Cefnogi Cartrefi Gofal i Ymgorffori Gwelliant gan Rosalyn Davies, Arweinydd Rhaglen, Cartref Gofal Cymru, Gwelliant Cymru

Ni ellir pwysleisio ddigon effaith sylweddol y pandemig ar y sector gofal.  Arweiniodd COVID19 at nifer o farwolaethau mewn cartrefi gofal ledled y DU a fu’n aruthrol i drigolion, eu teuluoedd, gofalwyr a’u cymunedau lleol. Mae llawer o drigolion a staff wedi colli cyfeillion a chydweithwyr ac nid ydym yn sylweddoli effaith emosiynol hyn yn llawn eto. Trawsnewidiwyd bywyd mewn cartref gofal ac mae beichiau’r pandemig wedi arwain at lawer o newidiadau.

Cafodd COVID19 effaith sylweddol ar gynnydd ein rhaglen tair blynedd i gefnogi Cartrefi Gofal yng Nghymru i ddysgu, gweithio a phrofi sgiliau a gwybodaeth gwella. Mae hyn yn golygu y byddwn yn parhau i ddarparu hyfforddiant i’r cartrefi gofal sy’n weddill y dechreuon ni weithio gyda nhw cyn y pandemig hyd y flwyddyn nesaf.  Wrth i ni ddechrau dod allan o’r pandemig, mae amser i fyfyrio a sylweddoli’r hyn ‘ddigwyddodd mewn gwirionedd’ ac edrych yn ôl ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni.

Yn ystod y deunaw mis diwethaf, mae Gwelliant Cymru wedi gallu darparu’r posibilrwydd o gefnogaeth i’r sector gofal gyda’r gwaith sydd wedi’i alinio i flaenoriaethau COVID19 Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ar ddechrau’r pandemig, ac mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru ac Age Cymru, sefydlwyd platfform o gymorth gan gymheiriaid gennym ar gyfer rheolwyr cartrefi gofal.  Gelwir hyn yn ‘Cwtch’ a’i ddiben oedd cefnogi cartrefi gofal ledled Cymru i reoli’r gweithgareddau dyddiol yn y cartref yn ystod y pandemig trwy rannu dysgu gan ddarparwyr gofal eraill. Helpodd y rhwydwaith trwy rannu atebion ymarferol o ddydd i ddydd, datrys problemau er mwyn cefnogi gwelliannau ac arloesi, yn ogystal â chynnig goruchwyliaeth gan gymheiriaid i staff o fewn y sector. A phrif ddiben y cyfan oedd cael gwell canlyniadau ar gyfer eu trigolion a’u staff.  Yn ychwanegol i hyn, gofynnodd rheolwyr cartrefi gofal am dameidiau o wybodaeth am amrywiaeth o bynciau ar gyfer dysgu estynedig i’w staff.  Mewn ymateb, datblygodd y tîm blatfform dysgu ar gyfer Datblygu Gwybodaeth a Sgiliau gyda themâu wedi’u dewis gan y sawl fu’n mynychu. Erbyn diwedd mis Mai eleni, symudwyd cefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer ‘Cwtch’ i ofal Gofal Cymdeithasol Cymru gan ei fod yn cyd-fynd yn dda â’i brif flaenoriaethau. Rydym yn ystyried gweithio mewn partneriaeth yn fwy aml wrth i ni fynd yn ein blaenau.

Lansiwyd Ap Digidol a Gwefan Cartref Gofalym mis Mawrth 2021 a hyd yma mae dros 284 o aelodau wedi ymuno a rhyngweithio dros 7900 o weithiau.  Mae defnyddwyr yr ap wedi croesawu’r cyfle o gael un man i ddod o hyd i wybodaeth hygyrch.  Mae’r ap digidol wedi rhoi’r cyfle i gysylltu mewn ‘amser real’ gyda staff rheng flaen.  Er enghraifft, gallwn anfon hysbysiadau gwthio amserol i ddefnyddwyr yr ap cartref gofal. 

Er gwaetha’r seibiant yn y ddarpariaeth o’r ‘agenda gwella’, mae cartrefi gofal wedi defnyddio’r sylfaen wybodaeth am wella o hyd yn ystod y pandemig, er nad mewn modd ffurfiol.  Daeth enghraifft wych o hyn o waith mewn nifer o gartrefi gofal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Cafwyd gwaith i leihau’r amser prosesu ar gyfer samplu a phrofi eu staff yn wythnosol yn llwyddiannus. Gwnaed hyn trwy wrando ar awgrymiadau gan staff canolfannau profi, defnyddio offer gwella a ddysgwyd i’r tîm yn flaenorol a chyflawni cylchoedd CGAG ar bob prawf wythnosol. Rydym yn edrych ymlaen at ddarparu hyfforddiant Gwelliant Ymarferol yn y cartrefi gofal sy’n weddill a ddechreuodd yr hyfforddiant cyn y pandemig, fel y gallant ddefnyddio’r sgiliau hyn yn y dyfodol hefyd.  

Mae cydweithio gyda chartrefi gofal oedd yn dymuno cael ein hyfforddiant Gwelliant Ymarferol wedi dangos bod angen canolbwyntio ar yr hyn sy’n gweithio’n iawn. Yn ogystal, mae angen dysgu o’r hyn sy’n mynd o’i le er mwyn cynyddu rhagweithgarwch trwy greu system ar gyfer dysgu.  Mae cydnabod bod diogelwch yn fwy nag absenoldeb niwed corfforol; mae hefyd yn ymwneud ag urddas a thegwch.

Wrth edrych i’r dyfodol, mae’r angen am ofal preswyl a gofal nyrsio yn cynyddu yng Nghymru.  Mae angen gwell cymorth ar bobl sydd ag anghenion gofal gyda chynnydd mewn cyflyrau iechyd cymhleth. Felly mae’n hawdd gweld sut mae’r strategaeth Gwelliant Cymru newydd rydym yn ei datblygu i gefnogi diogelwch cleifion dros y pum mlynedd nesaf yr un mor berthnasol i’r sector ag y mae mewn ysbytai. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi’r gwaith o’i darparu yn y dyfodol.

Bydd ein strategaeth newydd yn cael ei lansio ar 17 Medi, Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd.  Dilynwch ein sianeli i gael y diweddariadau diweddaraf.