Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd 2020 – John Boulton, Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru

John Boulton

Heddiw yw Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd Sefydliad Iechyd y Byd. Ar hyn o bryd, mae diogelwch cleifion yn ennyn mwy o sylw nag erioed o bosib, o ystyried yr angen i ni ddiogelu cleifion rhag niweidiau COVID-19. Mae tynnu sylw at Ddiwrnod Diogelwch Cleifion y Byd, felly, yn teimlo’n amserol.

Thema Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd Sefydliad Iechyd y Byd eleni yw diogelwch staff er mwyn diogelwch cleifion. Cydnabyddir yn fwyfwy fod cysylltiad mawr rhwng diogelwch y claf a diogelwch yr aelod staff. A dyma’r rheswm pam mae systemau iechyd gorau/mwyaf diogel y byd yn aml yn rhoi pwyslais cyfartal ar y claf a’r aelod staff.

Hyd yn oed heb bresenoldeb pandemig, mae risg uchel, galw uchel a straen uchel ynghlwm wrth ofal iechyd, gyda staff yn aml yn gweithio mewn amgylcheddau prysur sy’n anodd yn gorfforol ac sy’n gofyn am ganolbwyntio parhaus. Yn ogystal, mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn hunanaberthu yn aml, gan roi diogelwch a llesiant y claf uwchlaw rhai eu hunain. Er bod hyn yn gymeradwy, mae’n ein hamlygu at y perygl o gael haint, anaf corfforol, blinder, gorweithio a phroblemau seicolegol. Mae’r rhain yn amlygu eu hunain mewn sawl ffordd, ac yn aml dros amser. Ond fel y disgrifir yn fwyfwy, mae’r niweidiau hyn ymysg grwpiau staff yn gysylltiedig â lefelau cynyddol o niweidiau ymysg cleifion. Felly, mae sicrhau diogelwch a gwytnwch sefydliad a’r gweithlu yn rhag-amod gofynnol ar gyfer datblygu diogelwch cleifion.

Bu’r chwe mis diwethaf yn ymdrech wirioneddol anferthol gan staff iechyd a gofal er mwyn ceisio cyflawni hynny. Ac wrth i gyfnod y gaeaf brysur agosáu, bydd angen rhoi’r un ymdrech, os nad mwy. Fodd bynnag, mae ein hymdrechion i greu mannau sy’n rhydd rhag COVID-19 yn ychwanegol at yr holl waith diogelwch sy’n parhau i fod yn hanfodol. Mae heintiau a gaiff eu dal mewn safleoedd gofal iechyd, briwiau pwyso, diogelwch meddyginiaethau, dirywio acíwt a chwympo ac ati, yn parhau i fod yn faterion pwysig y mae angen mynd i’r afael â nhw o hyd trwy systemau gofal iechyd.

Cyn cyfnod y gaeaf, mae angen i ni sicrhau ein bod yn canolbwyntio’n fwyfwy ar ddiogelwch a llesiant staff wrth i ni barhau i ganolbwyntio ar ddiogelwch cleifion. Gallai’r llwyth gwaith a’r baich ychwanegol fod yn sylweddol ac rydyn ni i gyd yn gweithio i sicrhau bod y mecanweithiau a’r seilwaith cefnogi ar waith i wneud yn siŵr bod staff yn cael eu cadw’n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys enghreifftiau megis:

  • cyflenwadau gwydn o gyfarpar diogelu personol
  • digon o gyfleusterau golchi dwylo
  • trefniadau gweithlu effeithiol
  • rhaglenni brechu rhag y ffliw

Rwy’n gobeithio y byddwn ni i gyd yn aros yn ddiogel yn y misoedd i ddod, gan helpu ein cydweithwyr a’n cleifion i gyflawni’r canlyniadau gorau posib.