Academi Gwelliant Cymru: Cyflwyno’r Gyfres Hyfforddiant Darbodus
Mae Academi Gwelliant Cymru yn gyffrous i gyflwyno ei chyfres hyfforddiant Darbodus, a gynlluniwyd i helpu staff GIG Cymru i sicrhau gwelliannau effeithiol a chynaliadwy.

Ni yw cangen hyfforddi Gwelliant Cymru. Rydym yn darparu dysgu ymarferol a chydweithredol i gefnogi timau i ysgogi newid ystyrlon. Mae ein cyfres hyfforddiant Darbodus newydd yn rhoi offer a thechnegau i staff gofal iechyd i’w helpu i nodi aneffeithlonrwydd, gwella llifoedd gwaith, a gwella canlyniadau cleifion.
Ar 31 Ionawr, gwnaethom gyflwyno’r cwrs Hanfodion bod yn Ddarbodus cyntaf mewn cydweithrediad â thîm Rhaglenni Gwelliant Cymru i dimau Endosgopi ac Anadlol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Cyflwynodd y sesiwn ryngweithiol hon egwyddorion Darbodus allweddol a dulliau ymarferol i leihau gwastraff a gwella llif gwasanaethau.
Mae Tom Damsell, Uwch Reolwr Gwella yn yr Academi, yn rhannu:
“Mae’r hyfforddiant hwn yn ymwneud â rhoi’r offer cywir i dimau ledled Cymru fynd i’r afael â’r heriau y maent yn eu hwynebu bob dydd. Roedd yn wych gweld cyfranogwyr yn archwilio sut y gallai egwyddorion Darbodus helpu i wella eu gwasanaethau. Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi mwy o dimau ar eu taith wella.”
Mae Ross Nowell, Rheolwr Gwella Rhaglenni, yn ychwanegu:
“Mae hyfforddiant darbodus yn cynnig dulliau ymarferol o fynd i’r afael ag aneffeithlonrwydd wrth feithrin diwylliant o welliant parhaus. Roedd gweld cyfranogwyr yn rhoi cynnig ar yr offer ac yn gweithio gyda’i gilydd yn hynod werth chweil.”
Ein Cyfres Hyfforddiant Darbodus
- Hanfodion bod yn Ddarbodus (1 diwrnod)
- Ymarferydd Darbodus (hyfforddiant uwch dros gyfnod o ddeuddydd, yn lansio ym mis Mai)
- Cyrsiau byr (hanner diwrnod):
- 5S: Gwella’r amgylchedd gwaith
- Gwella Dibynadwyedd mewn Lleoliadau Gofal Iechyd (Marc Ansawdd Agored)
- Cynnal Gwelliant Trwy Safoni
Ymunwch â Ni
Cynhelir y cwrs Hanfodion bod yn Ddarbodus nesaf ar 3 Mawrth yn CQ2, Caerdydd. Mae’n agored i holl staff GIG Cymru. Gallwch gofrestru eich diddordeb drwy ein ffurflen ymholiad.
Os ydych yn gweithio i GIG Cymru ac â diddordeb yn y gyfres hyfforddiant Darbodus neu os hoffech archwilio hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer eich tîm, cysylltwch â ni – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.