Myfyrdodau ar weithio gyda Q Lab Cymru yn ystod y camau cyntaf i ddatblygu model niwroseiciatreg i Gymru

Gan Dr Seth A. Mensah, MB ChB MSc DPM MRCPsych, niwroseiciatrydd sydd â chyfrifoldeb ymgynghorol dros Wasanaeth Niwroseiciatreg Cymru. 

Mae pobl sy’n cael eu cefnogi gan Wasanaeth Niwroseiciatreg Cymru yw’r rhai mwyaf cymhleth o ran anghenion ymddygiadol, emosiynol a seiciatrig. Fel tîm arbenigol o niwroseiciatryddion, seicolegwyr, nyrsys, therapyddion a gweithwyr cymorth, ein gweledigaeth a’n nod yw cydweithio ag eraill fel bod pobl, a’r rhai sy’n bwysig iddynt, yn addasu ac yn byw’n dda gydag anaf i’r ymennydd. Ein nod yw sicrhau’r adferiad gorau posibl o fewn dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n rhyngddisgyblaethol.

Gyda’r gwasanaeth yn profi galw cynyddol am fodel amlddisgyblaethol arbenigol ar gyfer adsefydlu niwroseiciatreg, oherwydd datblygiadau mewn gofal meddygol brys, cyflwyno canolfan a rhwydwaith trawma mawr Cymru, a chanolbwyntio ar ddarparu gofal yn nes at adref, roeddem yn gwybod bod angen i ni fabwysiadu dull system gyfan o ddatblygu gwasanaethau.

Roeddem yn cydnabod bod angen mwy o staff ar y gwasanaeth er mwyn alinio’n agosach at safonau a argymhellir gan Gymdeithas Meddygaeth Adsefydlu Prydain (BSRM), er mwyn gallu darparu ymyriadau therapiwtig clinigol cynhwysfawr a phriodol yn llawn. Roeddem hefyd yn cydnabod bod y gwasanaethau a ddarperir yng Nghymru yn anghyfartal, gyda chleifion yn y gogledd yn aml yn teithio i Loegr ar gyfer llawer o wasanaethau niwroseiciatreg, oherwydd y lleoliad ffisegol.

Roeddem am ddefnyddio adnoddau’n wahanol ac yn effeithiol i sicrhau canlyniadau teg ledled Cymru a gwell profiadau i gleifion a’u rhwydwaith cymorth. Er mwyn datblygu ein ffordd o feddwl, roeddem am siarad â’n rhanddeiliaid. Roeddem yn teimlo ein bod yn gwybod pwy oedden nhw – ein cleifion, teuluoedd, gofalwyr, byrddau iechyd, timau o fewn byrddau, y trydydd sector ac eraill – ond nid oeddem yn gwybod y ffordd orau o gasglu eu barn.

Mynd drwy’r broses Lab

Bu Q Lab Cymru, partneriaeth rhwng Gwelliant Cymru a Q, gydag arian gan y Sefydliad Iechyd, yn gweithio gyda ni i ddatblygu a hwyluso gweithdai i randdeiliaid. Trwy eu harbenigedd mewn meddwl dylunio a’u dull creadigol, gydweithredol o hyrwyddo newid, fe wnaeth tîm Q Lab Cymru ein galluogi i ddod o hyd i le i gysylltu ag eraill a rhannu syniadau, problemau ac atebion posibl. Roeddem yn teimlo ein bod yn cael ein cefnogi’n llawn drwy gydol y broses ddylunio. Fel tîm, gwnaethom chwarae rhan weithredol yng nghynllun y gweithdy ac o fewn y gweithdai eu hunain. Roeddem yn gallu gwrando ar farn llawer o wahanol bobl, megis defnyddwyr presennol a blaenorol y gwasanaeth, a hyd yn oed y rhai a oedd yn ceisio ac yn methu â chael mynediad at y gwasanaeth. Roedd bod yn rhan o’r gweithdai’n golygu ein bod ni’n clywed beth roedd pobl ei eisiau, nid beth roedden ni’n meddwl roedden nhw ei eisiau.

