Beth yw Gwasanaethau Asesu Cof (MAS)?
Gan Farukh Navabjan, Uwch Reolwr Gwella, Gweithrediaeth GIG Cymru
I nodi Wythnos Gweithredu Dementia (19-25 Mai), rydym yn rhannu cyfres o flogiau a ysgrifennwyd gan aelodau o’n tîm dementia a chydweithwyr y GIG sy’n arwain ar waith i wella gofal dementia mewn rhanbarthau ar draws Cymru.
Edrychwch ar ein tudalennau dementia i weld sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd i wneud Cymru’n wlad sy’n ystyriol o ddementia.
Oeddech chi’n gwybod bod Gwasanaethau Asesu Cof (MAS) ledled Cymru yn cael tua 800 o atgyfeiriadau bob mis? Er gwaethaf y galw hwn, mae timau ledled Cymru yn dangos ymrwymiad diysgog i wella gofal dementia trwy fireinio eu prosesau’n gyson ac archwilio dulliau arloesol i ddiwallu’r galw cynyddol. Mae meithrin capasiti yn ffocws mawr wrth fynd i’r afael â’r rhestrau aros ac mae timau MAS yn cymryd rhan yn y rhaglen Galw a Chapasiti wedi’i theilwra – a ddatblygwyd gydag Academi Gwelliant Cymru.
Rydym yn cynnal gweithdai rhanbarthol drwy ddod â thimau ynghyd, i helpu i ddatgelu gwahaniaethau, rhannu dysgu, hyrwyddo mwy o gysondeb ac archwilio ffyrdd newydd o weithio, er mwyn gwella darpariaeth gwasanaethau ymhellach.
Daeth un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol drwy ddefnyddio data’n strategol. Mae dangosfwrdd monitro perfformiad wedi’i greu mewn cydweithrediad â’n tîm dadansoddi a thimau MAS. Mae’r dangosfwrdd bellach yn cael ei ddefnyddio gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru. Mae’r offeryn yn galluogi timau i olrhain cyfraddau diagnostig a pherfformiad gweithredol, ac yn cynnig ffordd dryloyw o fonitro ac adrodd ar ddata a all ysgogi gwelliannau i wasanaethau.
Mae timau MAS wedi gweithio mewn partneriaeth â gwahanol rwydweithiau i ddatblygu llwybr Niwroddelweddu Cymru Gyfan, llwybr Colli Clyw Cymru Gyfan ac amrywiol adnoddau ar gyfer Symudiad a Symudedd. Mae’r holl lwybrau hyn sy’n addo gwella cywirdeb diagnostig a gofal holistaidd yn cael eu lansio’r mis hwn.

Mae’r Gyfadran Dementia yn parhau i ddisgleirio fel canolfan ar gyfer datblygiad proffesiynol. Mae 11 carfan wedi cael hyfforddiant ‘Diagnosio Dementia’, saith sesiwn dosbarth meistr wedi’u cynnal yn llwyddiannus, ac mae Pwyllgor Cyfadran newydd yn cael ei recriwtio. Mae hyn yn golygu bod Cyfadran Dementia Cymru ar y trywydd iawn i ddod yn rhwydwaith arbenigol mewn gofal dementia cyn-ddiagnostig ac ôl-ddiagnostig sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol.
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Gwasanaethau Asesu Cof mewn sefyllfa dda i adeiladu ar y momentwm hwn ac yn parhau â’u taith o arloesi, gweithio mewn partneriaeth a chynnydd. Maent wedi ymrwymo i lunio dyfodol gofal dementia yng Nghymru.