Ein Harweinydd Newydd ar gyfer Ymchwilio, Arloesi a Gwella
Dechreuodd Mark Griffiths yn y rôl newydd hon gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru gan weithio’n agos â’n Cyfarwyddwr, Dr John Boulton, ar yr union adeg y dechreuodd y Cyfyngiadau Symud Covid-19. Yma, mae’n rhannu ei ddealltwriaeth o effaith y pandemig a’r hyn y mae’n ei olygu o ran ymchwilio, arloesi a gwella ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Nawr, yn fwy nag erioed o’r blaen efallai, mae Covid-19 wedi dwyn sylw pawb at rôl hanfodol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a gofal cymdeithasol; o ran eu mawredd yn ogystal â’u gwendidau. Mae llywodraethau wedi bod yn ymwybodol o hyn, yn ôl pob tebyg, trwy gydol hanes y sefydliad dros 70 mlynedd. Fe wnaeth yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru amlinellu nifer o argymhellion ar sut i fynd i’r afael â rhai o’r heriau bythol, a chefnogi newid ledled y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn y blynyddoedd i ddod. Un argymhelliad allweddol yw cynyddu gwerth cyllido iechyd a gofal trwy wella, arloesi, defnyddio arferion gorau, a dileu gwastraff. Yn y bôn, mae’n fater o wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, a lleihau amrywio direswm.
Ymateb Llywodraeth Cymru oedd cyhoeddi cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn nogfen ‘Cymru Iachach’. Un o’r camau gweithredu oedd sefydlu rhwydwaith o hybiau a gydlynir yn genedlaethol sy’n dod â gweithgarwch ymchwilio, arloesi a gwella ynghyd o fewn ôl troed pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Er mwyn cydlynu’r uchelgais hon a darparu pwyntiau cyswllt ar gyfer yr hybiau rhanbarthol, penodwyd Arweinwyr Ymchwilio, Arloesi a Gwella cenedlaethol o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Pa wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud..?
Ar ôl ymgymryd â’r rôl yn llawn o fis Ebrill, rwy’n dechrau datblygu partneriaethau â’r saith hyb ymchwilio, arloesi a gwella, ac o fewn diwydiant a sefydliadau lleol a chenedlaethol eraill. Y nod yw cefnogi ein staff o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac yn wir holl boblogaeth Cymru, gan fabwysiadu’n ehangach rhai o’r arferion iechyd mwyaf addawol sy’n mynd i’r afael â’r blaenoriaethau iechyd cyhoeddus mwyaf hanfodol. Mewn rhyw ffordd fach, mae’n debyg i’r modd y cafodd cynllun Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar ei ehangu, a helpodd i ysbrydoli creu’r GIG.
O ran cyflawni gwelliannau a bod yn arloesol, ceir posibiliadau diddiwedd. O dreialon coffi ar hap gan ddefnyddio technoleg isel (neu ddim technoleg o gwbl), sy’n dod â phobl ynghyd na fyddent fel arfer ag unrhyw reswm i siarad â’i gilydd, hyd at ddilyniannu genom cyfan, a phopeth sydd rhwng y ddau begwn hyn. Mae gan fy rôl y potensial i leihau amrywio cenedlaethol, a helpu i gydlynu mabwysiadu rhai o’r arferion iechyd a gofal rhanbarthol gorau. Bydd heriau’n bodoli hefyd. Nid yw bob amser yn bosibl i gymryd ymyrraeth neu syniad newydd sy’n gweithio mewn un lleoliad a disgwyl i’r un peth ddigwydd mewn man arall. Er mwyn mabwysiadu ac ehangu ffordd newydd o weithio, mae’n bosibl y bydd angen ei haddasu i gyd-fynd â’r cyd-destun lleol.
Argyfwng Covid
Wrth gwrs, mae hyn i gyd yn digwydd yng nghyd-destun yr argyfwng Covid, sydd wedi newid y dirwedd yn llwyr ac wedi cyflwyno nifer o heriau. A yw hyn wedi difetha ein cynlluniau? Nac ydy. Yn hytrach nag amharu ar arloesi, dylem ymdrechu i ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer arloesi aflonyddgar er mwyn cynhyrfu’r drefn naturiol wrth i ni ailystyried ein blaenoriaethau. Yn sicr, mae’n wir fod y pandemig wedi’n gorfodi i fod yn greadigol o ran y ffordd rydym yn cyfathrebu. Diolch i’r oes ddigidol, mae gennym ddigon o opsiynau ar gyfer cadw mewn cysylltiad (gormod, efallai) trwy offer fideogynadledda cwmwl ar-lein fel Zoom, Microsoft Teams, Skype a Google Meet. Yn y bedwaredd oes hon o dechnoleg gwybodaeth, rydym wedi gweld cynnydd mewn ymgynghoriadau ar-lein â meddygon teulu, ac mae platfformau fel Proximie yn darparu realiti estynedig yn null Avatar i lawfeddygon ‘rith-sgwrio dwylo’ a chynorthwyo â llawdriniaethau mewn unrhyw fan yn y byd. Cyn Covid, trafodwyd y datblygiadau arloesol hyn, ond roedd llesgedd yn mygu cynnydd.
Mae Covid wedi gorfodi’r system i newid ac mae’r cynnydd wedi bod yn rhyfeddol. Mae’r aflonyddwch wedi canolbwyntio meddyliau mewn ffordd hollol newydd. Mae diwydiannau y tu allan i’r sector iechyd wedi addasu argraffu 3D i gynhyrchu feisorau diogelu, ac mae prifysgolion yn addasu profion diagnostig i gadarnhau achosion o Covid-19. Mae’r rhestr yn parhau… Felly, mae’n bwysig ein bod yn gweld y cyfleoedd. Ysgrifennodd H.G. Wells yn The War of the Worlds, “Drwy doll o biliwn o farwolaethau, mae dynoliaeth wedi prynu’r ddaear fel ei genedigaeth-fraint, a dynoliaeth sy’n ei dal yn erbyn pob bygythiad.” Mae bywyd yn parhau. Gall pob un ohonom helpu i lunio dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol trwy ymchwilio, arloesi a gwella gwasanaethau. Y man cychwyn yw rhannu problemau, ac arddangos arferion gorau, a dysgu gan eraill. I’r perwyl hwn, rwyf eisiau clywed eich syniadau am sut y gall ymchwilio, arloesi a gwella helpu i lunio a newid dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. A oes gennych chi syniad neu ymyrraeth newydd a all fod o fudd? Os felly, gallaf helpu i rannu’r syniadau hyn a chefnogi eu mabwysiadu’n ehangach. A oes gennych angen nad yw wedi’i fodloni, sydd efallai’n berthnasol i bobl eraill hefyd, ac o bosibl wedi’i oresgyn yn llwyddiannus?
Gallaf weithio â chydweithwyr ar draws yr Hybiau i nodi atebion i broblemau, atebion y gallwn eu rhannu â balchder. Gan weithio gyda’n gilydd, gallwn ehangu rhai o’r datblygiadau arloesol gwych a’r cyfleoedd ar gyfer gwella gwasanaethau fel y gall mwy o bobl elwa. Byddwn wrth fy modd yn clywed am eich syniadau neu eich anghenion sydd heb eu bodloni. Gallwch anfon neges e-bost ataf: mark.griffiths5@wales.nhs.uk