Galwad genedlaethol i weithredu: Mae angen i ni barhau i atal niwed y gellir ei osgoi i’n cleifion

Gan Dr Siobhan Lewis, Meddyg Ymgynghorol a Geriatregydd, Arweinydd Clinigol Nodau 5 a 6, Chwe Nod ar gyfer y Rhaglen Gofal Brys ac Achosion Brys


1 o bob 3.  

Dr Siobhan Lewis

Mae 1 o bob 3 o bobl hŷn yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty gydag anabledd nad oedd ganddyn nhw pan gyrhaeddon nhw gyntaf.  

Mae hon yn ffaith lom a thrist. Pam fod hyn yn digwydd i ddefnyddwyr ein gwasanaethau?  

Gall hyn fod o ganlyniad i ddatgyflyru, nad yw’n digwydd i’n poblogaeth hŷn yn unig – gall effeithio ar unrhyw un. Efallai bod rhai pobl wedi clywed y term ‘datgyflyru’ o’r blaen.  

“Gellir diffinio datgyflyru fel proses gymhleth o newid ffisiolegol yn dilyn cyfnod o anweithgarwch, gorffwys yn y gwely neu ffordd o fyw eisteddog. Mae’n arwain at golledion gweithredol mewn meysydd fel statws meddyliol, graddau o ymataliaeth, a’r gallu i gyflawni gweithgareddau bywyd bob dydd.

Gillis et al 2005

Yn syml, po hiraf y bydd person yn aros yn yr ysbyty heb symud, y cyflymaf y bydd ei allu gweithredol yn dirywio. Er enghraifft, os yw rhywun yn aros yn y gwely, gall ei gyhyrau a’i gymalau anystwytho, gan arwain at lai o allu i gerdded. Pan fo anhawster cerdded, gall fod risg uwch o gwympo. Pan fydd rhywun yn ofni cwympo, maen nhw’n llai tebygol o fynd i’r toiled heb gymorth, gan arwain at anymataliaeth a rhwymedd posibl. Os nad ydyn nhw’n mynd i’r toiled, efallai na fyddan nhw eisiau bwyta ac yfed digon a all achosi dadhydradiad. Gall hyn achosi problemau gyda llyncu a all, yn yr achos gwaethaf posibl, arwain at niwmonia. 

Mae’n hawdd gweld pam y gall y cylch dirywiad ddechrau a sut y gall ddechrau o fewn ychydig oriau.  

Os ydym yn meddwl yn ôl am yr 1 o bob 3 o bobl a soniais amdanynt ar ddechrau’r blog hwn; nid yw o leiaf 60% o’r rhai yr effeithir arnynt yn ôl i’w lefelau gweithredu arferol ar ôl 12 mis. Dyna flwyddyn gyfan ar ôl cael eich rhyddhau o’r ysbyty. Mae hyn yn dangos canlyniadau dinistriol, parhaol datgyflyru.  

Yn ogystal â’r effeithiau y mae hyn yn eu cael ar ddefnyddwyr ein gwasanaethau, mae yna ganlyniadau hefyd i system ehangach y GIG. Er enghraifft, os oes mwy o gleifion angen arhosiad hirach yn yr ysbyty i wella o ddatgyflyru, mae staff yn wynebu llwythi gwaith cynyddol mewn amgylcheddau sydd eisoes dan bwysau. Mae hyn yn cael effaith negyddol ar lesiant staff a gallai arwain at orweithio posibl. Gyda mwy o gleifion yn llenwi mwy o welyau ac yn defnyddio mwy o gynhyrchion ac offer ymataliaeth, mae hyn yn ei dro yn gost lythrennol i’r GIG. Po fwyaf o welyau sy’n cael eu meddiannu, hiraf bydd yr amseroedd aros mewn ambiwlansys i bobl eraill sydd angen gwelyau ysbyty. Gall hyn arwain at nifer cynyddol o gwynion a phryderon gan gleifion a’u hanwyliaid gan nad ydyn nhw’n cael profiad gofal cadarnhaol. Wrth i fwy o gleifion gael eu rhyddhau sydd angen mwy o becynnau gofal wrth i’w hiechyd ddirywio, mae hyn yn rhoi mwy o bwysau ar ein lleoliadau gofal cymdeithasol.  

Felly sut allwn ni atal datgyflyru rhag digwydd?  

Mae’n bwysig cofio, nid yw datgyflyru yn cael ei achosi gan un ffactor yn unig: mae’n gyfuniad o ffactorau – rhai na allwn effeithio’n uniongyrchol arnyn nhw.  

Fodd bynnag, mae’n galonogol gweld bod y rhan fwyaf o’r timau o’r ffrwd waith Atal Datgyflyru, sy’n rhan o’r Partneriaeth Gofal Diogel, eisoes yn treialu gwelliannau yn eu meysydd priodol i helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae rhai timau’n cyflwyno mentrau newydd i annog mwy o symud ymhlith cleifion ac mae eraill yn edrych ar sut y gallant addasu offer presennol fel Sgoriau Rhybudd Cynnar Cenedlaethol (NEWS) a siartiau arsylwi dirywiad acíwt i ddeall y ffactorau a all achosi datgyflyru i glaf penodol yn well.  

Bydd timau prosiect yn ystyried datblygu gwelliannau a newidiadau effeithiol a byddant yn galw ar eich cymorth fel cydweithwyr i’w helpu i ledaenu’r rhain i feysydd eraill.  

Fy apêl i – a’u hapêl nhw – i chi yw eu cefnogi a’u helpu i ymgorffori’r gwelliannau hyn yn eich trefn ddyddiol. Heb anghofio’r pwysau sy’n ein hwynebu ar y rheng flaen, dros amser byddwn yn gallu graddio’r newidiadau hyn yn hawdd eu rheoli, un gwelliant ar y tro.  

Gyda’n gilydd, gallwn ni i gyd weithio i gadw defnyddwyr ein gwasanaethau yn ddiogel rhag niwed y gellir ei osgoi.