Pobl ag Anableddau Dysgu a’r Fframwaith Cydraddoldebau Iechyd: Adfer o COVID-19 yng Nghymru

Gan Adam Watkins, Uwch Ddadansoddwr Gwybodaeth a Bethany Kruger, Uwch Reolwr Gwella  


COVID-19 ac Anghydraddoldebau Iechyd (Rhan 1) 

Buom yn siarad yn ddiweddar â chydweithiwr a oedd yn rhannu ei phrofiadau o gefnogi dyn ifanc ag anabledd dysgu yn y gymuned.  Cyn COVID-19, roedd wedi byw bywyd da, wedi mwynhau perthnasoedd ystyrlon cryf gydag aelodau o’i deulu a ffrindiau ac roedd ganddo swydd bwrpasol, foddhaus ac roedd yn teimlo ei fod yn rhan go iawn o’i gymuned.  

Fodd bynnag, fel llawer o bobl eraill ag anabledd dysgu, mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol nad oes modd ei hanwybyddu ar ei fywyd. Mae ei gysylltiadau cymdeithasol bron a bod wedi diflannu, mae ei gyfleoedd hamdden a galwedigaethol bron a bod wedi diflannu; gan arwain at ynysigrwydd cymdeithasol ac mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar ei iechyd meddwl a’i lesiant, yn ogystal â rhoi straen sylweddol ar ei deulu agos.   

Fel y mae pob un ohonom yn ei wybod, mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar ein bywydau, fodd bynnag, mae cryn dipyn o dystiolaeth bod pandemig COVID-19 wedi effeithio’n anghymesur ar y rhai a oedd eisoes â’r anghenion iechyd a chymdeithasol mwyaf. Cyn y pandemig, roeddem yn gwybod bod pobl ag anabledd dysgu yn fwy tebygol o ddioddef o iechyd corfforol gwael ac yn fwy tebygol o farw’n gynharach, yn aml oherwydd achosion y gellid fod wedi’u hosgoi. Roeddem hefyd yn gwybod bod pobl ag anabledd dysgu yn fwy tebygol o brofi iechyd meddwl a llesiant gwaeth, gan eu bod yn agored i ddigwyddiadau bywyd negatif ac mae’n bosibl nad oes ganddynt mo’r sgiliau na’r rhwydwaith cymorth sydd eu hangen arnynt i’w cefnogi a’u cynorthwyo.  

Yn ystod cyfnod cynnar y pandemig, bu farw cyfradd uwch o bobl ag anableddau dysgu o COVID-19 na gweddill y boblogaeth. Roedd yr effaith amlycaf ymhlith pobl iau ag anabledd dysgu, ac roedd y gyfradd marwolaethau o blith y rhai dan 60 oed bron ddeg gwaith yn uwch na’r boblogaeth ehangach.  Mae effeithiau Covid-19 yn parhau i’n hwynebu ni i gyd. Fodd bynnag, rydym bellach mewn sefyllfa gryfach i adeiladu gwydnwch ac adfer ohono. 

Mae cydweithwyr rheng flaen yn rhannu profiadau o gynnydd mewn straen a phryder i bobl ag anabledd dysgu, a ddangosir trwy newid ymddygiad, cynnydd mewn cyflyrau croen, trallod, encilio, ac ymddieithrio; ond hefyd eu bod nhw eisiau ymgysylltu a chyfranogi ond eu bod yn cael eu llethu ac nid ydynt yn sicr sut i wneud hyn.   

Gellir esbonio ychydig o’r gwahaniaeth hwn rhwng iechyd da a marwolaeth rhwng pobl nad oes ganddynt anableddau dysgu a’r rhai sydd ag anableddau dysgu trwy’r ffaith fod cyflyrau gydol oes fel epilepsi yn aml yn gysylltiedig ag anableddau dysgu.  Fodd bynnag, mae rhan fawr o hyn i’w briodoli i’r ffordd y caiff pobl ag anabledd dysgu eu cefnogi gan wasanaethau a staff, fel yn eu hadrannau Damweiniau ac Achosion Brys lleol, safon eu llety, eu profiadau o gysylltiad cymdeithasol, os oes galwedigaeth ystyrlon ganddynt ac i’r gwasanaethau sydd ar gael yn eu cymunedau.  

Gellir gwneud newidiadau ac nid yw’n anochel y bydd y canlyniadau’n negatif. Mae’r Fframwaith Cydraddoldebau Iechyd yn un o’r teclynnau mesur canlyniadau y gallwn ei ddefnyddio i ddeall yn well, lleihau ac atal yr “anghydraddoldebau” iechyd y mae pobl ag anableddau dysgu yn eu profi o ddydd i ddydd. 

Beth yw’r Fframwaith Cydraddoldebau Iechyd? 

Mae’r “Fframwaith Cydraddoldebau Iechyd” (HEF) yn declyn mesur canlyniadau y gall gwasanaethau anabledd dysgu arbenigol ei ddefnyddio i nodi a mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau y mae pobl yn eu hwynebu mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.  Mae’r data a gesglir yn ychwanegu gwerth ar lefel unigol, gwasanaeth, rhanbarthol ac yn genedlaethol, o bosibl.   Mae’r data hyn yn ein galluogi i nodi’r anghydraddoldebau iechyd a’u heffeithiau penodol ar bobl ac yn galluogi newid ffocws i’w hatal a’u lleihau.  Gallwn gymharu’r sefyllfa cyn ac ar ôl i rywun dderbyn cymorth ac ymyriad gan y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.  Gallwn ddangos lle mae sefyllfaoedd ar gyfer pobl a gwasanaethau wedi gwella neu wedi dirywio, a mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd yr anghydraddoldebau iechyd y mae pobl yn eu profi o ddydd i ddydd. Yn hollbwysig, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a’u teuluoedd.  

Mae hon yn wybodaeth arbennig o werthfawr yng nghyd-destun COVID-19 a chynllunio ar gyfer adfer ohono. Fel y disgrifiwyd ar ddechrau’r blog hwn, mae pobl ag anableddau dysgu yn fwy agored i effeithiau COVID-19 ar eu hiechyd, ond maent hefyd yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan effaith gwasanaethau. Er ein bod ni i gyd wedi byw trwy’r cyfyngiadau symud, i rai pobl ag anableddau dysgu roedd yn golygu colli mynediad bron yn gyfan gwbl at y ffyrdd yr oeddent yn ymgysylltu â gweithgareddau ystyrlon ac yn cysylltu â’u cymunedau. Ni ellir gorbwysleisio effaith hyn ar eu hiechyd.  

Mae’r Fframwaith Cydraddoldebau Iechyd yn cynnig ffordd ymlaen i ddod â gwasanaethau ar draws y sector cyhoeddus a chymunedau ynghyd i fynd i’r afael ag achosion anghydraddoldeb iechyd ar y cyd.