Beth yw elfennau allweddol system ddysgu a sut allan nhw helpu i wella gofal cleifion?

Gan Frank Federico, y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd


Mae Frank Federico yn uwch arbenigwr diogelwch cleifion ac yn aelod o gyfadran y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI). Mae’n fferyllydd o ran ei hyfforddiant ac mae wedi cyd-gadeirio llawer o fentrau cydweithredol IHI.

Pedair colofn y system ddysgu
Frank Federico – sesiwn ddysgu gyntaf yn y Grŵp Cydweithredol ar gyfer Gofal Diogel

Mae’r system ddysgu yn cefnogi dysgu cyflym a’r defnydd o ddata a dulliau gwella i ddileu diffygion a darparu’r gofal gorau posibl i gleifion. Dyma asgwrn cefn technegol Fframwaith ar gyfer Gofal Diogel, Dibynadwy ac Effeithiol y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd. Mae pedair elfen i’r system ddysgu:

  • tryloywder
  • dibynadwyedd
  • gwella a mesur
  • dysgu parhaus

Mae rhai pobl yn meddwl am ddysgu parhaus fel datblygu eu sgiliau eu hunain, eu sgiliau clinigol o bosibl, yn barhaus. Dysgu parhaus yw curiad calon sefydliad sy’n dysgu. Mae’n sicrhau bod dulliau gwella nid yn unig yn cael eu haddysgu ond hefyd yn cael eu hatgyfnerthu, ynghyd â mesurau ar gyfer gwella. Dysgu parhaus yw dysgu o’r hyn sydd wedi mynd yn dda, a hefyd yr hyn nad aeth yn dda, er enghraifft canlyniadau ymchwiliadau neu ddigwyddiadau y bu ond y dim iddynt ddigwydd. Mae hyn yn caniatáu ichi gael y prosesau a’r canlyniadau rydych chi eu heisiau. Mae’n rhaid i chi ddylunio prosesau sy’n ddibynadwy fel ein bod yn cael canlyniadau bob tro. Tryloywder yw’r gallu i rannu gwybodaeth, fel bod y rhai sydd yn y man lle rhoddir gofal yn gallu gweld eu perfformiad eu hunain a defnyddio data ar gyfer dysgu. Mae tryloywder hefyd yn cynnwys y gallu i bobl gael trafodaethau agored.

Mae timau ledled Cymru yn cael y cyfle i ddysgu sut i ddefnyddio a gwella eu systemau dysgu eu hunain drwy’r Gydweithredfa Gofal Diogel. Mae’r gydweithredfa yn darparu gwely profi a mecanwaith i dimau ddysgu sut i wella pethau a gwella eu system ddysgu.

Creu diwylliant sefydliad sy’n dysgu

Mae effeithiolrwydd y system ddysgu yn dibynnu ar amgylchedd galluogi sy’n hyrwyddo dysgu o ddata ansoddol a meintiol heb ofni barn na chosb. Mae arweinwyr ar bob lefel yn chwarae rhan ganolog wrth greu’r diwylliant hwn, gan ganiatáu i’r sefydliad sy’n dysgu ffynnu a meithrin amgylchedd lle mae gwybodaeth yn cael ei rhannu’n agored, ac mae trafodaethau wedi’u gwreiddio mewn ymrwymiad i wella.

Rôl arweinwyr

Ni fydd y system dysgu a gwella yn gweithio oni bai bod arweinwyr wedi ymrwymo i gefnogi dysgu ar bob cyfle. Rhaid i arweinwyr ddeall, annog a chymhwyso cysyniadau gwelliant, dibynadwyedd a dysgu parhaus yn llawn.

Mae angen deall bod y rhan fwyaf o gamgymeriadau yn systemig, felly mae angen dileu bai a chosb. Rhaid i arweinwyr osod y naws ac mae’n rhaid i dimau gwella fod yn fodlon rhannu data i ddysgu pan aiff rhywbeth o’i le; mae’n gyfle i ddeall pam.

Ffynonellau dysgu

Nid yw dysgu yn aros mewn gwagle.  Edrychwch ar amryw ffynonellau – data perfformiad a gweithredol, mewnwelediadau diwylliannol, data clinigol, a sgyrsiau. Mae angen ichi fanteisio ar y cyfoeth hwn o wybodaeth, gan annog timau i rannu data a gwersi a ddysgwyd yn dryloyw fel y gall dysgu ddigwydd.

Mae llwyddiant y system ddysgu yn dibynnu ar ei hintegreiddio’n ddi-dor i’ch gwaith. Mewn sefydliadau sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth gymhwyso eu system ddysgu, mae pobl yn ei ystyried yn ffordd o weithio yn unig. Mae’n ymwneud â chydnabod bod gwelliant yn rhywbeth cyson, ac nad yw’n golygu trwsio diffygion yn unig, ond ymdrechu i sicrhau effeithlonrwydd a rhagoriaeth ym mhob agwedd ar eich rôl.

Myfyriwch ar eich ymrwymiad i’r system ddysgu

Heriwch eich hun i gymhwyso dysgu parhaus, gwella a mesur, dibynadwyedd, a thryloywder yn eich gwaith bob dydd, ac ymrwymo i ddod yn gyfranogwr gweithredol yn y daith tuag at ofal mwy diogel, dibynadwy ac effeithiol.


Adnoddau