Symud a Symudedd, codi ymwybyddiaeth o fanteision cynyddu eich gweithgarwch corfforol, gan Andrew Clyne, Ymarferydd Cwympiadau Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae Llwybr Safonau Gofal Dementia ar gyfer Cymru Gyfan yn hyrwyddo Symud a Symudedd fel rhan o Safon 9. Arweiniwyd y gwaith i gynhyrchu’r Safon hon gan Gwelliant Cymru a phartneriaid er mwyn hyrwyddo iechyd corfforol a lles meddyliol yn dilyn diagnosis o ddementia neu nam gwybyddol ysgafn.

Gwyddom fod ymarfer corff yn gwella cryfder, cydbwysedd, symudedd a lefelau dygnwch, gan helpu i atal cwympiadau ymhlith odolion sydd â dementia neu nam gwybyddol. Gall ymarfer corff godi ein hwyliau a’n gwneud yn hapus.

Mae tystiolaeth hefyd yn awygrymu y gall ymarfer corff a wneir ar y cyd fod â manteision i’r unigolyn sydd â dementia a’i ofalwr drwy gynnal a, pan ellir, gwella eu gweithrediad corfforol, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol, perthynas ac ansawdd bywyd.

Rydym yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r manteision pe bai pobl yn cynllunio i wneud o leiaf tair sesiwn o weithgarwch corfforol yr wythnos.

Sgwrsio

Dylai o leiaf un sesiwn fod gyda phobl eraill, y hytrach na’n unigol. Dylai wneud i chi sgwrsio â’ch gilydd.

Bod yn Gryf

Dylai o leiaf un sesiwn gynnwys ymarferion cryfder a chydbwysedd. Dylai herio eich cydbwysedd a chynyddu eich cryfder.

Anadlu’n Ddwfn

Dylai o leiaf un sesiwn fod yn yr awyr agored a chynnwys grisiau, llethrau neu riwiau/elltydd. Dylai wneud i chi anadlu’n ddwfn.

Yn ystod y 18 mis o ymgysylltu, trafodaethau ac adborth grymus i lunio’r safonau, dywedodd pobl wrthym fod yna ddiffyg gwybodaeth ynglŷn â phwysigrwydd Symud a Symudedd.

Rydym yn edrych ar yr hyfforddiant a’r gefnogaeth sydd ei hangen ar grwpiau ymarfer corff, sesiynau a chlybiau lleol fel eu bod yn fwy hyderus i gefnogi eu haelodau sy’n gwneud ymarfer corff gyda dementia.

Clywodd Gwelliant Cymru gan bobl a ddywedodd eu bod wedi cael mynediad at arbenigedd ym maes symud a symudedd wedi i broblemau godi.

Mae’n bwysig bod gan bobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a staff yng Ngwasanaethau Asesu’r Cof fynediad hawdd ar ffisiotherapyddion os bydd unrhyw newidiadau yn digwydd mewn symudedd yn dilyn diagnosis o ddementia.

Storïau o’r gweithdai ymgysylltu:

Roedd Kenn yn byw ar ei ben ei hun mewn pentref mawr. Roedd wedi cwympo ar fwy nag un achlysur ond nid oedd yn gallu mynychu’r Grŵp Cryfder a Chydbwysedd. Cafodd ei weld gan Ffisiotherapydd a rhoddwyd Rhaglen Ymarfer Corff bwrpasol iddo. Roedd hon yn cael ei chadw mewn ffolder melyn yn y gegin a byddai ei fab yn ffonio, tri diwrnod yr wythnos, er mwyn atgoffa Kenn i wneud y rhaglen.

Roedd Gareth yn ŵr heini yn ei 50au pan gafodd diagnosis o ddementia cynnar. Ar adeg y diagnosis byddai’n mwynhau cerdded a rhedeg yn lleol. Yna dechreuodd gael trafferth i redeg yn ddiogel, felly defnyddiodd beth o’i gyllideb bersonol i dalu am Ofalwr i fynd am dro gydag ef bob wythnos. Ymunodd â’r Teithiau Cerdded Iechyd Lleol o’r Ganolfan Hamdden leol, neu fe fyddai’n cerdded gyda’i Ofalwr. Nid oedd hi’n hawdd dod o hyd i Ofalwr a oedd yn ddigon heini i gerdded ar gyflymder da am rhwng 3 a 5 milltir a darparu cefnogaeth i Gareth, ond roedd Gareth yn gallu parhau i gerdded ar ôl dod o hyd i Ofalwr addas.

Roedd Dorothy yn gerddwraig frwd. Ar ôl derbyn diagnosis o ddementia ymunodd â grŵp Cerdded Nordig gyda’i merch. Byddai Dorothy yn sgwrsio ag aelodau’r grŵp yn ystod y sesiynau ac yna dros gwpanaid o de. Dros y blynyddoedd datblygodd Dorothy ofn cynyddol o gŵn, ac oherwydd hyn byddai aelodau eraill y grŵp bob amser yn sicrhau eu bod yn ymgasglu o’i chwmpas i warchod Dorothy rhag unrhyw gi a oedd yn agosau.

Roedd Alison, gweithiwr iechyd proffesiynol wedi ymddeol yn ei phedwar ugeiniau a fyddai’n gwneud ymarfer croff gyda dementia, yn aelod rheolaidd o’r sesiynau ymarfer corff tra’n eistedd yn y Ganolfan Hamdden leol am nifer o flynyddoedd. Dros amser daeth yn llai abl i siarad ond roedd hi wastad yn mwynhau’r sesiwn. Un diwrnod aeth aelod arall o’r grŵp allan o wynt a chafodd bwl o banig. Cerddodd Alison ati ac eistedd wrth ei hymyl a dal ei dwylo hyd nes i’r unigolyn adfer rheolaeth dros ei hanadlu. Roedd ei phersonoliaeth a’i chefndir proffesiynol yn ei gwneud yn aelod gwerthfawr o’r grŵp ymarfer corff.

Gellir gweld poster gyda rhagor o wybodaeh am Symud a Symudedd yma

Gellir gweld y Llwybr Safonau Gofal Dementia ar gyfer Cymru Gyfan (Disgrifyddion Safon Lefel Uchel) yma

Mae Andrew Clyne yn ffisiotherapydd ac yn gweithio’n Sir Benfro fel Arbenigwr Cwympiadau Clinigol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda