Creu Gweledigaeth Genedlaethol ar y cyd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd Dysgu yng Nghymru
Gan Rebecca Curtis, Uwch Reolwr Gwella, Anabledd Dysgu
Cynhelir Cyngres a Gwobrau Diogelwch Cleifion yr Health Service Journal (HSJ) ym Manceinion ar 16 Medi 2024. Mae Gwelliant Cymru wedi ennill tri o’r deg categori yn y gystadleuaeth creu poster.
Fel sefydliad, rydym yn falch iawn o gael ein cynnwys teirgwaith mewn maes cystadleuol iawn o dimau sy’n ysgogi gwelliannau mewn diwylliant ac ansawdd ar draws y DU gyfan.
Fel eiriolwr dros y rhai ag anableddau dysgu, mae’n bleser gen i broffilio ein gwaith o greu Gweledigaeth Genedlaethol ar y cyd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd Dysgu yng Nghymru ac ennill yn y categori ‘Gweithio gyda chleifion agored i niwed’.
Mae cael ein dathlu gan ein cymheiriaid yn ystod yr amseroedd mwyaf anodd i’r GIG yn dyst i’n hymrwymiad ar y cyd i bob rhan o’r dirwedd gofal, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
Yr heriau, y cydweithredu, a’r cyd-destun a wynebwyd gennym
Mae’r amrywiaeth o ran mynediad at wasanaethau gofal iechyd i blant a phobl ifanc ag anabledd dysgu ledled Cymru yn peri llawer o broblemau. Rhaid i wella llesiant ac iechyd hirdymor y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol wynebu heriau o ran arbenigedd, cymorth amlddisgyblaethol, cydweithredu amlasiantaethol, a chyfluniad y gweithlu. Ni ellir trechu’r un o’r rhwystrau hyn ar eu pen eu hunain.
Gwyddom fod angen rhagolwg system gyfan arnom i gael gweledigaeth genedlaethol ar y cyd go iawn. Dyna pam y dechreuodd ein taith gyda Chynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu (2022-2026). Nod y cynllun yw dod â’r meysydd iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg at ei gilydd i greu dull gweithredu cynhwysfawr, integredig ledled Cymru o ddarparu mynediad teg at wasanaethau, a grymuso plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu i gyrraedd eu llawn botensial.
Roedd y cyd-destun hwn yn hollbwysig wrth lunio ein hymagwedd.
Ein strategaeth, tactegau, a chanlyniadau gwirioneddol
Roedd yn bwysig ymgysylltu ag ystod amrywiol o randdeiliaid oherwydd ei fod yn helpu i reoli’r bwlch rhwng polisi a chymhwysiad ymarferol. Ategwyd ein dull gan egwyddorion Partneriaethau Gosod Blaenoriaethau Cynghrair James Lind (PSPs), a oedd yn sicrhau cynrychiolaeth lawn o randdeiliaid ac yn sicrhau ein bod yn rhoi pwyslais arbennig ar fewnwelediadau o brofiadau bywyd.
Drwy’r dull hwn, gwnaethom rymuso plant, pobl ifanc, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, ysgolion, a gofalwyr a theuluoedd i gymryd rhan. Cyfrannodd pob un ohonynt at ddatblygu gweledigaeth ar y cyd, nodi meysydd blaenoriaeth allweddol a chyd-gynhyrchu cyfres o egwyddorion gofal. Y rhain oedd yr elfennau allweddol i ffurfio ‘Gweledigaeth Genedlaethol’ ar gyfer yr holl wasanaethau i gefnogi newid cynaliadwy.
Cynhaliwyd ein gweithgareddau ymgysylltu dros 18 mis. Trwy amrywiaeth o fannau cyswllt – gan gynnwys arolygon, digwyddiadau gwrando, gweithdai a mwy – fe wnaethom ofyn tri chwestiwn syml:
- Beth sy’n dda?
- Beth sy’n ddrwg?
- Beth sydd angen ei newid?
