Cydgynhyrchu Rhaglen Gofal Dementia yng Nghymru

Gan Ian Dovaston, Uwch Reolwr Gwelliant, Gwelliant Cymru


Ian Dovaston
Uwch Reolwr Gwelliant

Cynhelir Cyngres a Gwobrau Diogelwch Cleifion Cyfnodolyn y Gwasanaeth Iechyd (HSJ) eleni ym Manceinion yr wythnos nesaf. Mae Gwelliant Cymru wedi ennill tri o’r 10 categori yn y gystadleuaeth poster.

Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill y categori ‘Llais y claf’. Mae’r pwysigrwydd nid yn unig o gynnwys llais y claf, ond ei hyrwyddo yn rhan fawr o’r ffordd yr ydym yn gweithio fel tîm. Mae cyd-gynhyrchu yn ganolog i’r dulliau a gymerwn wrth ddylunio ein rhaglenni gwaith.

Beth yw cyd-gynhyrchu?

I’r rhai ohonoch sy’n anghyfarwydd â’r term cyd-gynhyrchu mae’n debyg ei fod yn werth ei esbonio. Nid yw cyd-gynhyrchu yn ei eiriau symlaf yn ymwneud â chynnwys pobl yn unig trwy ofyn beth sy’n bwysig iddynt ac yna bwrw ymlaen â’r gwaith. Mae cydgynhyrchu yn golygu cynnwys pobl ar bob cam o ddylunio rhaglen: o rannu syniadau cychwynnol, i ddatblygu dogfennau a chynlluniau, yna eu cadw’n rhan o’r cynlluniau wrth eu rhoi ar waith a deall a ydynt wedi cyflawni’r hyn yr oeddem yn bwriadu ei wneud yn wreiddiol.

Efallai y byddwch yn gofyn “pam fyddech chi’n cyd-gynhyrchu rhaglen ddementia i Gymru?” Mae effaith dementia yn enfawr. Gall effeithio ar bob rhan o fywyd person mewn gwahanol ffyrdd, ac mae pawb yn profi dementia yn wahanol. Felly, ni ddylai ceisio nodi pa feysydd o ddementia y mae’n bwysig canolbwyntio arnynt er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl fod yn benderfyniad a wneir gan un person, neu grŵp o weithwyr proffesiynol, ond hefyd gan y rhai y gall y penderfyniadau hyn effeithio arnynt.

Ar gyfer y rhaglen gofal dementia roedd hyn yn golygu ymgysylltu â dros 1,800 o bobl a nodi dros 100 o flaenoriaethau gwahanol ar gyfer gwella profiad pobl sy’n byw gyda dementia. Er eu bod i gyd yn bwysig, roeddem yn cydnabod na ellid cyflawni pob un ar unwaith a thrwy gydweithio dewiswyd yr 20 blaenoriaeth fwyaf sydd bellach yn ffurfio Llwybr Safonau Dementia. Mae’r ddogfen hon yn canolbwyntio ar bwysigrwydd gwneud gofal dementia yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion pobl. Mae’n nodi mai taith yw dementia a bod angen partneriaethau a pherthnasoedd gwych i lywio hyn yn effeithiol.

Y daith i gyd-gynhyrchu

Wrth gwrs, dim ond rhan o’r daith oedd datblygu’r Llwybr Safonau Dementia. Roedd yn rhaid i ni wedyn ddatblygu cynllun o sut y byddai hyn yn creu newid mewn bywyd go iawn. Y cam cyntaf oedd gwahanu’r safonau’n feysydd ffrydiau gwaith gwahanol. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu rhaglenni dementia ym mhob rhanbarth i sicrhau bod y gwaith i gyflawni’r cynllun yn dechrau, bod ganddo fomentwm ac y gallai gyflawni canlyniadau.

