Dyfodol tecach | Gwella iechyd a gofal i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru

Gan Dr Rachel Ann Jones, Athro Gwadd, Arweinydd Rhaglen Genedlaethol


Y fraint fwyaf sydd gennyf yn fy rôl o ddydd i ddydd yw gallu helpu i wella canlyniadau i bobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd, a’u hanwyliaid.

Mae’r boblogaeth rydym yn ei gwasanaethu ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed, sydd wedi’u gwthio i’r ymylon mewn cymdeithas. Mae hyn bob amser wedi bod yn flaenllaw yn fy meddwl dros y chwe blynedd diwethaf fel Arweinydd Cenedlaethol ein Rhaglen Anabledd Dysgu.

Nawr, wrth i ni ddechrau ar gyfnod newydd fel rhaglen, mae wedi rhoi cyfle i mi fyfyrio ar ba mor bell rydyn ni wedi dod er 2019 a nodi ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

Cynnydd gyda phwrpas

Mae ein rhaglen wedi darparu cyngor, cymorth ac adnoddau i gydweithwyr ledled y GIG yng Nghymru a thu hwnt. Rydym wedi cael ein tywys i sawl cyfeiriad gwahanol yn ein hymdrechion i wella diogelwch cleifion a lleihau niwed a marwolaethau y gellir eu hosgoi, sy’n dyst i faint o waith sydd ei angen.

Drwyddi draw, ein prif ddiben fu gwella profiadau iechyd a chanlyniadau i bobl ag anabledd dysgu. Rwyf mor falch o weld y gwahaniaeth ystyrlon y mae’r rhaglen wedi’i wneud:

  • Cyd-gynhyrchu a darparu atebion ar gyfer addysg a diogelwch cleifion yn genedlaethol.
  • Gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth gyda dulliau newydd o ymdrin â data a dadansoddi.
  • Arweinyddiaeth strategol gyda phartneriaid lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
  • Cefnogi codi safonau ar gyfer gwasanaethau gofal ar draws y system.

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am yr hyn rydym wedi’i gyflawni ar ein gwefan (Ein cynnydd | 2019-2025).

Mae’n bendant yn amlwg, pan fyddwn yn eistedd yn ôl ac yn myfyrio, nad yw’r ateb strategol ar gyfer ansawdd a diogelwch yn un dimensiynol. Rhaid inni gymryd llawer o gamau, bach a mawr, i sicrhau Cymru decach i bawb.

Yn syml, nid yw’r nod hwn yn gyraeddadwy dros nos ond bydd yn gyraeddadwy gydag amser. Gall gwelliannau cronnol gwirioneddol ddigwydd trwy weithredu gwybodus a bwriadol.

Gwersi ddysgon ni

Yn naturiol, mae’n braf dathlu ein llwyddiannau, ond mae cydnabod ein heriau yn cryfhau’r camau nesaf a gymerwn. Bu llawer o wersi ar ein taith, sydd i’w disgwyl fel y rhaglen genedlaethol gyntaf o’n math yng Nghymru.

Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dod â rhai newidiadau mawr i’r system. Un o’r rhai mwyaf arwyddocaol yw bod Gwelliant Cymru bellach yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Ansawdd, Diogelwch a Gwella o fewn Gweithrediaeth GIG Cymru. O’n safbwynt ni, mae’r newid hwn yn amlygu’r angen cynyddol am gyfeiriad strategol a llywodraethu cryfach – rhywbeth a adlewyrchir yn y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, y Canllawiau Statudol Dyletswydd Ansawdd, a’r Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal wedi’u diweddaru. Credwn y bydd aliniad yn y meysydd hyn o fudd uniongyrchol i ansawdd, diogelwch a gwelliant mewn gofal cleifion. 

Pwynt allweddol arall i ni yw nad yw prosiectau gwella byrdymor ar raddfa fach yn ddigon i fynd i’r afael â’r gwahaniaethau iechyd sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn a wynebir gan bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru. Diolch i gyllid â therfyn amser, rydym wedi gallu lansio rhaglen arloesol sy’n ymroddedig i wella canlyniadau iechyd i’r gymuned hon. Dan arweiniad arbenigwyr ym meysydd anabledd dysgu a gwelliant, mae’r rhaglen eisoes wedi cael effaith ystyrlon. Ond, mae ei nodau hirdymor, fel lleihau marwolaethau y gellir eu hosgoi a marwolaethau cynamserol, yn gofyn am strategaeth lawer ehangach a blaengar.

Gwyddom ein bod wedi dod yn bell, a gwyddom fod gennym ymhellach i fynd oherwydd bod ein poblogaeth yn parhau i wynebu anghydraddoldebau iechyd bob dydd. Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i fynd i’r afael â hyn.

Cyflymu gwelliannau: Y flwyddyn i ddod

Gyda’n cylch gwaith newydd ar gyfer y 12 mis nesaf, rydym yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol a fydd yn cyflymu gwelliannau iechyd i bobl ag anabledd dysgu:

  • Gwell data a safonau penodol – Rydym yn gweithio i ddatblygu dulliau mwy cadarn o gasglu data a safonau cenedlaethol penodol er mwyn ysgogi gwell prosesau gwneud penderfyniadau a gwella gwasanaethau.
  • Gwiriadau Iechyd – Byddwn yn gweithio i sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael archwiliadau iechyd effeithiol a phrydlon sy’n arwain at well canlyniadau iechyd.
  • Lleihau hyd arhosiad – Rydym yn mynd i’r afael â’r ffactorau sy’n cyfrannu at arhosiadau estynedig yn yr ysbyty ar gyfer pobl ag anabledd dysgu ac yn cefnogi rhyddhau prydlon, priodol.
  • Lleihau Arferion Cyfyngol – Parhau â’n gwaith i hyrwyddo dulliau cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a lleihau’r defnydd o arferion cyfyngol lle bynnag y bo modd.

Mae’r dull wedi’i dargedu hwn yn adlewyrchu blaenoriaethau Gweinidogol ac yn caniatáu inni ganolbwyntio ein hymdrechion lle byddant yn cael yr effaith fwyaf.

Galwad i weithredu

Bydd y 12 mis nesaf yn hollbwysig wrth i ni weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i lywio’r cyfeiriad yn y dyfodol. Byddwn yn parhau â’n gwaith i wneud gwahaniaeth ystyrlon i’r materion systemig ar draws y system ac i hyrwyddo pwysigrwydd gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae’n bwysicach nag erioed i wneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael a sicrhau bod ein gwaith yn sicrhau newid mesuradwy. Ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Mae arnom angen ymgysylltiad parhaus ein holl randdeiliaid; llunwyr polisi, arweinwyr y GIG, gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, y trydydd sector, a phobl â phrofiad bywyd. Byddwn bob amser yn gwerthfawrogi eich llais. Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi hyd yn hyn. Edrychwn ymlaen at fwrw ymlaen â’n cynlluniau ar gyfer ein rhwydwaith cenedlaethol newydd ac rydym yn eich annog i gofrestru i fod yn danysgrifiwr. Mae eich ymrwymiad wedi bod yn allweddol i’n llwyddiannau, a gyda’n gilydd, gallwn barhau i adeiladu Cymru lle mae pobl ag anableddau dysgu yn cael eu gwerthfawrogi, eu grymuso, a’u cefnogi i ffynnu.