Croesawu ein cyfle newydd fel rhan o Weithrediaeth GIG Cymru

Gan Dominique Bird, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Gwella Ansawdd, Gwelliant Cymru


Dominique Bird

Yn nhirwedd ddeinamig gofal iechyd, nid dyhead yn unig yw ceisio ansawdd; mae’n hanfodol, mae’n effeithio ar iechyd a bywydau’r bobl rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw. Mae gofal o ansawdd a diogelwch cleifion yn sefyll fel conglfeini cenhadaeth GIG Cymru, gan ysgogi ymdrechion yn barhaus i wella gwasanaethau, lliniaru risgiau, a gwella canlyniadau cleifion. Mae’r ymgais ddi-baid hon am welliant yn gofyn am ddull cyfannol, un sy’n integreiddio trawsnewid technegol â thrawsnewid diwylliannol yn ddi-dor, gydag arweinyddiaeth yn chwarae rhan holl bwysig i alluogi gwelliant.

Ers dros 15 mlynedd, mae Gwelliant Cymru wedi darparu arbenigedd cenedlaethol i GIG Cymru i wella canlyniadau cleifion, meithrin capasiti a’r gallu i wella, a chreu’r amodau fel y gall gwelliant ffynnu.

Wrth i Gwelliant Cymru drosglwyddo i’r gyfarwyddiaeth Ansawdd, Diogelwch a Gwelliant o fewn Gweithrediaeth GIG Cymru, mae pennod newydd yn dechrau. Mae’r esblygiad hwn yn gyfle digynsail i ehangu ein cwmpas, gan hwyluso ymagwedd system gyfan at ansawdd, ailgyfeirio ein ffocws ar ddiogelwch cleifion, a meithrin cydweithrediad â phartneriaid eraill Gweithrediaeth y GIG i gryfhau’r system rheoli ansawdd. Mae integreiddiad cyfannol Gweithrediaeth y GIG o gynllunio ansawdd, sicrwydd a gwelliant wedi’i anelu at feithrin diwylliant o ddysgu parhaus—cam allweddol tuag at sicrhau gofal sy’n dosturiol, yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn deg.

Mae’r gyfarwyddiaeth newydd hon o fewn Gweithrediaeth GIG Cymru ar fin ymgorffori ansawdd, diogelwch a gwelliant yn rhan o hanfod y cymorth a ddarperir i GIG Cymru. Drwy hyrwyddo arweinyddiaeth systemau i hwyluso dysgu ar y cyd, mae ein strategaeth yn troi o amgylch y Fframwaith Ansawdd a Diogelwch, gan roi dysgu a gwelliant parhaus wrth ei wraidd.

Mae cylchoedd gwaith ansawdd, diogelwch a gwelliant yn enfawr ac yn rhyng-gysylltiedig, gyda’r nod o greu continwwm di-dor o ddata i wybodaeth, gwybodaeth i ymarfer, ac ymarfer i ddata—cylch dysgu gwastadol sy’n hanfodol ar gyfer esblygiad GIG Cymru yn system sydd wir yn dysgu.

Mae hyn yn cynnwys:

  1. Cynghori, dylunio, datblygu a darparu rhaglenni gwella ansawdd a diogelwch, wedi’u teilwra i gyd-fynd â’r blaenoriaethau a’r rhaglenni cenedlaethol ar draws Gweithrediaeth y GIG.
  2. Defnyddio metrigau diogelwch, hysbysiadau, rhybuddion a sicrwydd diogelwch o bob rhan o Weithrediaeth y GIG i nodi meysydd ar gyfer gwella diogelwch ar draws GIG Cymru a lleihau amrywiadau diangen.
  3. Cefnogaeth strategol i alluogi gweithredu Canllawiau Statudol y Ddyletswydd Ansawdd 2023 a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023. Gydag arweinyddiaeth genedlaethol wrth ddatblygu systemau rheoli ansawdd ar draws GIG Cymru

Wrth inni fanteisio ar y cyfle newydd hwn, mae ein hymrwymiad yn parhau’n ddiwyro—i feithrin diwylliant o ansawdd, i hyrwyddo diogelwch cleifion, ac i ysgogi gwelliant di-baid ar bob lefel. Trwy gydweithio ac ymroddiad cadarn i ddysgu, rydym yn rhagweld dyfodol lle mae gofal iechyd yng Nghymru yn gosod y safon ar gyfer ansawdd a thosturi. Rydym yn gwneud hyn ar gyfer pobl Cymru.