Diogelwch Gweithwyr Iechyd: Blaenoriaeth ar gyfer Diogelwch y Claf – Uned Gyflawni GIG Cymru
Thema eleni ar gyfer Dydd Diogelwch Cleifion y Byd yw lles a diogelwch gweithwyr gofal iechyd. Mae’n cydnabod fod gweithio mewn amgylcheddau straenus yn gallu achosi i weithwyr iechyd fod yn fwy tebygol i wneud camgymeriadau, sy’n gallu arwain at beri niwed i gleifion.
Mae Ansawdd a Diogelwch yn thema yn rhedeg drwy holl waith yr Uned Gyflawni; mae’r blog hwn rhannu esiamplau o sut ydym yn cyfrannu at ddiogelwch y claf a lleihau niwed mewn gwasanaethau gwahanol yn GIG Cymru.
Dyma fenter ddiweddar gan ein tîm Ansawdd a Diogelwch pwrpasol:
Mae’r Uned Gyflawni wedi sefydlu system gyfathrebu genedlaethol, Rhannu Cyflym o Ddysgu Cyfan Covid-19 (CoRSEL), i helpu Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yng Nghymru i rannu dysgu cynnar mewn perthynas â throsglwyddiad Covid-19 o fewn ysbytai. Mae peth o’r dysgu pwysicaf yn medru digwydd o fewn oriau neu ddyddiau o ddigwyddiad trosglwyddo ac felly mae’n bwysig fod sefydliadau’r GIG yn medru rhannu’r dysgu gyda’i gilydd, fel bod sefydliadau eraill yn medru cymryd camau i wneud gwelliannau lleol ble fo angen.
Weithiau ni fydd dysgu’n perthnasu i
ddigwyddiadau, ond gall fod yn syniadau/arferion da fod staff eisiau eu rhannu,
ond nid oes mecanweithiau cenedlaethol bob amser ar gyfer rhannu’r fath yma o
ddysgu. Rydym wedi dysgu gan staff tra bod dysgu cynnar yn cael ei rannu drwy
rwydweithiau personol a phroffesiynol, weithiau roedd y negeseuon yn cymryd yn
rhy hir i gyrraedd rhan gywir y sefydliad i wneud newidiadau effeithiol.
Roeddem eisiau sefydlu system un-stop y gall sefydliadau’r GIG ddibynnu arni er
mwyn rhannu eu dysgu cynnar, gan ddefnyddio mecanweithiau cyfathrebu
cenedlaethol sy’n bodoli’n barod ble fo’n bosibl.
Drwy CoRSEL, gall staff GIG gofnodi eu pwyntiau dysgu cynnar yn uniongyrchol i
mewn i fas data CoRSEL yr Uned Gyflenwi a gallwn ddefnyddio’r rhwydwaith
gyfathrebu bresennol ar gyfer Rhybuddion a Hysbysiadau Diogelwch Cleifion i
rannu dysgu yn ôl allan i Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd. Gall sefydliadau
unigol yna adolygu’r dysgu a phenderfynu os ydynt angen gwneud unrhyw
newidiadau lleol o ganlyniad.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â ni yma: PatientSafety.Wales@wales.nhs.uk
Gweithwyr iechyd diogel, Cleifion diogel
Mae yna gorff cynyddol o dystiolaeth i gefnogi newid trawsffurfiol mewn sut ydym yn asesu anghenion parhaus pobl sy’n cael eu rhyddhau ac i atal niwed y gellir ei osgoi oherwydd derbyniad estynedig i’r ysbyty.
Mae’r model Rhyddhau i Adfer yna Asesu (D2RA) ar gyfer Cymru wedi ei gynllunio i gynorthwyo pobl i adfer yn eu cartrefi cyn derbyn asesiad ar gyfer unrhyw angen parhaus, er mwyn:
- Osgoi dadgyflyru a cholli hyder yn yr ysbyty;
- Lleihau dinoethiad i risg heintiau gan gleifion mewnol;
- Mwyhau adferiad ac annibyniaeth;
- Lleihau tros-ragnodi o wasanaethau statudol i fod ‘ar yr ochr ddiogel’;
- Darparu trosglwyddiad di-dor.
Gellir ond cyflenwi’r model hwn yn ddiogel os yw’r gwasanaethau cymunedol cywir yn eu lle ac ein bod yn rhannu ein dysgu. Mae’r Uned Gyflawni yn hwyluso Cymuned o Arfer ar gyfer ‘Gwasanaethau Cymunedol o Faint Cywir ar gyfer Rhyddhau’, wedi ei gysylltu i’r gydweithrediaeth modelu cenedlaethol. Mae hefyd yn cyd-hwyluso’r Arfer Cymunedol Adre o’r Ysbyty gyda Rhaglen Drawsffurfio Llywodraeth Cymru.
Os oes diddordeb gennych mewn dysgu mwy / cymryd rhan, yna cysylltwch â: lynda.chandler@wales.nhs.uk
Mae COVID-19 wedi arwain at amseroedd aros hirach ar gyfer cleifion. Mae’r Uned Gyflawni yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd i helpu clinigwyr i adnabod cleifion sydd mewn risg o niwed ar restrau aros a’u blaenoriaethu hwy ar gyfer triniaeth. Mae’r Uned Gyflawni a Llywodraeth Cymru yn cynnal gweithdy rhithwir ar gyfer clinigwyr a rheolwyr ar draws Cymru i rannu dysgu o waith sydd wedi ei ymgymryd yn barod a chytuno ar egwyddorion i ddatblygu system wedi’i harwain yn glinigol ac yn seiliedig ar risg, ymhellach.
Mae hyn yn rhan o raglen ehangach o waith gyda’r bwriad o arwain at lai o amser aros a mwy o opsiynau triniaeth wedi’i dargedu ar gyfer cleifion, gan gynnwys optimeiddio ffitrwydd cleifion cyn llawdriniaeth a darparu cymorth a thriniaethau amgen dichonol i gleifion.
Mae’r Uned Gyflenwi yn cynnal y Grŵp Dysgu o Ddigwyddiadau Difrifol ac Anffafriol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, sydd yn grŵp cydweithredol sydd yn cael ei gadeirio mewn dull cylchdroadol gan Grŵp Cynghorol Uwch-nyrsys Iechyd Meddwl Cymru Gyfan. Mae aelodaeth yn cynnwys staff iechyd meddwl uwch o’r GIG ar draws ystod o ddisgyblaethau, Gwelliant Cymru a Llywodraeth Cymru.
Nod y grŵp hwn yw gwella gallu ein systemau i goladu, rhannu a chyflenwi gwell dealltwriaeth o ddigwyddiadau anffafriol ar gyfer defnyddioldeb mwy effeithiol, yn enwedig atal digwyddiadau ble fo hyn yn bosibl ac felly, i wella diogelwch y claf. Mae’r grŵp yn darparu fforwm diogel chwarterol ar gyfer aelodau i rannu dysgu o ddigwyddiadau difrifol lleol.
Mae’r fforwm hwn wedi parhau’n llwyddiannus fel cyfarfod rhithwir yn ystod y pandemig COVID-19. Mae’r grŵp hwn hefyd yn gosod yr agenda ar gyfer ac yn hwyluso digwyddiad addysgu cenedlaethol blynyddol, gan dynnu ar ddysgu ehangach o astudiaethau academaidd a lleol, a chyfleoedd gwella yn perthnasu i reolaeth Digwyddiadau Difrifol ac Anffafriol o fewn iechyd meddwl.