Helpodd symlrwydd ein hymagwedd ein trafodaethau i ddiwallu anghenion amrywiol ein cynulleidfa a chefnogwyd ein rhanddeiliaid i gyd i ddweud wrthym beth sydd bwysicaf iddynt. Datblygwyd Gweledigaeth a Chynllun Gweithredu Cenedlaethol gyda’r nod o ddylanwadu ar bolisi yn y dyfodol a chynllunio a chyflwyno gwasanaethau.
Yn ogystal â’n prif nod, fe wnaethom hefyd gyflawni sawl canlyniad arall trwy ein hymgysylltiad cymunedol gwell:
- Aeddfedodd a thyfodd aelodaeth o’r gymuned ymarfer ar gyfer plant a phobl ifanc.
- Cryfhawyd y berthynas rhwng sectorau, yn enwedig rhwng iechyd ac addysg.
- Dywedodd rhieni eu bod yn teimlo bod rhywun yn ‘gwrando arnynt’ a’u bod yn hoffi bod dolen adborth uniongyrchol i’r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Anabledd Dysgu (LDMAG) i ddylanwadu ar bolisi.
- Helpodd rhieni a gofalwyr i ddatblygu offeryn cydweithredu ar-lein, i rannu adnoddau a chynnwys.
Y gwersi a ddysgon a’n camau nesaf
Yng ngwir ysbryd cyd-gynhyrchu, cafodd defnyddwyr gwasanaethau eu grymuso i gymryd perchnogaeth a chyfrannu at drafodaethau ynghylch sut y gallwn gyflawni newid cynaliadwy ac ystyrlon drwy weithredu ar y cyd. Fodd bynnag, mae mwy y gallwn ei wneud.
Dylai ystyriaethau yn y dyfodol ganolbwyntio mwy ar y broses o ymgorffori adborth gan blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu dwys a lluosog. Mae eu profiadau a’u heriau yn aml yn unigryw, ac felly hefyd y rhai a wynebir gan wahanol grwpiau ethnig.
Gall iaith fod yn esblygu’n barhaus ond dylai’r egwyddor o hygyrchedd barhau’n flaenoriaeth bob amser. Mae’n hanfodol gwneud iaith mor hygyrch â phosibl. Roedd strategaethau fel dogfennau hawdd eu deall, byrddau craidd a chymhorthion cyfathrebu eraill yn ei gwneud hi’n bosibl cyrraedd cynulleidfa ehangach.
Ni ddylai’r weledigaeth genedlaethol fyth aros yn ei hunfan. Gwyddom fod llawer o waith i’w wneud er mwyn i’r weledigaeth fod o fudd parhaus i genedlaethau’r dyfodol, ac mae gweithgareddau sylweddol i’w gweithredu gyda’n rhanddeiliaid:
- Sefydlu dolenni adborth ar gyfer dysgu a gwelliant parhaus.
- Nodi mesurau canlyniadau ystyrlon ar gyfer monitro parhaus.
- Sicrhau bod data’n cael eu rhannu’n ddiogel er mwyn llywio a gwella’r broses o gynllunio a darparu gwasanaethau ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Dewch i ddweud helo yng Nghyngres a Gwobrau Diogelwch Cleifion HSJ!
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fynd i Gyngres a Gwobrau Diogelwch Cleifion HSJ. Mae’n gyfle nid yn unig i rwydweithio gyda thimau a phrosiectau eraill sy’n gwneud eu gwelliannau eu hunain i’r system, ond gallwn hefyd rannu gwybodaeth gyda’r arweinwyr ysbrydoledig hyn i ehangu ein syniadau a’r effaith a gawn. Dyma’r mathau o drafodaethau a all ddylanwadu ar newid ac effeithio’n gadarnhaol ar ofal iechyd, ac rydym yn awyddus i fanteisio’n llawn.
Rwy’n rhoi cyflwyniad byr 10 munud yn y Theatr Sbotolau ar Arloesedd yn y Neuadd Arddangos a byddwn yn falch iawn o rannu ein gwaith gyda chymaint ohonoch â phosibl, felly dewch draw p’un a ydych o gefndir clinigol neu anghlinigol. Gallwch ddod o hyd i’r rhaglen lawn ar wefan Cyngres Diogelwch Cleifion HSJ. I gael gwybod mwy am waith rhaglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru, gallwch hefyd ymweld â’n gwefan.