Cymunedau a gwaith tîm; Arwain gwelliannau mewn gofal dementia ar draws gogledd Cymru
Gan Ian Dovaston, Uwch Reolwr Gwelliant, Gwelliant Cymru
Roeddwn i’n meddwl y dylai’r blog hwn ganolbwyntio ar ymweliad Gwelliant Cymru â gogledd Cymru ddiwedd mis Hydref. Bwriad y daith dridiau hon oedd mynd i’r afael yn wirioneddol â deall sut mae Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan yn cael ei roi ar waith yng ngogledd Cymru, gyda ffocws penodol ar safonau yn ymwneud â chymunedau a gofal ysbyty. Roedd ein hymweliad yn cynnwys cysylltu â phrosiectau cymunedol, hybiau dementia a wardiau ar draws gogledd-ddwyrain, canol gogledd Cymru a gogledd-orllewin Cymru. Er ein bod wedi dysgu llawer o’r ymweliad, rwy’n meddwl bod pwysigrwydd cynnwys y gymuned a gwaith tîm effeithiol wedi amlygu eu hunain yn gryf fel rhan annatod o’r cynnydd mawr sy’n digwydd mewn gwasanaethau dementia ar draws y rhanbarth.
Dechreuon ni ein taith yng Nghlwb Rygbi’r Wyddgrug gan ymweld â grŵp cymorth cymheiriaid a sefydlwyd gan berson sy’n byw gyda dementia, a oedd trwy ei waith wedi nodi angen mewn cymuned leol. Fe wnaethon ni gwrdd â rhai o’r aelodau a chlywsom am ba mor hir yr oeddent wedi bod yn ei fynychu a phwysigrwydd y grŵp hwn iddynt. Yn dilyn cwis Calan Gaeaf ac ambell stori fwgan, teithiom i Wrecsam i ymweld â hyb dementia.
Nid yw’r hyb dementia ddim nepell o ganol tref Wrecsam. Mae’r hyb yn adeilad bywiog ac fe gynhaliwyd nifer o wahanol weithgareddau grŵp yn ystod ein hymweliad. Mae’r hyb dementia yn rhan o Lwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru ac mae’n cynnig lle i bobl ddod at ei gilydd mewn grwpiau neu ddod i gael cymorth un i un gan yr arbenigwyr dementia. Roeddem hefyd yn ddigon ffodus i gymryd rhan mewn dosbarth ymarfer corff ar eich eistedd a oedd yn canolbwyntio ar hyfforddiant ymwrthiant a sefyll yn syth i bobl sy’n byw gyda dementia. Roedd y strwythur grŵp yn galluogi rhyngweithio cymdeithasol, gweithio gyda chryfderau’r rhai oedd yn bresennol gydag ychydig o hwyl, a hyn oll gyda cherddoriaeth Dire Straits yn gefndir iddo!
Daeth y diwrnod cyntaf i ben gydag ymweliad â Ward Onnen yn Ysbyty Maelor Wrecsam a Ward Gwanwyn yn uned Heddfan. Yr hyn a oedd yn amlwg wrth ymweld â Ward Onnen a Ward Gwanwyn oedd pwysigrwydd gwaith tîm a’r cyfeillgarwch yr oedd ei angen ar y staff i weithio mewn amgylchiadau heriol gofal iechyd heddiw.
Dechreuodd yr ail ddiwrnod gydag ymweliad â Mochdre yng Nghonwy, sef hyb dementia arall. Mae hwn yn adeilad pwrpasol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia ac mae’n cynnig ystafelloedd i wneud gweithgareddau, mannau i hel atgofion ac amgylchedd i ymgysylltu a dod o hyd i gefnogaeth. Buom yn trafod Llwybr y Cof yn fanylach a’r gwaith partneriaeth sydd ei angen i sicrhau bod pobl yn gallu ymuno â’r system a’i gadael yn ôl yr angen.
