Blwyddyn yn ddiweddarach: Diweddariad gan Anabledd Dysgu Cymru gan Dr Rachel Ann Jones C.Psychol AFBPsS, Arweinydd y Rhaglen Anableddau Dysgu Genedlaethol
Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn hollol ddigynsail i ni i gyd.
Os awn yn ôl ddeuddeng mis, roedd ein tîm a oedd newydd gael ei sefydlu yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â channoedd o unigolion sy’n gysylltiedig â gwasanaethau anableddau dysgu ledled Cymru. Teithiodd Sharon, Ruth, Bethany, David, Paula a minnau ar hyd a lled Cymru i gwrdd â phob un ohonoch chi.
Diolch i bob un ohonoch a fynychodd ac a gyfrannodd yn y digwyddiadau hyn. Y nod oedd hyrwyddo a chydweithio ar y rhaglen waith fwyaf yr oedd gwasanaethau anableddau dysgu wedi’i phrofi mewn dros genhedlaeth.
Roeddem am i’r digwyddiadau hyn sefydlu perthnasoedd allweddol er mwyn galluogi cyflawni’r camau iechyd sy’n ofynnol yn y Rhaglen Gwella Bywydau. Gallaf gofio’n dda iawn yr egni amlwg, y syniadau arloesol, y cwestiynau anodd ac, yn y pen draw, y penderfyniad i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru.
Yn y digwyddiadau hyn, gwnaethom ffurfio cysylltiadau a chasglu data cadarn yr oeddem wedyn yn bwriadu eu defnyddio wrth ddatblygu ein cynllun gwaith. Roedd yr wybodaeth o’r digwyddiadau hyn hefyd i fod yn ganolbwynt i Gydweithrediaeth Arweinwyr Anabledd Dysgu cyntaf Cymru ym mis Mawrth 2020.
Yna daeth COVID-19.
Fel rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), newidiodd ein blaenoriaeth i fod yn rhan o’r ymateb cenedlaethol i COVID-19. Canslwyd Cydweithrediaeth yr Arweinwyr. Gohiriwyd ein rhaglen Anableddau Dysgu yn Llywodraeth Cymru dros dro ac ni chafodd ei hailgychwyn tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ar yr adeg honno, cafodd y rhaglen ei hailffocysu ac, wrth gwrs, roedd yn dal i weithredu o fewn cyfyngiadau’r sefyllfa sy’n newid yn barhaus yn sgil COVID-19.
Trwy gydol y pandemig, mae staff y tîm wedi cael eu hadleoli i amrywiaeth o rolau sy’n gysylltiedig â COVID-19, gan gefnogi a thynnu sylw at anghenion pobl ag anableddau dysgu lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Rydym hefyd wedi gallu datblygu agweddau ar y cynllun gwaith, gan gynnwys y gwaith hollbwysig ar y Proffil Iechyd, offeryn diogelwch cleifion unwaith dros Gymru, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n werthfawr i oedolion a phlant. Rydym wedi bod yn adolygu ac yn adrodd ar y data marwolaethau ar gyfer ein poblogaeth. Rydym hefyd wedi creu cyfres o lyfrynnau hunangymorth dwyieithog a ddatblygwyd i gefnogi pobl ag anableddau dysgu yn ystod yr achosion o COVID-19, er mwyn iddynt siarad am eu teimladau a gwneud cynlluniau ar gyfer aros yn iach.
Mae’r gwaith hwn a gwaith arall bellach ar-lein ac rydym yn eich annog i edrych ar ein gwefan. Bydd hwn yn lle allweddol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgarwch a gwybodaeth am ein hystod o ddigwyddiadau a rhestrau dosbarthu.
Rydym yn cysylltu nawr, ddeuddeng mis ers ein hymgysylltiad cyntaf, i gynnig sicrwydd bod gwaith yn dal i ddigwydd mewn perthynas â’n rhaglen waith. Efallai bod COVID-19 wedi newid ein llwybr rhywfaint ond mae’r egni a’r penderfyniad a oedd yn gyffredin rhyngom ni i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru yn parhau i fod yn gryf. Mae croeso i chi gysylltu â ni.