Myfyrio ar Flwyddyn o Gynnydd mewn Gofal Dementia

Gan Michaela Morris, Rheolwr Gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cenedlaethol ac Arweinydd Dementia
Mae diwedd mis Mawrth yn gyfnod pan fo llawer ohonom ni yn y GIG yn myfyrio ac yn adrodd ar weithgarwch dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n amlwg bod camau breision wedi’u cymryd ym maes gofal dementia ledled Cymru. O fentrau cymunedol arloesol i ddatblygu rolau hollbwysig, dyma rai o uchafbwyntiau ein gwaith dros y 12 mis diwethaf.
Ymgysylltu â’r Gymuned a Ffactorau Risg y Gellir eu Haddasu
Un o’n llwyddiannau mwyaf effeithiol fu lansio ymgyrchoedd gwrando cymunedol. Rhoddodd y mentrau hyn gyfle i ni ddeall yr hyn sydd bwysicaf i bobl sy’n byw gyda dementia a’r gymuned ehangach a llywio’r gwaith o greu cynlluniau gweithredu wedi’u teilwra ar gyfer pob rhanbarth. Yn 2025, ein nod yw arddangos y straeon llwyddiant o’r cymunedau hyn i ysbrydoli cynnydd pellach.
Ar yr un pryd, cynhaliom ein gweithdy cyntaf ar ffactorau risg y gellir eu haddasu ar gyfer dementia. Er bod llawer o’n gwaith yn canolbwyntio ar gefnogi unigolion sydd eisoes wedi cael diagnosis, rydym hefyd wedi ymrwymo i weithio i atal dementia trwy hybu iechyd. Rydym yn gweithio’n galed i ddatblygu ymgyrch gyfathrebu genedlaethol a fydd, gobeithio, yn cael ei chyflwyno yn 2025 i godi ymwybyddiaeth a rhoi adnoddau i ranbarthau gefnogi lleihau risg.
Rôl y Cysylltydd Dementia
Yn 2023, fe wnaethom ganolbwyntio ar ddatblygu rôl y cysylltydd dementia, ac erbyn hydref 2024, roedd pob rhanbarth wedi datblygu cynllun i roi’r gwasanaeth hwn ar waith fel yr amlinellwyd yn Llwybr Safonau Dementia Cymru Gyfan. Mae cysylltwyr dementia yn ffigurau allweddol sy’n helpu unigolion i lywio cymhlethdodau iechyd a gofal cymdeithasol. Eleni, byddwn yn gweithio i fireinio’r rôl hon, gan sicrhau ei bod yn diwallu anghenion rhanbarthol a’r weledigaeth genedlaethol.
Gwasanaethau Asesu Cof (MAS)
Mae’r timau gofal iechyd arbenigol hyn yn asesu ac yn gwneud diagnosis o broblemau cof, a allai fod yn gysylltiedig â dementia. Roedd y flwyddyn ddiwethaf yn drawsnewidiol i dimau MAS, sydd wedi cynyddu cyfraddau diagnostig yn gyson bob mis ledled Cymru. Mewn ymateb i’r cynnydd yn y galw, cynhaliwyd gweithdai i werthuso arferion cyfredol ac i hybu safoni. Drwy wella’r defnydd o ddata a chydweithio, rydym wedi datblygu dangosfwrdd sy’n helpu timau i fonitro perfformiad ac olrhain cyfraddau diagnostig, gan fraenaru’r tir ar gyfer mwy o dryloywder a gwelliant parhaus.
Mentrau Cydweithredol a Datblygiad Proffesiynol
Rydym hefyd wedi gweithio’n agos gydag arbenigwyr fel yr Athro Tony Bayer o Brifysgol Caerdydd ar sawl menter allweddol, gan gynnwys datblygu Llwybr Niwro-ddelweddu Cymru Gyfan newydd. Mewn partneriaeth â thimau eraill yn Gwelliant Cymru, rydym wedi cynnig hyfforddiant wedi’i dargedu i wella gallu ein timau, yn enwedig o ran gwella ansawdd a rheoli galw a chapasiti.
Mae ein Cyfadran Dementia wedi bod yn ganolbwynt ar gyfer rhannu gwybodaeth, gyda sawl carfan o hyfforddiant a dosbarthiadau meistr ar gyfer Gwneud Diagnosis o Ddementia. Mae’r rhwydwaith hwn yn tyfu a bydd yn hollbwysig wrth lunio dyfodol gofal dementia ledled Cymru. Cyflawnodd y gyfadran ei 11eg Carfan ac mae hefyd wedi canolbwyntio ar gefnogi asesu a diagnosis mewn gofal sylfaenol trwy garfan benodol i feddygon teulu. Mae nifer o ddosbarthiadau meistr wedi’u cynnal i gefnogi dysgu a datblygu.
