bydd y rhwydwaith hwn o arweinwyr yn ganolog i ddatblygu Gofal Diogel Gyda’n Gilydd ac mae pob un ohonom yn Gwelliant Cymru a’r IHI yn gyffrous ac yn teimlo’n ffodus i fod yn gweithio gyda’r grŵp dawnus hwn o arweinwyr.

Dyma rai o’r sylwadau a wnaeth y rhai oedd yn bresennol ar y diwrnod:

“Gweithio gyda’n gilydd fel system i fwrw ymlaen â gwella ledled Cymru.”

“Diwrnod graddio ar gyfer ein rhaglen, mae ein taith wella yn dechrau yma.”

“Gwnaeth i mi feddwl yn wahanol, fy rôl fel arweinydd, creu’r amgylchedd ar gyfer ansawdd.”

“Adeiladu rhwydwaith sy’n cyd-fynd â’r Fframwaith ar gyfer Gofal Diogel, Dibynadwy ac Effeithiol.”

Rydym nawr yn symud tuag at y gweithgaredd nesaf: datblygu hyfforddwyr diogelwch cleifion lleol i weithio gyda’r noddwyr (Arwain ar gyfer Diogelwch Cleifion) i gefnogi timau trwy’r Grŵp Cydweithredol Gofal Diogel.

Rydym nawr yn agored i geisiadau gan eich sefydliad ar gyfer y rhaglen Hyfforddi ar gyfer Diogelwch Cleifion. Cysylltwch â mi am ragor o fanylion Martine.Price@wales.nhs.uk