Cam Pwysig Ymlaen i Wella Ansawdd yng Nghymru – Dr John Boulton

Yn gynt y mis hwn, ar 3 Mehefin 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) wedi derbyn cydsyniad brenhinol, a bod disgwyl y bydd y Bil yn cael ei weithredu o fewn y ddwy flynedd nesaf. Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru o ran sicrhau bod systemau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn parhau i anelu at ddarparu gwasanaethau a deilliannau o ansawdd uchel i’r bobl y maen nhw’n eu gwasanaethu.

Ers dros ddegawd, mae gwella ansawdd wedi bod yn ffocws pwysig i lawer o systemau gofal iechyd ledled y byd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Cymru wedi bod yn weithgar iawn yn gwreiddio ethos gwella yn y system, er enghraifft, drwy:

  • Yr Ymgyrch 1000 o Fywydau,
  • Rhaglen Hyfforddiant Gwella Ansawdd dan gyfarwyddyd cenedlaethol, sef Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd
  • Gofal Iechyd Darbodus
  • Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth
  • Cymru Iachach

Mae’r rhain oll yn enghreifftiau gwych o ffocws ar ansawdd a chefnogaeth yr agenda gwella. Yn ddefnyddiol iawn, mae’r Bil yn pwysleisio’r ffocws hwn ar wella ansawdd. Fodd bynnag, wrth roi’r Bil ar waith, mae’n glir fod rhaid i ansawdd fod yn nodwedd o’r system, nid adran neu gyfarwyddiaeth. Rhaid mai dyma fusnes y sefydliad. I gyflawni hynny, bydd angen dull cyfannol o reoli ansawdd yn effeithiol. Un sy’n cwmpasu gwella ansawdd, cynllunio ansawdd a rheoli ansawdd. A rhaid i ni gael sicrwydd bod yr elfennau hyn yn eu lle. Credaf fod y Bil yn ategu’r syniad hwn yn gefnogol.

O safbwynt Gwella Ansawdd, mae ansawdd wedi’i hen ddiffinio yn ddiogel, yn amserol, yn effeithiol, yn effeithlon, yn deg ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddai’n anodd dadlau nad yw’r rhain yn ddimensiynau defnyddiol ar ddiffinio ansawdd a’u bod yn rhai sydd wedi’u defnyddio ers dros ddau ddegawd. Fodd bynnag, ymddengys eu bod yn canolbwyntio ar system iechyd. O edrych yn ôl trwy ddogfennau, mae llawer o ddiffiniadau o ansawdd ac nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnig cymaint o fanylder â’r uchod.

Ar eu mwyaf sylfaenol, mae’r diffiniadau hyn yn ‘bodloni neu’n rhagori ar angen cwsmeriaid’. Rwy’n hoff o ddiffiniad o’r fath gan ei fod yn ychwanegu llais y cwsmer. Mae’r Bil yn gwneud yr union beth, gan sicrhau mai llais y dinesydd sy’n cael y lle blaenaf a’n bod ni, fel sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ymateb i’w hangen yn fwy effeithiol.

Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda fy nhîm a sefydliadau partner i gamu ymlaen â’r gwaith hwn wrth i ni symud heibio’r pandemig yn y misoedd sydd i ddod. Mae llawer y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd ar ran pobl Cymru.