Prosiect Ysbrydoledig sy’n ceisio helpu pobl sy’n aros am ymyriadau seicolegol
Mae’r cyfnod rhwng atgyfeirio, asesu a chael cynnig ymyriad yn gallu bod yn anodd a phryderus iawn i’r rhai sy’n aros am ofal ac i’w teuluoedd.
Y llynedd, daeth grŵp gweithredol o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol a chydweithwyr yn y trydydd sector yng Nghymru ynghyd i weld a allen nhw ddod o hyd i atebion i helpu pobl wrth iddyn nhw aros am ymyriad seicolegol. Trwy eu gwaith, roedden nhw’n ymwybodol iawn o’r teimladau o unigrwydd ac anobaith a deimlir gan lawer sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd tra ar restr aros am driniaeth. Roedd y tîm eisiau canfod pa gymorth pendant y gellid ei gynnig er mwyn gwneud y cyfnod aros yn llai anodd. Roedd eu cais i Gyfnewidfa Q am gyllid i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn yn llwyddiannus a daeth y prosiect ‘Aros cystal â phosibl’ i fodolaeth.
Y syniad yn gryno
Mae’r peilot hwn yn digwydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM). Yn ganolog i brawf newid y prosiect y mae penodi dwy rôl newydd i dîm lleol – Gweithiwr Cymorth Cyfoedion a Seicolegydd Cynorthwyol.
Rôl y Gweithiwr Cefnogi Cyfoedion yw rhoi cefnogaeth unigol i nifer gytunedig o bobl ar restr aros am ymyriad seicolegol. Nod y prosiect yw darparu gwasanaeth wedi’i deilwra er mwyn bodloni anghenion yr unigolyn, ac mae’r tîm wedi bod, ac fe fyddan nhw’n dal i ymgysylltu â phobl sy’n aros a’r staff sy’n gweithio gyda nhw ar ôl iddyn nhw gael eu gweld. Bydd y gwasanaeth hwn yn parhau yn ystod y broses hon. Nod cyffredinol y prosiect yw helpu pobl ar y rhestr aros hon i gadw cystal â phosibl wrth iddyn nhw aros am ymyriad.
Mae’r tîm yn falch o gyhoeddi bod Gweithiwr Cefnogi Cyfoedion bellach wedi’i benodi ac y bydd yn dechrau ar y gwaith yn fuan.
Cymuned Cyfnewidfa Q
Ni fyddai wedi bod yn bosibl i’r tîm, dan arweiniad Dr Andrea Davies, Pennaeth Seicoleg Iechyd Meddwl BIPCTM ac Andrea Gray, Arweinydd Datblygu Iechyd Meddwl Gwelliant Cymru, ddechrau ar y daith hon heb gyllid gan Gyfnewidfa Q y Sefydliad Iechyd. Mae aelodau’r prosiectau llwyddiannus yn cydweithio i ddatblygu syniadau prosiect sydd â’r potensial i gael effaith ar draws y system iechyd a gofal. Mae bod yn rhan o Gyfnewidfa Q wedi golygu bod y tîm wedi cael mynediad at gefnogaeth barhaus gan Q yn ogystal ag arbenigedd wrth werthuso canlyniadau.
Mae cymuned Cyfnewidfa Q yn lle gwych i bartneru â gweithwyr iechyd proffesiynol ledled y Du sy’n wynebu heriau tebyg i wella’r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd.
Cyfnewidfa Q 2024 – Cyflwyno eich ceisiadau am gyllid nawr
Gyda’r dyddiad cau ar gyfer cynigion cyllid Cyfnewidfa Q yn agosáu’n gyflym, anogir cydweithwyr iechyd proffesiynol sydd â syniadau arloesol i gymryd y cam nesaf. Ewch i wefan Cyfnewidfa Q a chyflwyno’ch syniad.
- Mae Cyfnewidfa Q yn cynnig cyfle u aelodau Q ddatblygu syniadau prosiect a chyflwyno ceisiadau am hyd at £40,000 o gyllid.
- Mae Cyfnewidfa Q wedi dyrannu £800,000 o gyllid ar gyfer ei rhaglen yn 2024. Mae’n cael ei gyflwyno gan Q a’i ariannu ar y cyd gan y Sefydliad Iechyd a GIG Lloegr.
- Mae proses ar-lein gydweithredol Q yn cefnogi ymgeiswyr i fireinio a datblygu eu syniadau prosiect gyda chymorth cymuned Q.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich syniadau i wefan Q yw dydd Mawrth 27 Chwefror 2024, 12.00.