Fe wnaethom hefyd ymweld â ward feddygol yn Ysbyty Glan Clwyd ac Uned Bryn Hesketh. Roedd yn amlwg bod llawer o’r heriau a wynebir yma yn debyg i’r rhai yn Wrecsam; roedd ceisio creu amgylchedd gwell i bobl sy’n byw gyda dementia a’u hanwyliaid yn brif ffocws. Roedd y newidiadau hyn yn wahanol ym mhob pob ward, yn ôl natur wahanol y gofal a ddarperir, ond roedd pob un wedi sicrhau gwelliannau i bobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd.
Daeth ymweliad â chanolfan hamdden yng Nghaernarfon â’n hail ddiwrnod i ben. Cymerom ran ym mhrynhawn gweithgareddau Dementia Actif. Nid wyf wedi sôn am Boccia eto, ac mae’n bosibl y dylwn i fod wedi gwneud hynny – i’r rheiny ohonoch nad ydych wedi clywed amdani o’r blaen, mae Boccia yn gêm sy’n debyg i fowls grin gefngrom a boules ac mae’n gêm bwysig yng ngogledd Cymru, lle mae cynghrair yn bodoli. Roedd y gystadleuaeth yn ffyrnig a phrofiad y grŵp yn disgleirio. Yn ffodus iawn, er ein bod wedi colli’r gêm, daeth i ben gyda theisen bwmpen sbeislyd flasus a chanu. Cafodd pwysigrwydd gweithgarwch a chysylltiadau eu harddangos a’u cyflwyno yn effeithiol dros ben.
Dechreuodd ein diwrnod olaf drwy ymweld â Llangefni yn Ynys Môn. Fe wnaethom gyfarfod â’r tîm cymunedol a oedd yn cynnwys cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, rheolwr cyllid integreiddio rhanbarthol, cynghorydd lleol, a chynrychiolwyr deall dementia a heneiddio’n dda. Rhoddon nhw amlinelliad o gynllun cymunedol ysbrydoledig sydd wedi cael ei ddatblygu dros nifer o flynyddoedd. Mae gwrando ar y gymuned a gweithio gyda hi i fynd i’r afael ag anawsterau wedi’i gwreiddio yn eu hymagwedd tuag at eu gwaith. Yn dilyn hynny, ymwelom â phrosiect adnewyddu arbennig iawn. Roeddent yn addasu capel lleol er mwyn creu gofod cymunedol yn Llangefni. Roedd defnyddio gofod canolog yn dangos bod ymrwymiad i’r gymuned leol ac yn fodd i adfer adeilad prydferth iawn a rhoi bywyd a phwrpas newydd iddo.
Ein hymweliadau olaf ar ein taith i ogledd Cymru oedd Ysbyty Cefni yn Llangefni a Ward Cemlyn yn Ysbyty Gwynedd, Bangor. Roedd clywed am yr amrywiaeth eang o waith sy’n cael ei wneud yn y ddau ysbyty i wella gofal dementia yn ddefnyddiol iawn ac yn amlygu’r angen am hyfforddiant dementia ac offer i helpu i wella gofal dementia ym mhob amgylchedd.
Er bod ein hymweliad â gogledd Cymru yn dilyn agenda orlawn, roedd clywed am y gwaith sy’n digwydd ar draws cymunedau ac yn yr ysbytai yn anhygoel. Dyma ddechrau cyfres o ymweliadau a fydd yn rhoi sylw i’r gwaith sy’n digwydd ar draws rhanbarthau Cymru gyfan i fodloni’r llwybr safonau dementia. Y nod yw creu darlun o’r gwaith sy’n digwydd, rhannu ymarfer arloesol a meddwl cydgysylltiedig, a chreu amgylchedd lle mae gofal dementia yn diwallu anghenion pobl Cymru.
Darganfod mwy am waith Rhaglen Iechyd Meddwl Gwelliant Cymru yma.