Meistr Diagnosteg Canser Cymru – Dr Balan Palaniappan

Dr Balan Palaniappan – sef yr Arweinydd Clinigol ar gyfer Canser ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – sy’n dweud wrthym am ei gysylltiad gyda Gwelliant Cymru, ac yn edrych at ddyfodol ei waith

Rwy’n dwlu ar drosiadau. Pwy fyddai ddim? Maen nhw’n cyfleu cymaint o bethau. Dros y deuddeg mis diwethaf, mae ein cyfeillion yn Gwelliant Cymru wedi gweithio gyda ni yn yr adran Radioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrth i ni ystyried sut i symleiddio ein gwasanaethau a’n llwybrau gofal i gyflenwi’r Llwybr Gofal Canser Sengl. Neu, gallech ddweud eu bod wedi mynd â’r maen i’r wal a’n helpu i wthio ein gwaith yn ei flaen.

Fodd bynnag, pryd bynnag y bydd Gwelliant Cymru’n dod i weithio gyda ni, mae ’na berygl o hyd y bydd neges e-bost yn aros amdanaf yn gofyn i fi siarad yn un o’u digwyddiadau…

Ym mis Chwefror, siaradais yn y gweithdy Llwybr Gofal Canser Sengl oedd yn canolbwyntio ar ddiagnosteg a’r angen am gyflymder a llif yn ein hadran. Ers hynny, rydyn ni wedi bod yn ystyried llif a chydsymud ein holl waith Radioleg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae tîm Gwelliant Cymru wedi’n helpu i weld hyd a lled ein her. Sut gallwn sicrhau gwasanaeth diagnosteg prydlon o ansawdd uchel, nid yn unig i gleifion dan amheuaeth o fod â chanser, ond i bawb sy’n cael ei gyfeirio i’r adran Radioleg? Mae’r galw’n cynyddu, ac rydym yn gwneud ein gorau glas i fodloni’r anghenion hynny. Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed yn edrych ar ein prosesau, yn ymweld ag ysbytai eraill yn y DU, yn herio ein hunain i feddwl am sut gallwn weithio mewn ffordd wahanol, yn ogystal â chofio o hyd bod pob claf yn haeddu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf.

Mae’r llwybrau optimaidd cenedlaethol ar gyfer y mathau mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amlygu pa mor bwysig yw’r gwasanaeth diagnostig trwy gydol y llwybr gofal, o ran helpu rhoi diagnosis a phennu cam i’r canser, yn ogystal â helpu i bennu a oes gan y claf ganser ai peidio.

Ym mis Tachwedd, cefais wahoddiad i siarad yn nosbarth meistr Diagnosteg Canser Cymru yng nghynhadledd Gwelliant Cymru.

Gan ddefnyddio enghraifft o Radioleg, roedd y gweithdy hwn yn archwilio llif gwaith o fewn adran. Mae llif cleifion yn dibynnu ar nifer o brosesau y mae angen iddynt weithio mewn modd effeithlon a dibynadwy. Cyflwynais astudiaeth achos o’m bwrdd iechyd a ddangosodd effaith y galw cynyddol ar yr adran ddiagnosteg, y problemau gyda toriadau llwybrau a digwyddiadau yn codi.

Y broblem rydym yn ei darganfod yw bod yr holl alw hwnnw’n cyrraedd yn ein hadran ar wahanol adegau, ac rydym wedi creu amrywiaeth o brosesau er mwyn delio â hyn. Rydym ni wedi creu capasiti, creu is-arbenigeddau a threfnu contractau allanol. Wrth edrych o’r tu allan, gallwch bron ddychmygu bod yr holl alw yn edrych yn debyg i beiriant cymysgu bwyd anferth. Yn awr, rydym yn gofyn i’n hunain, a oes ffordd well o fodloni anghenion ein cleifion? O ran canser, caiff dros 50% o fathau o ganser eu hamlygu trwy lwybrau atgyfeirio arferol, yn hytrach na llwybrau gofal amheuaeth frys o ganser. Ond rydym yn trefnu ein hunain i flaenoriaethu cleifion rydym yn amau bod ganddynt ganser. Mae’n bwysig, os nad oes canser gyda rhywun, ein bod yn rhoi tawelwch meddwl iddyn nhw cyn gynted â phosibl; ond, wrth gwrs, y safon aur yw bod pob claf y mae angen sgan arno – ni waeth faint o argyfwng ydyw – yn cael ei ddelwedd wedi’i gwblhau a’i adrodd yn gyflym.

Calonogol oedd clywed am y cynlluniau ar gyfer dyfodol y rhaglen ddiagnosteg ganser:

  • Cefnogi newidiadau a gwelliannau yn llif cleifion canser trwy’r llwybr, sy’n amlygu’r ffocws ar y maes diagnostig, a’r gwaith a wneir i gynorthwyo sefydliadau ledled Cymru,
  • Cychwyn a chefnogi sgwrs genedlaethol i alinio â’r fframwaith cyflenwi newydd, gan roi cyfle i ysgogi trafodaeth ynghylch sut gall y rhaglen gefnogi timau / Byrddau Iechyd i gael dealltwriaeth well o’r ffordd maen nhw’n gweithio; ac
  • Amlygu meysydd y gellir eu gwella er mwyn cyflawni’r nod gyffredinol o gynyddu nifer y cleifion sy’n cwblhau eu hymchwiliadau diagnostig o fewn 28 diwrnod o’r dyddiad yr amheuir canser.

Cafodd y dosbarth meistr ei ystyried yn fan cychwyn yn unig ar gyfer y daith tuag at welliant yn ein maes ledled Cymru. Roedd gweld cynrychiolwyr gwahanol Fyrddau Iechyd yn rhannu eu problemau, eu syniadau a’u hymdrech i ysgogi newid yn rym pwerus i fod yn rhan ohono. Mae gweithio gyda Gwelliant Cymru yn ein helpu i ddysgu cyn i ni ail-ddylunio a dechrau’r ymyriadau.

Yn rhan o’n gwaith gyda Gwelliant Cymru, rydym yn edrych tua’r dyfodol, sef uwchsgilio ein staff gyda gwybodaeth a methodoleg gwelliant, grymuso ein haelodau staff i weld y system fel y mae’n gweithio, eu hannog i wneud profion newid bychain a gosod y claf yng nghanol ein nodau, sy’n dangos y gallwn wneud newidiadau i wella ein systemau gyda’n gilydd, er lles pobl Cymru yr ydym yn gofalu amdanynt.

Felly, mae digonedd o drosiadau i’w cynnig i chi: ‘Rydyn ni ar daith’, ‘With a little help from our friends’, neu hyd yn oed o High School Musical – ‘We’re all in this together’.