Tynnu sylw at gydweithio rhwng y GIG a gofal cymdeithasol drwy Broffil Iechyd Unwaith i Gymru

Gan David O’Brien, Gweithrediaeth GIG Cymru a Jim Widdett, Gofal Cymdeithasol Cymru


Ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, nid yw un ateb yn addas i bawb. Mae hyn yn arbennig o wir o ran darparu gofal i oedolion ag anabledd dysgu. Mae unigolion yn aml yn wynebu heriau unigryw wrth gael mynediad at wasanaethau ac mae ganddynt anghenion penodol y mae’n rhaid mynd i’r afael â nhw er mwyn sicrhau eu bod yn cael gofal teg ac effeithiol.

Mae cyflwyno a defnyddio Proffil Iechyd Unwaith i Gymru o fewn y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yn gamau hollbwysig tuag at gyflawni’r nod hwn. Yr wythnos diwethaf roedd hi’n Wythnos Anabledd Dysgu, a roddodd gyfle i ni annog ein cydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i ddarganfod mwy am y Proffil Iechyd ac i ofyn i’w cleifion a chleientiaid ag anabledd dysgu am eu copi o’r proffil.

Mae’r Proffil Iechyd yn ddogfen sy’n cynnwys gwybodaeth hanfodol am hanes meddygol person, dewisiadau cyfathrebu, patrymau ymddygiad, a’r cymorth penodol sydd ei angen arnyn nhw mewn gwahanol leoliadau.

Mae’r Proffil Iechyd yn galluogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i ddatblygu cynlluniau gofal personol wedi’u teilwra i anghenion unigryw pob unigolyn. Gall y cynlluniau hyn wella ansawdd gofal yn sylweddol, gan sicrhau bod pob ymyriad yn briodol ac yn effeithiol. Er enghraifft, yr addasiadau gofynnol oherwydd anabledd dysgu person.

Mae’r proffil yn annog agwedd gyfannol at iechyd trwy ystyried nid yn unig anghenion meddygol ond hefyd anghenion cymdeithasol, emosiynol a seicolegol yr unigolyn. Mae’r persbectif cynhwysfawr hwn yn sicrhau yr eir i’r afael â phob agwedd ar les y person, gan arwain at well canlyniadau cyffredinol.

Ar gyfer unigolion sy’n ymwneud â gwahanol wasanaethau, mae’r Proffil Iechyd yn sicrhau cysondeb a pharhad gofal. Trwy gael dogfen safonedig sy’n cael ei rhannu ar draws gwahanol wasanaethau, gall pob darparwr gael ei hysbysu’n llawn am anghenion yr unigolyn a’r addasiadau angenrheidiol, a fydd yn arwain at brofiad gofal mwy di-dor a chydgysylltiedig.

Mae’r Proffil Iechyd wedi’i gynllunio i fod yn eiddo i’r unigolion ac os oes angen gall gofalwr helpu i’w lenwi. Mae canllawiau ar gael ar gyfer gweithwyr proffesiynol, gyda fersiynau ar wahân ar gyfer oedolion a phlant / pobl ifanc yn cael eu cynhyrchu.

Cyfathrebu effeithiol yw conglfaen iechyd a gofal cymdeithasol da. Mae’r proffil yn rhoi cipolwg ar y dulliau cyfathrebu sydd well gan yr unigolyn, boed hynny trwy iaith arwyddo, lluniau, neu iaith symlach. Mae hyn yn sicrhau bod yr unigolyn yn deall ei ofal yn llawn ac yn gallu cymryd rhan weithredol mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

Mae llawer o oedolion ag anableddau dysgu yn dangos ymddygiadau sy’n ymatebion i anghenion heb eu bodloni neu anawsterau cyfathrebu. Mae’r Proffil Iechyd yn helpu staff i ddeall y rhesymau y tu ôl i rai ymddygiadau, gan eu galluogi i ymateb yn briodol ac yn dosturiol. Gall y ddealltwriaeth hon atal camddealltwriaeth a lleihau’r tebygolrwydd y bydd ymddygiadau heriol yn gwaethygu.

Mae’r Proffil Iechyd hefyd yn egluro pa addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen ar unigolyn. Mae’r rhain yn newidiadau i’r ffordd y gallem wneud pethau i helpu unigolion ag anableddau i gael mynediad at wasanaethau, fel amseroedd apwyntiad hirach neu ystafelloedd aros tawel. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau wneud addasiadau rhesymol i sicrhau nad yw unigolion anabl dan anfantais sylweddol.

Mae’r Proffil Iechyd yn helpu i bontio’r bwlch rhwng darpariaeth gwasanaeth safonol a gofal personol sydd ei angen i gwrdd ag anghenion yr unigolion hyn.

Yn y pen draw, gall ei fabwysiadu’n eang a’i weithredu’n briodol arwain at ofal mwy teg, tosturiol ac effeithiol, gan wella ansawdd bywyd pobl ag anabledd dysgu.

Os yw’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn croesawu’r adnodd hwn ac yn ymrwymo i wella eu harferion yn barhaus, gallwn sicrhau bod pob unigolyn yn cael yr urddas a’r ansawdd gofal y mae’n ei haeddu.


I gael rhagor o wybodaeth am waith Gweithrediaeth GIG Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru ewch i’n gwefannau a darganfod mwy am y Proffil Iechyd Unwaith i Gymru.