Ein taith i adeiladu system ddysgu

Gan Jennifer Winslade, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan


Jennifer Winslade

Mae gennym ni bwyslais go iawn ar straeon cleifion a dysgu yn ein bwrdd iechyd. Rydym yn gwneud hyn drwy sgyrsiau gyda’r cyhoedd i ddod â straeon cleifion yn fyw. Dyna sy’n gwneud gwahaniaeth. Mae gwella ansawdd yn bwysig iawn yn Aneurin Bevan. ‘Gwella Ansawdd yw ffordd Aneurin Bevan o fynd ati’ neu, fel rydyn ni’n dweud, ‘QI is just the AB way’, a dyna sut rydym wedi ei ymgorffori’n ymarferol.

Pan ymunais i â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan bron i ddwy flynedd yn ôl, roedd y sefydliad yn barod i wneud newid ac yn barod ar gyfer y daith tuag at welliant. Roedd llawer iawn o egni ac ewyllys. Cefais fy nharo gan y ffaith fod pobl wir eisiau gwneud y peth iawn ac mae hynny’n anodd iawn mewn sefyllfa lle mae pethau’n brysur iawn. Drwy weithio gyda James Calvert, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, rydym wedi bod yn ymgysylltu â’n staff i gasglu eu hegni a’u harbenigedd. Mae gennym unigolion talentog iawn yn y sefydliad sydd am yrru gwelliant a symud y sefydliad ymlaen ar ein taith tuag at welliant. Roedd yr egni a’r creadigrwydd yno’n barod ac mae James a minnau wedi helpu i’w ddatgloi. Y peth pwysicaf rydyn ni wedi’i wneud yw cefnogi pobl i wneud y newid. Efallai fod gan swyddogion gweithredol farn, ond nid oes ganddyn nhw’r atebion i gyd, felly mae angen i ni weithio gyda phobl i ddysgu beth all fod yn wahanol.

Sut ydych chi’n helpu i alluogi diogelwch seicoleg i alluogi staff i godi pryderon?

Rydym ar daith. Mae treulio amser gyda staff ar lawr gwlad, a threulio amser gyda’r timau sy’n ymwneud â’r Gydweithredfa Gofal Diogel yn ein helpu ni oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod popeth. Pan fyddwn ni’n gwrando ar bobl, mae’r ddolen adborth yn bwysig iawn. Gallwn ddweud wrth bobl ein bod ni wedi clywed yr hyn rydych chi wedi’i ddweud, dyma beth rydyn ni wedi’i wneud ac wedi’i ddysgu – mae gallu dangos hyn i staff a chleifion yn rhan anhygoel o’r daith. Pan wnaethon ni ddatblygu ein strategaeth ansawdd, fe wnaethon ni ddatblygu fframwaith gwrando i gleifion. Nid oes gennym ddiwylliant o’r brig i lawr bellach. Gall staff o bob lefel o’r sefydliad ddweud ‘dyw hynny ddim yn iawn’. Daw’r meysydd newid mwyaf gan staff.

Sut ydych chi wedi cefnogi tryloywder data?

Rydyn ni wedi buddsoddi llawer mewn data a mesur ac mae gennym ni waith pellach i’w wneud. Dydyn ni ddim yn mynd i gael pethau’n iawn y tro cyntaf, felly mae angen i ni brofi. Mae mynd i’r afael â data yn her fawr, ond mae angen inni wneud hyn oherwydd mae data’n dangos y gwelliant i ni ac mae mor bwerus pan allwch ei gyfuno â straeon cleifion. Pan gyflwynodd timau o’r Gydweithredfa Gofal Diogel eu prosiectau gan ddefnyddio data a phrofiad i ddangos yr hyn y maen nhw wedi’i wneud i wella diogelwch cleifion fe wnaeth argraff fawr ar y Bwrdd.

Sut ydych chi’n datblygu eich gallu i wella fel sefydliad?
Jennifer Winslade a James Calvert, gan rannu taith eu sefydliad wrth adeiladu system ddysgu – sesiwn ddysgu 5 yn y Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel

Rwy’n hynod uchelgeisiol ynghylch ansawdd. Rwy’n meddwl bod pawb yn diystyru eu capasiti a’u gallu i fod y gorau. O safbwynt Gwella Ansawdd, mae gennym yr holl gynhwysion i fod gyda’r gorau yn y byd. Mae gennym bobl wych â syniadau gwych. Mae gennym ni bobl sydd wedi cael llond bol ar y system fel y mae, ond maen nhw’n gwybod beth sydd angen ei newid. Mae angen i’n staff feddu ar y capasiti a’r gallu, ac yna rydym yn darparu’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i ddatrys y problemau. Mae angen inni eu hwyluso, casglu eu harbenigedd a bod y gorau y gallwn fod. Rwy mor falch o’r gwaith mae’r timau wedi’i wneud oherwydd maen nhw wedi cadw’r ffydd ac wedi dal ati er gwaetha pwysau’r gaeaf. Maen nhw wedi gallu dweud wrthym ni beth sydd angen newid.

Waeth pa mor wych yw eich strategaeth, bydd eich cynllun yn methu heb ddiwylliant sy’n annog pobl i’w gweithredu. Ond mae’r strategaeth wedi rhoi llwyfan i ni siarad ac ymgysylltu. Rydym yn llawn angerdd dros wella ansawdd ar draws y sefydliad, o lawr gwlad hyd lefel y bwrdd. Rydym am roi’r gallu, yr arbenigedd a’r gefnogaeth i staff. Bydd hyn yn gwneud bywyd yn haws yn y tymor hir. Sut ydyn ni’n dangos gwahaniaeth ac yn cefnogi pobl o fewn hynny? Mae arnom angen gwelededd, cefnogaeth a rhoi’r offer sydd eu hangen ar bobl i wneud y gwaith.

Beth sydd wedi newid i chi wrth i chi fod ar y daith hon?

Rwy’n ceisio bod mor weladwy â phosibl. Mae’n anodd gydag 16,000 o staff wedi’u gwasgaru ar draws ardal ddaearyddol fawr, ond rwy’n ceisio treulio cymaint o amser ag y gallaf gyda staff, er mwyn i mi gael gwell dealltwriaeth o’r hyn sydd angen ei newid. Gyda dros 17 mlynedd o brofiad fel cyfarwyddwr nyrsio, rwyf bob amser yn dweud gwnewch yr hyn sy’n iawn ac yna ymddiheuro’n nes ymlaen. Peidiwch ag aros am ganiatâd os nad yw rhywbeth yn ddiogel a bod angen ei newid.

Gallwch ddysgu mwy am y Gydweithredfa Gofal Diogel yma.