Canlyniadau Cadarnhaol mewn Mannau Dementia (PODS) Lleisiau Dementia
Mae Lleisiau Dementia, grŵp sy’n canolbwyntio ar gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ddementia, wedi bod yn hwyluso sesiynau rhithwir lle gall unigolion rannu profiadau a cheisio sicrwydd. Mae’r sesiynau hyn yn cynnig man diogel i drafod heriau gofal dementia. Gan edrych i’r dyfodol, mae Lleisiau Dementia yn bwriadu cynnal sesiynau PODS ychwanegol gydag aelodau’r Senedd a Phrif Weithredwyr y Byrddau Iechyd. Maent hefyd yn anelu at barhau i gefnogi mentrau dementia rhanbarthol, gan gyfrannu at fyrddau dementia lleol ledled Cymru.
Gofal Mewn Ysbytai – Cynnydd a Chynlluniau ar gyfer 2025 yng Nghymru
Yn 2024, cafwyd datblygiadau sylweddol mewn gofal dementia yng Nghymru, wedi’u hysgogi gan fentrau fel Care Fit for VIPS (offeryn ar-lein sy’n seiliedig ar fframwaith sy’n rhannu darpariaeth gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ddarnau hylaw), offer bywgraffyddol fel y ddogfen “Dyma fi” (offeryn cymorth i gofnodi manylion person i alluogi gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn) a’r rhwydwaith carchardai dementia. Nod yr ymdrechion hyn, ynghyd â gwella adran “Amdanaf I” ap GIG Cymru, yw gwella gofal i bobl â dementia drwy alluogi gwell cyfathrebu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Prosiect allweddol eleni oedd y peilot Person-centred Observation and Reflection Tool (PORT), a ddatblygwyd gyda’r Athro Claire Surr o Brifysgol Leeds Beckett. Mae PORT yn helpu staff i fyfyrio ar eu dull gofal, gan wella profiadau pobl â dementia. Mae’n ategu Mapio Gofal Dementia a bydd yn cael ei werthuso yn 2025 ar gyfer gwersi a ddysgwyd.
Gan edrych i’r dyfodol, bydd 2025 yn canolbwyntio ar fyrddau iechyd yn mabwysiadu ac yn gwreiddio Care Fit for VIPS, dylunio dangosfwrdd mesur dementia, a threialu rhaglen ar wardiau iechyd meddwl oedolion hŷn. Cam cyntaf hyn fydd gweithio gyda wardiau ledled Cymru i ddeall y sefyllfa bresennol a dylunio rhaglen waith ar y cyd.
Dysgu ar y cyd
Mae’r Rhestr Arferion a Rennir, datrysiad ar-lein i rannu gwybodaeth am brosiectau dementia hefyd yn parhau i gefnogi dysgu a rennir ledled Cymru. Rydym ni fel tîm wedi cefnogi’r rhanbarthau a’r arweinwyr rhanbarthol gyda’u cynlluniau i gyflawni canlyniadau gwell i holl ddinasyddion y rhanbarth ac rydym yn parhau i wneud hynny.
Mae llawer o brosiectau a mentrau yn digwydd ar lefel genedlaethol a rhanbarthol, ac mae dementia yn ffocws i randdeiliaid allweddol ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a chymunedau. Mae hyn oherwydd gwaith caled ac ymrwymiad y byrddau dementia rhanbarthol, arweinwyr y rhaglen ac aelodau’r ffrydiau gwaith.
Mae’r ymdrechion hyn yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus i wella gofal dementia a chefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ddementia.
Cryfhau partneriaethau
Eleni, byddwn yn canolbwyntio ar barhau i gryfhau’r berthynas â thimau rhanbarthol, gan sicrhau ein bod yn adeiladu ar wersi 2024.
Ein nod yw gwneud gofal dementia yn fwy hygyrch, yn fwy cydgysylltiedig, ac yn fwy effeithiol ledled Cymru yn y pen draw, gyda ffocws parhaus ar ddysgu o lwyddiannau a heriau. Fel tîm, edrychwn ymlaen at flwyddyn arall o arloesi, cydweithio a chynnydd ystyrlon ym maes gofal dementia.
Cyrchwch adnoddau a dysgwch ragor am waith y rhaglen Gofal Dementia yma.