Nid oeddem yn gwybod sut fyddai model cyswllt yn edrych, ond rhoddodd tîm Q Lab Cymru sicrwydd i ni nad oeddem yn mynd i gael yr atebion i gyd ar ddiwedd y gweithdai. Roeddent yn gyfle inni gael trafodaethau mwy manwl gyda’r bobl a oedd yn bwysig.

Beth gafodd effaith?

Roedd straeon cleifion yn rhan annatod o ddyluniad y gweithdy a chawsant effaith enfawr ar bawb a fynychodd. Helpodd trafodaethau’r gweithdy ni i ail-werthuso ein model a’n prosesau gwasanaeth presennol, gan agor ein llygaid i’r heriau mae pobl yn eu hwynebu, er enghraifft, wrth gael mynediad at ein gwasanaeth. Awgrymodd tîm Q Lab Cymru ein bod yn nodi ein hymrwymiad i newid arfer mewn dogfen Fe Ddywedoch Chi, Fe Fyddwn Ni.  Mae hyn yn dyst i’r broses o ddysgu myfyriol a chydweithredol a alluogwyd ganddynt.

Roeddem o’r farn y byddai’r gweithdai’n ateb cwestiwn ffeithiol o sut fyddai model cyswllt yn edrych, ond yn hytrach fe wnaethant newid ein ffordd o feddwl yn llwyr. Fe wnaeth y trafodaethau a ddeilliodd o’r gweithdai i ni sylweddoli nad ein cynllun gwreiddiol ar gyfer gwasanaeth cyswllt annibynnol oedd yr hyn yr oedd pobl ei eisiau. Doedd pobl ddim eisiau un gwasanaeth o Gaerdydd yn ceisio datrys problemau ledled Cymru. Roeddent am gael dull model cyswllt, gyda thimau yn y gogledd a’r de, yn adeiladu rhwydwaith niwroseiciatreg a chymuned o ymarfer arbenigol ledled y wlad.

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer y dyfodol?

Rydym yn defnyddio canlyniadau’r gweithdai, straeon cleifion, a’r ddogfen Fe Ddywedoch Chi, Fe Fyddwn Ni i ddylanwadu ar yr achos busnes rydym yn ei ddatblygu, gan weithio gyda Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Drwy weithio gyda’n gilydd mewn ffordd wahanol, ein nod yw darparu canlyniadau teg i bobl sy’n byw gydag anaf i’r ymennydd waeth ble maent yn byw.

Mae’r dull meddwl dylunio, ynghyd â’r data cyfoethog a gasglwyd trwy’r gweithdai wedi rhoi syniadau newydd i ni i ailfodelu prosesau cyfredol, ac edrych ar sut rydym yn casglu gwybodaeth i gyd-gynhyrchu ein datblygiadau gwasanaeth o ddifrif. Mae’r broses hefyd wedi cyflwyno strwythur i ni gymryd camau gwirioneddol i ddatblygu cymuned ymarfer ar gyfer niwroseiciatreg ac wrth gynllunio manylion mwy manwl y model cyswllt niwroseiciatreg i Gymru.

Mae tiriogaeth glinigol niwroseiciatreg yn eang ac yn pontio’r oes. Mae adsefydlu niwroseiciatreg arbenigol i bobl ag anaf i’r ymennydd yn rhan fach o’r maes niwroseiciatreg. Rydym yn deall bod heriau’n parhau o ran darparu gwasanaeth niwroseiciatreg cyflawn ledled Cymru a bod bylchau yn y gwasanaethau niwroseiciatreg ehangach a ddarperir. Fodd bynnag, drwy drafod hyn mewn cymuned ymarfer, rydym wedi nodi diddordeb cyffredin mewn sicrhau nad yw ein cleifion yn syrthio drwy’r bylchau hynny.

Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth hael tîm Q Lab Cymru i rannu eu harbenigedd i’n helpu i ymchwilio a cheisio atebion wrth gyflawni yn erbyn yr hyn sy’n ddatblygiad gwasanaeth cymhleth. Rydym bellach yn teimlo ein bod mewn sefyllfa well fel tîm i barhau â’r daith i wella gwasanaethau. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am Q Lab Cymru, yna cysylltwch â thîm Q Lab Cymru yn uniongyrchol.