Blwyddyn ers cyfyngiadau symud cyntaf y DU – cofio ac edrych tuag at y dyfodol gan John Boulton, Cyfarwyddwr, Gwelliant Cymru

Roedd ddoe yn nodi blwyddyn ers dechrau’r cyfyngiadau symud cenedlaethol yn y DU. Ers hynny, mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn i bob un ohonom. Rydym yn cofio am y rhai a fu farw, am y rhai sydd wedi colli aelod o’r teulu neu am y rhai sydd wedi colli anwylyd. Ac rydym yn meddwl am ein cydweithwyr yn y GIG sydd wedi bod yn gweithio o dan bwysau aruthrol ac ar gyflymder trwy gydol yr amser hwn.

Nid yn unig y mae’n bwysig myfyrio a chofio, ond mae hefyd yn bwysig edrych tuag at y dyfodol, dysgu a dechrau dychmygu sut y gallai’r dyfodol edrych i GIG Cymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol: System Iechyd a Gofal sy’n Dysgu. Dechreuodd y gwaith ar y fframwaith cyn y pandemig ac mae wedi’i ailfframio yng ngoleuni COVID-19. Mae’n adeiladu ar y set o gamau a amlygwyd yn Cymru Iachach (cyhoeddwyd yn 2019) ac mae’n pwysleisio’r angen i drawsnewid y system gofal iechyd yng Nghymru, mae’n ystyried yr hyn rydym wedi’i ddysgu ac mae’n amlinellu ffordd ymlaen ar gyfer gwneud y gwelliannau hyn.

Mae’r Fframwaith yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu system iechyd a gaiff ei gydgysylltu’n genedlaethol a’i ddarparu’n lleol, sydd ei angen i sicrhau gofal iechyd darbodus sy’n seiliedig ar werth ar gyfer pobl Cymru. Mae gwella yn thema bwysig trwy gydol y ddogfen. Mae’n amlinellu pa mor bwysig ydyw i adfer ac i ddyfodol ein gwasanaethau yng Nghymru.

Er bod gwella yn thema bwysig yn y Fframwaith, mae’r ffordd y mae gwasanaethau’n rheoli ar gyfer ansawdd hefyd yn thema bwysig. I fi, mae hyn yn ffactor allweddol sy’n cefnogi gwella mewn sefydliadau trwy osod amcanion yn glir, ond trwy geisio creu’r amodau angenrheidiol i gefnogi’r gwella hefyd. Fel tîm, rydym wedi dechrau edrych ar y ffordd y gallwn gefnogi hyn ac rydym yn gweithio gyda nifer o dimau bwrdd ledled Cymru.

Wrth i sefyllfa’r pandemig ddechrau gwella gobeithio, mae tîm Gwelliant Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr yn GIG Cymru unwaith eto. Fe’u hadleolwyd i helpu ag ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru i COVID-19 dros y flwyddyn diwethaf. Ond, yn y cyfnod hwnnw, maent wedi gallu defnyddio eu sgiliau a’u harbenigedd gwella i gefnogi cydweithwyr â ffyrdd newydd o weithio. Byddwn yn chwarae rhan weithredol wrth gefnogi GIG Cymru ar gam nesaf y daith, ac rydym yn edrych ymlaen at gyfrannu at ddarparu’r Fframwaith hwn, fel bod pobl Cymru’n derbyn y gofal gorau posibl.