Gothenburg, IHI, ‘Fika’ a fi: Dysgu o’r Fforwm Rhyngwladol ar Ansawdd a Diogelwch mewn Gofal Iechyd
Gan Dr Rachel Ann Jones C.Psychol AFBPsS, Arweinydd y Rhaglen Anableddau Dysgu Genedlaethol.
Cafwyd llawer o negeseuon pwerus trwy gydol y Fforwm Rhyngwladol ar Ansawdd a Diogelwch mewn Gofal Iechyd yn Gothenburg y mis Mehefin hwn. Ond pe bai’n rhaid i mi grynhoi’r gynhadledd dridiau mewn un gair, “tillsammans” yw hynny. Gair Swedeg sy’n golygu’n fras; gyda’n gilydd, mewn perthynas, law yn llaw, mewn un lle, ar y cyd, mewn cydweithrediad.
Mae’n dipyn o beth i brofi uno ychydig o filoedd o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob cwr o’r byd mewn un lle gyda phwrpas unigol a rennir: trafod gwella gofal iechyd gan ‘Creu Yfory Heddiw’ – thema’r gynhadledd.
Roedd COVID-19 yn gefndir unigryw i’r digwyddiad, y gynhadledd wyneb yn wyneb gyntaf i lawer o fynychwyr. Cawsom ein gwahodd, gyda thosturi, ‘i ddringo allan o deils 2D a bod y person 3D yr ydym mewn gwirionedd’. Disgrifiwyd y pandemig fel un sy’n cynyddu’r ymdeimlad cyfun o boblogaeth y byd ond hefyd i’r proffesiwn iechyd a gofal a’i brofodd trwy lens wahanol. Nid oedd hynny’n fwy amlwg na phan oeddwn yn rhannu trafodaeth am yr ymateb i’r pandemig gyda nyrsys o wahanol wledydd; heb fawr o iaith gyffredin heblaw dagrau. Dim ond drwy glywed hanes gwaith gwella gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar y rheng flaen yn Wcráin y cyfatebwyd pŵer y sesiwn hon.
Er gwaetha’r cyd-destunau hyn, roedd y gynhadledd yn taro naws ddyrchafol, oedd yn grymuso ac yn canolbwyntio ar y dyfodol. Roedd y bleser pur o ymgysylltu â chydweithwyr yn bersonol yn amlwg a rhannu ‘fika’, egwyl coffi Sweden ac amser myfyrio, yn aml yng nghwmni cacen sinamon! Roedd y gwyddor gwelliant yn doreithiog, yn enwedig yn y sesiwn ddiddorol a gafodd ymateb da dan arweiniad ein Hathro John Boulton a Kate MacKenzie ni mewn perthynas â gwneud i ‘ddata gyfri’. Roedd data’n cyfrif, wrth iddyn nhw lenwi’r awditoriwm.
Disgrifiwyd thema tegwch fel un sydd wedi’i thynnu o’r “blwch rhy anodd” o’r diwedd, fel y dangosir gan yr agenda, mêl ar fysedd rhywun sy’n gweithio’n bennaf ym maes anghydraddoldebau iechyd. Hefyd wedi’i ysgythru trwy gydol y gynhadledd oedd y thema o gyd-gynhyrchu. Yn ganolog i’r dull Swedeg roedd partneriaeth ystyrlon, gyfartal a dwyochrog â chleifion yn enwedig wrth ymgymryd â gwaith gwella. Y rhagdybiaeth oedd ein bod yn gwneud ein gilydd yn llwyddiannus ac rydym yn gwneud ein gwaith gorau pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd. Cynhyrchwyd y weledigaeth genedlaethol glir o ofal iechyd ar gyfer Sweden ar y cyd.
Tillsammans oedd yr edefyn aur yn ystod y tri diwrnod. O werth mawr i mi oedd gadael gyda mwy o ymdeimlad o gysylltiad â’r tîm y teithiais gyda nhw o Gymru, nad oeddwn wedi cwrdd â llawer ohonyn nhw wyneb yn wyneb, rhywbeth y gwyddwn ei fod yn effeithio’n gadarnhaol ar gynhyrchiant, ymhlith pethau eraill. Ond hefyd teimlad o gydweithrediad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol rhyngwladol oedd yn bresennol. O ystyried bod pobl ac adferiad y gwasanaeth mor gysylltiedig, a bod adferiad yn berthynol, mae mynychu’r digwyddiad hwn yn ei rinwedd ei hun wedi teimlo fel ymyriad gwella i’r tîm.
Trefnir y Fforwm Rhyngwladol ar Ansawdd a Diogelwch mewn Gofal Iechyd ar y cyd gan y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI) a BMJ ac mae’n un o’r cynadleddau rhyngwladol mwyaf sy’n canolbwyntio ar yrru gwell ansawdd iechyd a gofal a diogelwch cleifion. Cynhelir digwyddiad y flwyddyn nesaf yn Copenhagen ar 15-17 Mai .