Sut mae Proffil Iechyd Unwaith i Gymru yn helpu i wella cysondeb, diogelwch ac amseroldeb gofal iechyd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, gan Paula Phillips, Uwch Reolwr Gwella

Fel nyrs anableddau dysgu, rwyf wedi bod yn dyst i’r anawsterau y mae pobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd yn eu hwynebu wrth geisio cyfleu symptomau salwch neu wrth ddeall prosesau wrth gael mynediad at systemau gofal iechyd. Rwyf hefyd wedi bod yn dyst i’r anawsterau y mae staff gofal iechyd yn eu hwynebu wrth allu gwneud addasiadau rhesymol i rywun pan nad yw’n deall sut i gyfathrebu orau gyda nhw neu sut y gallai’r amgylchedd iechyd fod yn orgynhyrfiol.

Pan fydd pobl ag anabledd dysgu yn ymweld ag ysbyty neu leoliad meddygol, mae cyfathrebu yn rhwystr allweddol. Gall pobl gael anawsterau wrth fynegi eu hunain a gall hyn olygu bod oedi wrth roi gofal neu nad ydynt yn derbyn y gofal y mae ei angen arnynt.

Mae’r heriau y mae’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau gofal iechyd yn eu hwynebu yn ystod pandemig COVID-19 yn ei gwneud yn bwysicach nag erioed ein bod yn sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn derbyn gofal diogel, cyson a theg.

Mae Proffil Iechyd Unwaith i Gymru (Proffil Iechyd) yn helpu i fynd i’r afael â hyn drwy ddarparu gwybodaeth allweddol ar gyfer staff gofal iechyd. Mae’n un offeryn a ddefnyddir ledled Cymru a gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ei adnabod yn glir.  Mae’n cynnwys gwybodaeth bersonol y gall pobl ag anableddau dysgu ei chael yn anodd ei chyfathrebu, megis hanes meddygol, cysylltiadau brys a gwybodaeth am sut i gyfathrebu orau â nhw a’u cefnogi orau. Ei fwriad yw bod yr unigolyn yn berchen arno a gall dderbyn cymorth i’w lenwi.

Mae gan rai pobl ag anableddau dysgu offer cyfathrebu iechyd eisoes a byddant yn ymwybodol o’r ‘pasbort ysbyty’ neu’r ‘ffurflenni goleuadau traffig’ cyfredol.  Datgelodd adolygiad (Northway et al, 2017) fod nifer o fathau gwahanol o offer cyfathrebu iechyd yn cael eu dosbarthu a’u bod yn amrywio’n sylweddol o ran dyluniad, cynnwys a hyd. Roedd hyn yn golygu nad oeddent mor effeithiol ag y gallent fod a bod gwybodaeth allweddol yn cael ei cholli.

Ar ran Llywodraeth Cymru, aeth Gwelliant Cymru ati i ddatblygu’r Proffil iechyd, a fyddai’n cynnwys yr holl wybodaeth allweddol y dylai staff ar draws maes gofal iechyd a chymunedau fod yn ymwybodol ohoni. Un ffurflen i’w defnyddio ledled Cymru, ar draws yr holl leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Gwnaethom gomisiynu Prifysgol De Cymru i ymchwilio i’r wybodaeth allweddol y mae ei hangen mewn offeryn cyfathrebu iechyd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, gan gynnwys ei hyd a’r fformat gorau posibl.  Roedd rhanddeiliaid allweddol yn rhan o’r ymchwil hon, ynghyd â grwpiau ffocws penodol â phobl ag anableddau dysgu, lle datblygwyd deunyddiau hawdd eu darllen fel y gallai pobl roi adborth ar yr hyn roeddent yn teimlo oedd yn bwysig ei gynnwys. Yna, gwnaethom ddefnyddio’r ymchwil hon i ddatblygu’r Proffil Iechyd, y gellir ei ddefnyddio ym mhob ymweliad iechyd ac ymweliad yn y gymuned, gan gynnwys ymweliad ag ysbyty, practis meddyg teulu, practis deintyddol, optegydd, gofal cymdeithasol a chanolfan frechu COVID-19.

Datblygwyd canllawiau i gyd-fynd â’r Proffil Iechyd ar gyfer pobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a gofalwyr cyflogedig, er mwyn deall sut i’w gwblhau.  Yn ogystal, mae canllawiau i weithwyr iechyd proffesiynol ddeall sut y dylid ei ddefnyddio.

Ein nod yw sicrhau bod pawb ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr cyflogedig, yn deall manteision y Proffil Iechyd, a bod yr holl ddarparwyr gofal iechyd yn gwneud y gorau o’r offeryn hwn a’u bod yn ei ddefnyddio i wella’r gwasanaeth maent yn ei ddarparu i bobl ag anabledd dysgu.

Heddiw, rydym yn lansio ymgyrch ddigidol i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r Proffil Iechyd ymysg pobl ag anableddau dysgu.  Rydym yn gofyn i bobl ag anabledd dysgu a/neu eu teuluoedd neu eu gofalwyr cyflogedig lawrlwytho, cwblhau a defnyddio’r Proffil Iechyd ar gyfer eu holl ymweliadau â staff iechyd ac ymweliadau yn y gymuned yn y dyfodol. 

Ar gyfer pobl sydd eisoes yn defnyddio offeryn cyfathrebu, megis y ‘pasbort ysbyty’ neu’r ‘ffurflen goleuadau traffig’, pan ddaw’r amser i adolygu’r rhain, byddwn yn gofyn iddynt lawrlwytho a chwblhau’r Proffil Iechyd a pharhau i ddefnyddio hwn yn hytrach na’r ffurflen flaenorol.

Darganfyddwch ragor am lawrlwytho, cwblhau a defnyddio’ch Proffil Iechyd eich hun:

Oedolion ag anabledd dysgu

Plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu

Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol am y Proffil Iechyd