Lleihau eich risg o ddatblygu dementia; archwilio ffactorau risg a hyrwyddo ymwybyddiaeth
Gan Ian Dovaston, Uwch Reolwr Gwella, Gweithrediaeth GIG Cymru
I nodi Wythnos Gweithredu Dementia (19-25 Mai), rydym yn rhannu cyfres o flogiau a ysgrifennwyd gan aelodau o’n tîm dementia a chydweithwyr y GIG sy’n arwain ar waith i wella gofal dementia mewn rhanbarthau ar draws Cymru.
Edrychwch ar ein tudalennau dementia i weld sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd i wneud Cymru’n wlad sy’n ystyriol o ddementia.
Oeddech chi’n gwybod bod yna bethau y gallwch chi eu gwneud i leihau eich risg o ddatblygu dementia? Os ateboch chi ‘na’ yna ni fyddwch chi ar eich pen eich hun gan fod arolwg barn diweddar wedi nodi nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o’r pethau hyn. Cyhoeddwyd adroddiad gan y Lancet yn 2020 yn amlinellu 12 ffactor risg sy’n cyfrif am 40 y cant o achosion o ddementia yn fyd-eang.
Yn fwy diweddar mae’r Lancet wedi ychwanegu dau ffactor risg dementia arall, sef colesterol uchel (colesterol LDL yn benodol) a cholli golwg heb ei gywiro.

Efallai eich bod wedi clywed am lawer o’r ffactorau risg hyn o’r blaen. Mae gordewdra, bod yn anweithgar yn gorfforol, rhoi’r gorau i ysmygu a lleihau faint o alcohol sy’n cael ei yfed yn negeseuon rydyn ni wedi dod i arfer â nhw. Cyfeirir at y ffactorau hyn yn aml wrth drafod lleihau ein risg o gael strôc neu fethiant y galon.
Yn gyffredinol, y neges mewn perthynas â dementia yw “Mae’r hyn sy’n dda i’r galon yn dda i’r pen”. Wedi dweud hynny, mae nifer o ffactorau risg a allai fod yn llai amlwg. Mae colli clyw yn enghraifft wych. Oeddech chi’n gwybod bod rhai astudiaethau’n awgrymu bod difrifoldeb colli clyw yn gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu dementia? Er nad yw’r union fecanweithiau wedi’u deall yn llawn, mae damcaniaethau’n awgrymu y gall colli clyw arwain at ynysigrwydd cymdeithasol, mwy o ymdrech gan yr ymennydd wrth gyfathrebu, ac o bosibl newid i strwythur yr ymennydd. Gall y rhain i gyd gyfrannu at y risg fwy.
Felly, beth sy’n digwydd i ledaenu’r neges hon?
Yng Ngweithrediaeth GIG Cymru rydym yn ceisio hyrwyddo’r wybodaeth hon mewn nifer o wahanol ffyrdd. Y cyntaf ohonynt yw trwy gyfres o weithdai lle rydym yn trafod popeth sy’n ymwneud â hybu iechyd, sut y gallwn gynnwys negeseuon yn ein gwaith, meddwl am y cynulleidfaoedd y gallwn eu cyrraedd a’r rhai yr ydym am eu cyrraedd, a chynllunio camau gweithredu i bwysleisio’r negeseuon hyn.
Rydym hefyd yn gweithio gyda rhanbarthau ledled Cymru i archwilio sut y gellir cynnwys y negeseuon hyn yn y gwaith sy’n cael ei wneud mewn cymunedau. Mae hyn yn cynnwys cyfarfod ag arweinwyr cymunedol i nodi grwpiau o ddiddordeb posibl a sut y gellir lledaenu’r negeseuon hyn yn lleol.
Yn olaf, rydym yn bwriadu cynhyrchu ymgyrch genedlaethol a fydd yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r ffactorau risg i gynulleidfaoedd eang ac amrywiol ledled Cymru. Byddwn yn tynnu sylw at sut y gall pobl addasu eu hymddygiadau mewn perthynas â’r ffactorau risg. Mae hyn yn ei gamau cynnar o hyd, ond rydym yn awyddus i gynhyrchu’r gwaith hwn yn y dyfodol.
Mae gan y Gymdeithas Alzheimer’s nifer o adnoddau ar gael i’ch helpu i ddysgu mwy am leihau eich risg o ddementia. Gellir cyrchu’r rhain o: Risk factors for dementia | Alzheimer’s Society (Saesneg yn unig).