Defnyddio newid ymddygiad yn ymarferol i gefnogi lleihau trosglwyddiad nosocomiaidd COVID-19 gan Lisa Fabb, Arweinydd Rhaglen Interim – Gwella Diogelwch Cleifion Cymru

Rydyn ni bellach yn nhrydedd wythnos 2021 ac, i fod yn onest, rwy’n ei chael hi’n anodd glynu wrth fy adduned Blwyddyn Newydd o redeg deirgwaith yr wythnos. Rwy’n meddwl yn ôl i’r adeg roeddwn i ar fy mwyaf heini, pan oedd ymarfer corff yn hawdd. Pam oeddwn i’n gallu gwneud ymarfer corff bryd hynny ond rwy’n cael trafferth nawr? Ychydig cyn fy mhen-blwydd yn 40 mlwydd oed, penderfynodd rai mamau o’r ysgol (a oedd hefyd yn nesáu at benblwyddi cerrig milltir) a minnau ein bod ni am redeg marathon (ar yr adeg cyn COVID-19).  Roedd ein hamserlenni’n cyd-fynd ac roedd yn hawdd dod o hyd i amser i redeg. Roeddwn i’n dwlu cael sgwrs a rhedeg gyda ffrindiau da, ac roedd yn ddigwyddiad cymdeithasol. Roedd yn amserol, cyn pen-blwydd carreg filltir, a wnaeth wir fy ngwthio i i gyflawni rhywbeth. Ar ôl dysgu rhagor am newid ymddygiad, rwy’n sylweddoli nawr bod ‘Hawdd’, ‘Amserol’ a ‘Cymdeithasol’ yn dair o bedair rhan o “EAST Four simple ways to apply behavioural insights”  

Clywais am wyddoniaeth newid ymddygiad i ddechrau pan ddois i Gwelliant Cymru. Mae’n offeryn a gaiff ei ddefnyddio’n gyson yn y pecyn cymorth i wellhawyr. Cafodd hyn ei ddisgrifio i mi fel ‘gwneud y peth iawn yn beth hawdd ei wneud’.

Pan gawsom y cyfle i weithio gyda Phrifysgol Birmingham a thîm newid ymddygiad yr Academi Gwelliant, gwnaethom fachu ar y cyfle – roeddent wedi gweithio ar atal a rheoli heintiau cyn hyn gyda chryn lwyddiant.

Roeddem yn ddigon ffodus i allu cynnal dosbarth meistr ar-lein yn rhad ac am ddim (recordiad ar gael yma) gyda Phrifysgol Birmingham a’r Academi Gwelliant i siarad am ddefnyddio gwyddoniaeth newid ymddygiad yn ymarferol, er mwyn cefnogi lleihau trosglwyddiad nosocomiaidd COVID-19. Roedd yn sesiwn ryngweithiol a oedd ar agor i bawb, a gwnaethom archwilio’r ystod eang o ffactorau sy’n dylanwadu ar ein hymddygiadau ymarfer clinigol a’r dull ar gyfer dewis technegau sy’n cefnogi’r ymarfer gorau posibl yn y modd mwyaf effeithiol. Cafodd y rhwystrau rhag defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) yn gywir eu trafod fel enghraifft ymarferol.

Mae’r dosbarth meistr hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Dr Judith Dyson, Nyrs Gyffredinol ac Iechyd Meddwl a Seicolegydd Iechyd Siartredig, Darllenydd mewn Ymchwil Gofal Iechyd a Gwyddoniaeth Gweithredu ym Mhrifysgol Dinas Birmingham ac Arbenigwr Newid Ymddygiad yr Academi Gwelliant.

Gwnaethom drafod sut rydym yn tueddu i fod yn well yn rhoi arweiniad a rhannu gwybodaeth ym maes gofal iechyd, ond heb fod cystal yn deall pam rydym yn ymddwyn neu ddim yn ymddwyn yn y ffordd ‘iawn’ – mae rhagor o ddeunyddiau darllen ar gael yma.

Yn ogystal, cafodd trafodaethau eu cynnal ynghylch beth yw ‘penderfynyddion yr unigolyn’, gan deilwra’r strategaethau newid i gyd-fynd â’r penderfynyddion hynny a sicrhau dull damcaniaethol ar gyfer asesu. Mae hyn yn sicrhau bod y strategaethau a gaiff eu dewis yn effeithiol, fel cael negeseuon atgoffa syml yn y lle iawn neu ymarfer gweithredoedd mewn efelychiadau. Diolch i bawb a gyfrannodd at y sesiwn. Roedd yn wych clywed yr enghraifft ymarferol a dysgu rhywfaint am y theori y tu ôl i’w llwyddiant.

Rydym yn gwybod bod ein cydweithwyr yn y GIG wedi cael blwyddyn anodd iawn a, nawr yn fwy nag erioed, mae angen i ni sicrhau bod diogelwch yn hawdd.

Darganfyddwch ragor drwy wylio’r recordiad o’r dosbarth meistr yma. Dilynwch ein cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth am y sesiynau yn y dyfodol.