Roedd y ffrydiau gwaith fel a ganlyn;

Ymgysylltu â’r Gymuned: Ffrwd waith yn canolbwyntio ar ddeall sut y gall cymunedau gefnogi pobl i fyw’n annibynnol a’r materion sy’n bwysig i fynd i’r afael â nhw ar lefel leol. Gall y gwaith lleol hwn wedyn lywio’r meddwl am flaenoriaethau cenedlaethol.

Asesu’r Cof: Mae cael diagnosis o ddementia yn brofiad sy’n newid bywydau unigolion, teuluoedd a gofalwyr ac, o’r herwydd, mae angen i wasanaethau sy’n darparu’r diagnosis hwn sicrhau bod y person yn cael ei gefnogi’n gyfannol drwy gydol y profiad hwn.

Cysylltydd Dementia: Gall llywio systemau iechyd a gofal cymdeithasol fod yn gymhleth ac yn ddryslyd. Mae’r ffrwd waith hon yn canolbwyntio ar greu rôl i helpu pobl sy’n byw gyda dementia ar eu taith o ddiagnosis i ddiwedd oes. Eu rôl yw sicrhau bod ‘yr hyn sy’n bwysig i chi’ yn cael sylw a helpu pobl i feddwl am y dyfodol.

Siarter Ysbytai: Nid yw ysbytai fel arfer yn cael eu cynllunio gan ystyried dementia. Mae hyn yn golygu y gall systemau, arferion ac amgylcheddau achosi niwed yn weithredol i bobl sy’n byw gyda dementia. Felly mae angen i ni gymryd camau i sicrhau bod pobl sy’n byw gyda dementia yn cael y canlyniadau gorau posibl. Gan gymryd hyn i ystyriaeth, crëwyd Siarter Ysbytai sy’n Ystyriol o Ddementia ac mae pob rhanbarth o Gymru wedi ymrwymo i hyn.

Datblygu’r gweithlu: Ni waeth pwy ydych chi, mae’n bwysig gwybod ychydig am ddementia gan ei bod yn debygol y byddwch yn cwrdd â rhywun â dementia yn eich bywyd. Ar gyfer ein gweithlu sy’n dod ar draws dementia yn rheolaidd, bydd angen lefel uwch o sgiliau arnynt mewn gofal dementia ac mae’r ffrwd waith hon yn ceisio mynd i’r afael â’r materion hyn.

Mesur: Sut ydym ni’n gwybod bod y newidiadau sy’n digwydd o fewn rhanbarthau yn gwneud gwahaniaeth? Mae’r gwaith hwn yn ceisio mesur effaith newidiadau ar draws rhanbarthau a chefnogi datblygiad data a sut y gellir ei ddefnyddio – gan symud o ddata i wybodaeth a gwybodaeth i ymarfer.

Camau’r dyfodol

Er ein bod ychydig flynyddoedd i mewn i’r rhaglen hon, mae llawer i’w wneud o hyd. Mae’r ymrwymiad a ddangoswyd gan ddinasyddion Cymru tuag at symud y gwaith hwn yn ei flaen, p’un a oes ganddynt brofiad o ddementia eu hunain, yn ofalwr neu’n aelod o’r teulu, neu’n rhan o’r gweithlu, yn golygu y byddwn yn parhau i wella gofal dementia i’r dyfodol.

Ymwelwch â ni yng Nghyngres Diogelwch Cleifion HSJ

Rydym wrth ein boddau i fod yn rhan o Gyngres Diogelwch Cleifion HSJ, lle byddwn yn cael y cyfle i ymgysylltu â thimau a phrosiectau gan arwain gwelliannau effeithiol ar draws y system.

Byddaf yn rhoi sgwrs sydyn 10-munud yn Theatr Sbotolau Arloesedd yn y Neuadd Arddangos, a byddwn wrth fy modd yn rhannu ein gwaith gyda chynifer ohonoch â phosibl. P’un a ydych o gefndir clinigol neu anghlinigol, ymunwch â mi! Gallwch edrych ar y rhaglen lawn ar wefan Cyngres Diogelwch Cleifion HSJ.

Darganfod mwy am waith Rhaglen Iechyd Meddwl Gwelliant Cymru yma.