Agor Drysau i Ymarfer i’r Ymennydd: Taith Cymuned gyda Dementia
Gan Versa Sood, Rheolwr Gwella a Datblygu ar gyfer Dementia, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro
I nodi Wythnos Gweithredu Dementia (19-25 Mai), rydym yn rhannu cyfres o flogiau a ysgrifennwyd gan aelodau o’n tîm dementia a chydweithwyr y GIG sy’n arwain ar waith i wella gofal dementia mewn rhanbarthau ar draws Cymru.
Edrychwch ar ein tudalennau dementia i weld sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd i wneud Cymru’n wlad sy’n ystyriol o ddementia.
Lansiodd Cymdeithas Ddiwylliannol Hindŵaidd y digwyddiad “Agor Drysau i Ymarfer yr Ymennydd” cyntaf, mewn cydweithrediad â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro a 34 o bartneriaid eraill. Y nod oedd codi ymwybyddiaeth o ddementia o fewn y gymuned De Asiaidd yng Nghaerdydd. Cynhaliwyd y digwyddiad rhad ac am ddim yng Nghanolfan India. Roedd yn nodi cam arwyddocaol mewn ymgysylltu dan arweiniad y gymuned ar faterion sy’n ymwneud â dementia.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys stondinau gwybodaeth amrywiol, gweithgareddau rhyngweithiol a thrafodaethau. Roedd yn lle croesawgar i aelodau’r gymuned ddysgu am ddementia ac archwilio opsiynau cymorth. Ymhlith uchafbwyntiau’r diwrnod roedd y sesiwn gynhwysol “Ioga i Bawb”, a gynlluniwyd i hyrwyddo llesiant corfforol a meddyliol ni waeth beth fo’ch oedran neu allu, a phwysleisio manteision posibl ioga i’r rhai sy’n byw gyda dementia.
Cafwyd moment deimladwy pan rannodd Simran, aelod o’r gymuned leol, ei phrofiad emosiynol gyda thaith dementia ei mam. Siaradodd am y stigma a’r camddehongliadau cychwynnol o fewn y teulu, yn cynnwys cred mewn meddiant ysbrydol. Fe wnaeth y camsyniadau hyn arwain at oedi cyn cael diagnosis a gofal i’w mam. Roedd stori Simran yn pwysleisio’r angen brys am ymwybyddiaeth a systemau cymorth sy’n sensitif yn ddiwylliannol, yn enwedig mewn cymunedau lle mae stigma yn parhau i fod yn gyffredin.
Ar ôl egwyl ginio, daeth mwy o straeon i’r amlwg. Gwnaeth un o’r unigolion eraill a oedd yn bresennol fynegi rwystredigaeth gyda diffyg dealltwriaeth bersonol y system feddygol, a galw ar weithwyr proffesiynol i wrando mwy ar deuluoedd sy’n adnabod y claf orau. Pwysleisiodd y datganiadau diffuant hyn na ddylid anghofio’r unigolyn y tu ôl i’r diagnosis.
Siaradodd Edward Oloidi a Juping Yu, cynrychiolwyr academaidd o Brifysgol De Cymru, am bwysigrwydd ymchwil gynhwysol a’r angen i gynnwys cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn ystyrlon. Gwnaethant dynnu sylw at sut y gall jargon academaidd fod yn rhwystr i ddealltwriaeth a chyfranogiad.
Gwnaeth Dr. Nathdwarwala ychwanegu ychydig o ysgafnder at y diwrnod yn cynnwys sesiwn ioga chwerthin. Gwnaeth MHM Cymru hwyluso cwis “Ymarfer i’r Ymennydd”, a oedd yn hyrwyddo ysgogiad meddyliol mewn ffordd hwyliog a diddorol.
Daeth y digwyddiad i ben gyda sesiwn Holi ac Ateb gydag arbenigwyr gofal dementia, yn cynnwys Dr. Biju Mohamad ac eraill, a atebodd gwestiynau a thrafod pynciau fel arferion ysbytai sy’n ystyriol o ddementia a’r angen i ofalwyr di-dâl gael hyfforddiant a chefnogaeth. Gwnaethant dynnu sylw at y Siarter Ysbytai sy’n Deall Dementia a phwysleisio rôl y gymuned mewn ymdrechion gofal.
Canmolodd Gabriel Mandal o Mental Health Matters ysbryd cydweithredol ac arloesol y digwyddiad.
Rhannais i, ynghyd â rhanddeiliaid allweddol, fyfyrdodau, yn pwysleisio pŵer cydweithio a chyd-gynhyrchu wythnosol wrth gynllunio ymgysylltu sy’n canolbwyntio ar y gymuned.
Rhannodd aelodau’r gymuned fel Mrs. Sharma fod y digwyddiad wedi helpu i fynd i’r afael â’r unigrwydd a deimlir gan y rhai sy’n galaru ar ôl colli anwyliaid yn ystod y pandemig. Dathlwyd y fenter fel model ar gyfer cyd-gynhyrchu gwasanaethau sy’n adlewyrchu profiadau bywyd a gwerthoedd diwylliannol.
Cafodd y digwyddiad ei grynhoi orau gan Ceri Higgins, gofalwr di-dâl: “nid yw cyd-gynhyrchu’n ymwneud â gwasanaethau gwell yn unig —mae’n ymwneud â meithrin perthnasoedd, gwella llesiant, a sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt gan ddementia yn gyfranogwyr gweithredol mewn llunio’r cymorth maen nhw’n ei gael.”