Eich teithiau Gwelliant – Dominique Bird
Gofynnom i gynrychiolwyr yn ein cynhadledd rannu eu teithiau gwelliant personol, beth sydd nesaf iddynt a pha gymorth y mae arnynt ei angen. Cefais fy mhlesio’n arw gan yr ymatebion a dderbyniom, a faint ohonyn nhw oedd yn cyd-fynd â’r meysydd roedden ni wedi canolbwyntio arnynt yn gynt y bore hwnnw.
Daeth themâu i’r amlwg yn ymwneud â chysylltiadau clir a chymorth penodedig, cyngor, mentora, mynediad i rwydwaith o arbenigedd, hyfforddiant sgiliau gwelliant ehangach, arweinyddiaeth ar gyfer gwella a newid ymddygiad, gan gynnwys sylwadau fel:
‘ddim yn siŵr ble i fynd, neu at bwy, os bydda’ i eisiau dechrau prosiect gwelliant – rwy’n gyfarwydd â rhai o’r pethau sylfaenol, ond rwy’n teimlo fy mod i ar ben fy hun braidd’
‘help i ddeall pa ddulliau sefydliadol sy’n arwain at welliant a beth sy’n ei atal’
‘cymorth â sut i ddylanwadu ar arweinyddiaeth yn y sefydliad ac arweinyddiaeth y system i gynorthwyo gwelliant’
‘mwy o hyfforddwyr ac arweinwyr sydd â’r hyfforddiant a’r dylanwad priodol ar gyfer newid’
Hefyd, cafwyd rhai sylwadau ynghylch yr anghenion o ran amser, gofod a natur gymhleth y newid angenrheidiol – ‘mae angen llawer mwy na chwrs hyfforddi ar gyfer rhai tasgau gwella sy’n fwy cymhleth’. Rydym yn gobeithio y bydd cyflwyno ein Hacademi Gwelliant newydd yn helpu mynd i’r afael â sawl un o’r ceisiadau hyn am ragor o gefnogaeth. Bydd yr Academi yn cynnig mwy na hyfforddiant yn unig, a bydd yn fodd o helpu i gryfhau’r cysylltiadau a’r rhwydweithiau cymorth hynny. Hefyd, rydym yn parhau i weithio ar yr atebion ac yn datblygu ein helfennau newydd yn sgil yr adborth a gawn gan wellhawyr.
Yn fy mlog diwethaf, trafodais fod angen canolbwyntio ar amodau ar gyfer gwelliant, cysylltiadau ar gyfer gwelliant ac yna’r gallu i wella ac, yn y gynhadledd, lansiom gwtsh yr Academi, sy’n dod â’r tri chysyniad hwn at ei gilydd:
Egwyddorion sylfaenol yr Academi bydd cefnogi ymgorffori ethos o welliant trwy’r tair agwedd hon:
Amodau – sut gallwn greu amodau’r system ehangach sy’n golygu, pan fydd timau’n rhoi cynnig ar wella, y byddant yn cael amser, gofod ac ymddiriedaeth i brofi, a methu o bosibl, ond, yn bwysicach na hynny, dysgu o’u methiannau a phrofi eto er mwyn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd.
Gallu – sut gallwn adeiladu’r sgiliau gwelliant o fewn y timau, i’w galluogi i ddechrau eu gwelliannau yn hyderus – ac, ar gyfer y rheiny sydd eisoes ar y daith honno, sut gallwn eu datblygu ymhellach i gefnogi a hyfforddi pobl eraill yn lleol, neu ehangu eu sgiliau gwelliant ymhellach.
Cysylltiadau – sut gallwn sicrhau bod y rheiny sy’n meddu ar arbenigedd gwella, neu arbenigedd yn y pwnc, yn cael eu cysylltu â’r rheiny y mae angen cymorth arnynt, a gwybodaeth am yr hyn sydd wedi llwyddo yn rhywle arall, fel bod modd lledaenu’r egwyddorion – nid yr un dull yn union.
Mae angen ystyried gwelliant yn ei ystyr ehangaf. Peidiwch ag anghofio mai 20% yn unig o Welliant sy’n ymwneud â sgiliau technegol; mae 80% ohono’n ymwneud â pherthnasoedd – sy’n rhywbeth rydym yn gobeithio y gallwch eu datblygu ymhellach gyda’n help ni.
Rhannwch eich taith welliant gyda ni ar Twitter #GydanGilyddGallwn #GwelliantCymru